Rydym yn creu ffilmiau i’r diben wedi eu teilwrio i anghenion eich sefydliad.
Trwy ddynodi eich rhwystrau i ymarfer cynhwysol, rydym yn gweithio gyda’n hactorion proffesiynol i ddwyn yr heriau yma’n fyw ar y sgrin, gan ddefnyddio eu profiad personol i archwilio datrysiadau.
Mae’r ffilmiau rhyngweithiol hyn yn cadw diddordeb staff, yn annog myfyrio, ac yn darparu dealltwriaeth ddilys, dan arweiniad yr actorion. Mae pob ffilm yn gorffen ar nodyn cynhyrchiol, cadarnhaol, gan roi’r offer i dimau greu newid gwirioneddol. Mae actorion proffesiynol gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn arwain, gan gynnig gwersi grymus o’r byd go iawn.
Beth yw’r manteision?
- Ffilm hyfforddi i’r diben gyda sefyllfaoedd gwaith gwirioneddol
- Staff yn teimlo yn fwy parod i gyfathrebu gyda chwsmeriaid bregus neu gydweithwyr
- Dangos eich ymrwymiad i gydraddoldeb
- Mwy o ymgysylltiad gan staff – o fudd i dimau mawr ac sy’n gweithio o bell
Beth mae’n ei gynnwys?
- Datblygu sgript ffilm
- Ffilmio ar leoliad gydag actorion Hijinx a’n staff cefnogi
- Hawliau ar y ffilm derfynol (telerau i’w cytuno)
 Edrychwch ar rai enghreifftiau o’n ffilmiau hyfforddi blaenorol isod.
Prifysgol Bangor & Prifysgol De Cymru (2019).
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (2021).
Darparodd Hijinx yr ateb delfrydol… mae’r adborth wedi bod yn unfrydol o gadarnhaol!
Cyfreithwyr Hugh James