Byddwch yn fwy na chefnogwr. Dewch yn aelod o Hwb Hijinx a helpu i ailddiffinio beth sy’n bosibl mewn celfyddydau cynhwysol.
Ymunwch â chymuned o rai sy’n creu newid sy’n credu yng ngrym perfformiad i drawsnewid bywydau.
Mae eich rhodd fisol yn grymuso artistiaid gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i hawlio canol y llwyfan yng Nghymru a thu hwnt – gan greu gwaith o’r safon uchaf, chwalu rhwystrau ac ysbrydoli miloedd.
Nid dim ond ariannu theatr a ffilm ydych chi; rydych yn agor drysau, cynyddu hyder a gwneud y celfyddydau yn wirioneddol hygyrch i bawb.
- Mae 90% o’n hartistiaid a chyfranogwyr yn cofnodi bod eu hyder wedi cynyddu
- Mae 73% yn dod yn fwy annibynnol
- Mae pob £1 a fuddsoddir yn Hijinx yn creu £5 mewn gwerth cymdeithasol
Dewiswch eich lefel a mwynhau manteision unigryw, effaith grymus a sedd yn y rhes flaen ar ein taith.
Mae rhagor o wybodaeth am haenau cymorth Hwb Hijinx i’w gweld isod.

Haenau Hwb Hijinx.
🥉 EFYDD — £5/y mis (£60/y flwyddyn) 🥉
Perffaith i gefnogwyr brwd sydd am hyrwyddo theatr gynhwysol trwy’r flwyddyn.
Byddwch yn rhan o deulu Hijinx – a byddwn yn eich ysbrydoli gyda storïau am y gwahaniaeth yr ydych yn ei wneud.
Mae’r manteision yn cynnwys:
- Pecyn croeso gyda llythyr diolch a bathodyn enamel Hijinx
- Eich enw ar ein gwefan
- Cylchlythyr cefnogwr chwarterol gyda storïau o du ôl i’r llen a’r diweddaraf am eich effaith
- Adroddiad effaith blynyddol gan ein tîm a’n hactorion
🥈 ARIAN — £10/y mis (£120/y flwyddyn) 🥈
I roddwyr ymroddedig sydd am gysylltiad dyfnach â’n gwaith.
Dewch yn agos i weld yr hud – a helpu i siapio beth sy’n digwydd nesaf.
Yn cynnwys yr holl fanteision Efydd, a:
- Cardiau post neu ddiweddariadau fideo o ymarferion, teithiau neu sesiynau hyfforddi
- Byddwch yn gynulleidfa brawf – cewch wahoddiadau unigryw i rag-ddangosiadau ac i roi adborth ar waith newydd
🥇 AUR — £25/y mis (£300/y flwyddyn) 🥇
I noddwyr angerddol fydd yn helpu i siapio dyfodol celfyddydau cynhwysol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwaith dewr, sy’n chwalu rhwystrau, yn bosibl – a byddwn yn eich dwyn yn nes at y gwaith nag erioed o’r blaen.
Yn cynnwys yr holl fanteision Arian, a:
- Gwahoddiadau VIP i Nosweithiau’r Wasg a Dathliadau – dewch i ddathlu gwaith newydd a cherrig milltir gyda’n cast a’n tîm creadigol
- Gwahoddiad ecsgliwsif i Gyfarfod Blynyddol Hijinx – ymunwch â’n harweinwyr i gael dealltwriaeth a chlywed am gynlluniau’r dyfodol
- Nwyddau unigryw Hijinx – ffordd o ddiolch i chi a dathlu eich haelioni
Ymwadiad: Mae’r holl fanteision Aelodaeth yn ddibynnol ar argaeledd.
