Cyfiawnder Hinsawdd

a Chyfrifoldeb Amgylcheddol yn Hijinx

Rydym yn gweithio’n galed i brofi syniadau a dulliau gweithredu newydd sy’n gostwng ein heffaith ar y blaned. Rydym ar daith ac yn gweld rhai canlyniadau gwych ond mae bob amser fwy i’w wneud.

 

Ni ein hunain.

Anelwn greu amgylcheddau gwaith effeithiol a chynaliadwy, gan ddefnyddio cyn lleied byth o adnoddau a chynhyrchu cyn lleied byth o wastraff ag sydd modd.

Mwy o wybodaeth

Ein Diwydiant.

Drwy rannu data ac arferion da, a thrwy gydweithio gydag eraill, ymdrechwn i wneud y diwydiant diwylliant yn fwy cynaliadwy.

Mwy o wybodaeth

Ein Cynulleidfaoedd a Chyfranogwyr.

Gobeithiwn y bydd ein cynulleidfaoedd a chyfranogwyr yn deall proses benderfynu Hijinx a’n cyfraniad at fyd cynaliadwy ac y teimlant y byddant wedi gael gwybodaeth ac ysbrydoliaeth am y cyfraniad y gallant ei wneud fel unigolion.

Quote symbol

Mae’r argyfwng hinsawdd hefyd yn argyfwng y dychymyg. Ni allwn ei gyflawni os na fedrwn ddychmygu ffordd fwy cynaliadwy a chyfiawn o fyw.

Quote symbol

Gall sefydliadau artistig a diwylliannol fod yn bwerdai newid, gan helpu i greu a llunio ffyrdd newydd o feddwl ac o wneud.

Quote symbol

Dyma’r amser i gwrdd yr argyfwng gyda dychymyg.

Anthony Simpson-Pike; Awdur, cyfarwyddwr a dramatwrg

We Are Albert & The Theatre Green Book.

Mae Albert yn cefnogi’r diwydiant ffilm a theledu byd-eang i ostwng effeithiau amgylcheddol cynhyrchu a chreu cynnwys sy’n cefnogi gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Mae’r Llyfr Gwyrdd yn gosod safonau ar wneud cynyrchiadau theatr yn gynaliadwy. Gweithiwn rhwng y ddau fframwaith hwn wrth greu ein cynyrchiadau, a thuag at ISO20121 wrth gynnal ein Gŵyl Undod.

Diwylliant yn Datgan Argyfwng.

Mae mudiad cynyddol o bobl yn y celfyddydau a diwylliant yn datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Ymrwymwn i ddweud gwirioneddau, gweithredu a cheisio cyfiawnder. Credwn y gall y celfyddydau a diwylliant arwain at greu dyfodol adferol sy’n diogelu’r blaned ac yn cynnal pawb, ym mhobman.

Mwy o wybodaeth

Helpwch ni i Helpu'r Blaned.

Mae’n daith hir

Ymrwymwn i fod yn dryloyw yn ein holl ymdrechion, llwyddiannau a darganfyddiadau ar hyd y ffordd a byddem wrth ein bodd clywed gennych os credwch y gallwch ein helpu i ddod yn fwy amgylcheddol gyfrifol.

Cysylltu â ni