Christmas No.1

Mae Christmas No. 1 yn gomedi gerddorol newydd sbon gan Gagglebabble, wedi ei dyfeisio gydag Odyssey Hijinx

Mae Tocynnau Ar Werth Nawr

Mae hi’n Nadolig 1985. Mae hufen y byd pop yng Nghymru yn ymgasglu mewn warws yn Tiger Bay i recordio’r sengl Nadolig elusennol berffaith...

Mae bandiau anferth fel Vaguely Electrical, Andreus Peter, a Dolly Cash yn rhoi eu hego personol o’r neilltu at achos da – neu felly mae’n ymddangos…

Ond wrth i’r camerâu droi ac i’r microffonau recordio, mae pethau’n dechrau mynd o chwith. A yw’n broblem dechnegol syml? Cyn seren bop genfigennus? Ysbryd Nadoligau’r gorffennol? Neu rywbeth llawer iawn mwy dychrynllyd?

Yn llawn o gerddoriaeth wreiddiol, cythrwfl cefn llwyfan, a throad uwch-naturiol yn y gynffon, mae Christmas No. 1 yn gomedi gerddorol newydd sbon gan Gagglebabble, wedi ei dyfeisio gydag Odyssey Hijinx. Yn cynnwys cast mawr o berfformwyr anabl a heb anabledd, mae’r sioe ryfeddol o ddychrynllyd a drygionus o gerddorol hon yn llawn o hwyl yr ŵyl, anthemau roc ac yn ein hatgoffa nad yw popeth bob amser fel y maen nhw’n ymddangos…

Gwybodaeth am y Sioe ac Archebu.

Dyddiadau ac amseroedd:
Dydd Iau 20 Tachwedd, 7pm
Dydd Gwener 21 Tachwedd, 7pm
Dydd Sadwrn 22 Tachwedd, 3pm + 7pm

Lleoliad: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru

Pris tocyn: £12

Pris consesiynau: £8

Mae consesiynau’n cynnwys: Anabl, Defnyddiwr Cadair Olwyn, Digyflog, Dan 16 oed

Canllaw oed: Argymhellir 5+

Amser dechrau: 7pm
Matinee dydd Sadwrn: 3pm

Amser rhedeg: Tua 70 munud

Hygyrchedd:
Bydd sain ddisgrifiad gan Alistair Sill ar gael ym mhob perfformiad.

Bydd teithiau cyffwrdd ar gael ar gais. Cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk neu ffoniwch 029 2030 0331.

Bydd BSL integredig gan Sami Dunn ym mhob perfformiad.