Cefnogwch Ni

Am yn llawer rhy hir, mae’r celfyddydau wedi bod yn faes lle mae mynediad wedi bod yn fraint, nid yn hawl – wedi ei ddiffinio gan ablaeth, anwybodaeth a systemau sy’n cau pobl allan.

Mae Hijinx yma i newid hynny.

Fel prif gwmni theatr cynhwysol Cymru, nid dim ond pledio achos mynediad ydyn ni – rydym yn arwain y ffordd, yn grymuso actorion a chyfranogwyr ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gamu i’r llwyfan a dangos i’r byd beth sy’n bosibl.

Bob wythnos, mae dros 160 o actorion a chyfranogwyr ar draws Cymru yn cymryd rhan yng ngweithgareddau Hijinx – o weithdai drama cynhwysol i hyfforddiant perfformio proffesiynol a chynyrchiadau theatr teithiol o’r safon uchaf sy’n wirioneddol gynhwysol, yn ddewr o uchelgeisiol ac ar agor i bawb.

Ond mae ein heffaith yn mynd ymhell tu hwnt i berfformio.

Mae Hijinx yn helpu pobl i ddod o hyd i’w llais, llunio cyfeillgarwch am oes, cynyddu hunangred, ac, mewn rhai achosion, trawsnewid eu bywydau yn llwyr. Darllenwch ragor am un o’r bywydau hynny isod.

Sut Gallwch Gefnogi Hijinx

O drefnu digwyddiad codi arian, gwirfoddoli yng Ngŵyl Undod, neu wneud rhodd yn unig – mae pob ychydig o gefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth.

Darganfod Mwy

Yn 2019, ymunodd person ifanc ag un o’n grwpiau drama cymunedol.

Cyn Hijinx, roedd wedi bod yn unig iawn. Roedd pryder cymdeithasol yn golygu nad oedd wedi siarad ag unrhyw un yn eu dosbarth yn y coleg am flwyddyn academaidd gyfan. Nid oedd ganddynt ffrindiau. Dim ffordd o gysylltu. Dim hyder.

Darganfu eu rhiant Hijinx ar hap – trwy weld grŵp o actorion mewn crysau t gyda’r enw arnyn nhw mewn canolfan gelfyddydau leol. Yn chwilfrydig, aeth adref, chwilio amdanom ar-lein, a chysylltu. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, ymunodd y person ifanc yma â’n sesiynau.

Newidiodd popeth.

“Nawr mae ganddyn nhw bobl yn eu bywyd. Maen nhw’n rhan o’r criw. Nid oedden nhw erioed wedi bod yn rhan o’r criw cynt.”

Trwy sesiynau drama cyson, perfformio ar lwyfan, a bod yn rhan o gymuned greadigol, fe ddaeth y person ifanc yma o hyd i nid dim ond hyder, ond llawenydd. Fe ddechreuodd siarad. Cysylltu. Perthyn.

“Am ychydig oriau’r wythnos mae nhw’n hapus a dibryder. Maen nhw’n cael eu herio ac yn wynebu’r heriau hynny. Mae ganddyn nhw bobl i siarad gyda nhw nawr.”

“Rwyf wedi cynyddu fy hyder wrth siarad â phobl a pherfformio o’u blaenau. Mae wedi gadael i mi gyflawni’r freuddwyd hon o berfformio ar y llwyfan. Bydd Hijinx yn rhoi cyfleoedd na fyddwch yn eu cael yn unrhyw le arall.”

Mae eu rhiant yn galw Hijinx yn “newidiwr bywyd.” Ond yn fwy na hynny: Mae wedi bod yn achubiaeth. Os na fydden ni wedi mynd i’r ganolfan gelfyddydau’r diwrnod hwnnw a gweld yr actorion Hijinx, ni wn ble fydden nhw heddiw.”

Dyma yw grym cyfleoedd cynhwysol a chynrychiolaeth yn y celfyddydau.

Ac mae eich cefnogaeth chi yn ei wneud yn bosibl! Bydd eich cyfraniad, waeth beth fydd ei faint, yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl fel hyn – yn cynnig creadigrwydd, diben, a lle iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn yn wirioneddol. Am gael gwybod rhagor am sut y gallwch wneud gwahaniaeth?

Darganfyddwch ffyrdd y gallwch chi gefnogi Hijinx

Tu ôl i bob llwyddiant mae cymuned sy’n credu yng ngrym cynhwysiant. Rydym yn eithriadol o ddiolchgar i bawb sy’n ein helpu i wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud. Gyda diolch i...