Swydd Wag: Arweinydd Hygyrchedd

Dyddiad cau: 17/1/24

Swydd Wag: Arweinydd Hygyrchedd (Llawn amser (37.5 awr / wythnos) neu rhan-amser (30 awr / wythnos).

Y Swydd

Rydym yn recriwtio ar gyfer Arweinydd Hygyrchedd ar hyn o bryd i gefnogi Actorion Hijinx sydd wedi’u cyflogi’n broffesiynol. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â’r cwmni theatr prysur a chyffrous hwn a chael effaith gadarnhaol.

Bydd y Arweinydd Hygyrchedd yn rheoli gwaith gweinyddol yn ymwneud â mynediad, yn enwedig i’n Hartistiaid sydd ag anableddau dysgu ac Awtistiaeth, gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth mynediad priodol i ffynnu yn eu swyddi fel gweithwyr creadigol proffesiynol.


Swydd Wag

Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, os oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill, neu os hoffech gael y wybodaeth am y rôl mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar info@hijinx.org.uk.


Amrywiaeth a Chynhwysiant

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, os oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill, neu os hoffech gael y wybodaeth am y rôl mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar info@hijinx.org.uk

Cynllun Gwarant o Gyfweliad

Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu yn Hijinx, rydym yn darparu Cynllun Gwarant o Gyfweliad i ymgeiswyr sy’n cael eu tangynrychioli ar ein tîm.

Gallwch ofyn am gael eich ystyried dan ein Cynllun Gwarant o Gyfweliad os ydych yn unigolyn o’r Mwyafrif Byd-eang neu os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sydd yn cael effaith negyddol tymor hir ar eich gallu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol. Ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, sy’n cael eu nodi ym manyleb y swydd, fe’ch gwahoddir i gyfweliad. Dim ond gyda thîm Adnoddau Dynol Hijinx a’r rheolwr recriwtio y bydd eich cais am gyfweliad wedi ei warantu yn cael ei rannu. Os hoffech gael eich ystyried dan y cynllun, nodwch hyn yn eich llythyr esboniadol.

Recriwtio Dienw

Mae Hijinx yn gweithredu recriwtio dienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad yr ymgeisydd yn ystod y broses llunio rhestr fer.

Cwestiynau’r cyfweliad

Er mwyn sicrhau bod ein proses gyfweld yn hygyrch i’r gronfa ehangaf o ymgeiswyr, byddwn yn darparu fformat a chwestiynau’r cyfweliad i ymgeiswyr ymlaen llaw.


I Wneud Cais

Os ydych yn credu eich bod yn addas i’r rôl ac yr hoffech wneud cais, anfonwch y canlynol atom:

  • CV cyfredol sy’n sôn am eich profiad gwaith hyd yma – gwnewch yn siŵr eich bod yn amlygu profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
  • Llythyr eglurhaol – nad yw’n hwy na dwy ochr – sy’n dweud wrthym pam yr ydych yn ymgeisydd delfrydol a sut byddwch yn mynd ati i gyflawni cyfrifoldebau’r rôl. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
  • Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi’i llenwi – y dylid ei llenwi ar-lein yma – cadarnhewch yn eich llythyr eglurhaol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.

Dylid anfon ceisiadau at hr@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau.

Bydd ceisiadau yn cau am hanner nos 17/01/24. Trefnir cyfweliadau ar gyfer yr wythnos sy’n cychwyn ar 29/01/24.

Telerau.

Teitl Swydd: Arweinydd Hygyrchedd

Rheolwr Llinell: Pennaeth Datblygu Busnes (Castio) / Rheolwr Cyllid

Hyd y contract: Rôl barhaol (cyfnod prawf o 6 mis)

Oriau: Llawn amser (37.5 awr / wythnos) neu rhan-amser (30 awr / wythnos) gyda rhywfaint o waith gyda’r nos ac ar benwythnosau, lle rhoddir amser i ffwrdd yn ei le

Lleoliad: Swyddfa Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd – gweithio hybrid ar gael

Cyflog: Llawn Amser £27,000 (37.5 awr / wythnos) neu Rhan-amser £21,600 (30 awr / wythnos)

Hawl i wyliau: 25 niwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc statudol (pro rata ar gyfer rhan amser)

 

Dyddiad cau: Bydd ceisiadau yn cau am 11.59pm 17/01/24