12 Diwrnod o BAWB 2021

Gallwch gyfrannu £12 i PAWB Hijinx drwy anfon neges testun PAWB at 70580 (mae hyn yn costio £12 ynghyd â chyfradd arferol negeseuon). Diolch!

Dod â phobl at ei gilydd i helpu codi arian ar draws 12 Diwrnod PAWB.

Yn dilyn llwyddiant gwŷl creadigrwydd Nadoligaidd ar-lein yn 2020, bydd Hijinx unwaith eto’n dod â chyfranogwyr o PAWB, sef rhaglen gymunedol gynhwysol Cymru gyfan, at ei gilydd i greu, perfformio, ac ymgysylltu ar-lein yn ystod 12 Diwrnod PAWB.

Mae Hijinx, sef cwmni theatr wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn gwneud cynyrchiadau theatr eithriadol gydag actorion awtistig a / neu ag anabledd dysgu. Yn sgil y pandemig, bu rhaid gohirio perfformiad Odyssey Nadolig 2020 Hijinx yng Nghanolfan Mileniwm Cymru tan 2021. Yn ei le, cynhaliwyd ymgunulliad tymhorol, wedi’i ail-greu, ar-lein yn rhan o 12 Diwrnod PAWB.

Bydd Hijinx yn rhaglennu 12 Diwrnod PAWB yn ddigwyddiadau rhithiol yn bennaf, a fydd yn cynnwys ei gwmni oedolion, Odyssey, ei grwpiau theatr ieuenctid yng Nghaerdydd a Bangor, grwpiau Sefydliadau Drama a Pathways.

Bydd 12 Diwrnod PAWB yn dechrau ar 1 Rhagfyr gyda lansiad codi arian a diwrnod codi arian dynodedig ar 22 Rhagfyr. Yn rhan o 12 Diwrnod PAWB, mae Hijinx wedi gosod her i’w hunain i godi £1,200, gan ofyn yn garedig i bobl roddi £12 tuag at raglen PAWB Hijinx. Mae PAWB yn cael ei chynnal trwy gydol y flwyddyn ledled Cymru. Bydd rhoddion yn mynd yn uniongyrchol at redeg PAWB a’i rhaglen gweithgarwch.

Mae Hijinx, sy’n cael ei ystyried yn gwmni theatr gynhwysol mwyaf blaenllaw Cymru, yn cynhyrchu perfformiadau a gweithgareddau o ansawdd uchel. Mae’n amcanu at gydraddoldeb trwy wneud celf eithriadol gydag actorion awtistig a / neu ag anableddau dysgu, ar y llwyfan, ar y sgrin, ar y stryd, yn y gweithle, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i Gymru a’r byd.

“Mae creu cyfle i gyfranogwyr a chynulleidfaoedd ymgysylltu ar-lein ac yn bersonol yn bwysig i ni. Ni fyddwn ni’n rhoi’r gorau i wneud y ddau. Rydyn ni wedi gweld yr effaith y mae wedi’i chael a bod angen mynediad at y ddau. Mae ymchwil ein Hadroddiad Effaith Gymdeithasol yn dangos bod y celfyddydau perfformio yn gyfrwng ar gyfer iechyd a lles, ac yn cynyddu hapusrwydd ym mywydau pobl. Am bob £1 a fuddsoddir yn Hijinx, fe wnaethon ni ei droi yn £4.84 o werth cymdeithasol. Mae hynny’n gyfanswm o £4.5 miliwn. Rydyn ni’n ymestyn ein harian i gyflwyno cymaint ag y gallwn ni, ond mae arnom angen eich help i barhau i gefnogi beth rydyn ni’n ei wneud nawr ac yn y dyfodol.”

Sarah Horner, Prif Weithredwr

“Roedd digwyddiad y llynedd mor llwyddiannus yn dod â phawb at ei gilydd ar ôl y siom o beidio â chreu rhywbeth i’w berfformio adeg y Nadolig. Eleni, yn ogystal â pherfformio sioe Odyssey Hijinx, Pinocchio and the Northern Lights, yn bersonol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, byddwn ni’n parhau i gynnal 12 Diwrnod PAWB trwy gydol mis Rhagfyr yn arddangos y prosiectau rhyfeddol niferus y mae ein cyfranogwyr wedi bod yn gweithio arnynt ledled Cymru. Rydyn ni’n gwybod bod llawer o’n cyfranogwyr a’n cynulleidfaoedd eisiau parhau i ymgysylltu â ni ar-lein, ac rydyn ni eisiau sicrhau y gallwn ni gysylltu â nhw ar yr adeg hon o’r flwyddyn.”

Jon Dafydd-Kidd, Pennaeth Cyfranogiad

Dyma rai o’r gweithgareddau y gallwch ddisgwyl eu gweld...

Bydd Hijinx yn cydweithio â myfyrwyr darlunio o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Choleg Menai, a fydd yn arddangos eu gwaith ar wefan Hijinx, a fydd yn cael ei lansio ar 3ydd Diwrnod PAWB, 6 Rhagfyr. Mae eu gwaith wedi cael ei ysbrydoli gan fynychu sesiynau grŵp gwahanol PAWB, ar-lein ac yn bersonol.

Bydd grŵp Theatr Pobl Ifanc Hijinx yn y de, Telemachus, yn rhannu fideo digidol ddydd Mercher, 8 Rhagfyr, o’u prosiect diweddar, Light from the Past. Mae Telemachus yn chwaer brosiect i Odyssey ac yn grŵp cynhwysol ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau dysgu a heb anableddau dysgu rhwng 16 a 24 oed.

Bydd Telemachus, Theatr Pobl Ifanc y Gogledd ac Odyssey yn cynnal gweithdy cymunedol rhyngweithiol ar-lein ar 13 Rhagfyr - mae angen trefnu lle.

Rhyddhawyd sengl Nadolig gan Vaguely Artistic y llynedd, yn rhan o 12 Diwrnod PAWB, a bydd yn cael ei rhannu ar-lein eto ar Wŷl San Steffan. Noddwyd Vaguely Artistic gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, a Chelfyddydau a Busnes Cymru i greu sengl a fideo Nadoligaidd, ac roedd yn cynnwys nifer o wynebau cyfarwydd.

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau gweld y cynnwys eleni!

Diolch i Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Sylfaen Esmée Fairbairn, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson a Moondance Sylfaen.