Rhannu Sioe Gerdd (Gwaith ar y Gweill)

Join us at Chapter for a brand-new musical sharing

Archebu Tocynnau

Rhannu Sioe Gerdd (Gwaith ar y Gweill).

Ymunwch â ni i gael gweld sioe gerdd newydd sbon sy’n cael ei datblygu gan brif griw drag ag anabledd dysgu Cymru, House of Deviant, mewn partneriaeth â band mewnol cynhwysol Hijinx, Vaguely Artistic, y crewyr sioeau cerdd Gagglebabble, a Theatr Sherman.

Wedi ei seilio ar brofiadau gwirioneddol yr artistiaid, mae’r darn yn wynebu gwahaniaethu, hunaniaeth a gwytnwch trwy gerddoriaeth, stori ac ymladd yn ôl yn erbyn y trolls.

  • * *

Mae House of Deviant yn grŵp drag arloesol i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, sy’n ymroddedig i feithrin hunan-barch a hunan-effeithiolrwydd ymhlith oedolion ag anableddau dysgu yn Ne Cymru.

Vaguely Artistic yw band pync, roc, pop, soul, blues a ffync cynhwysol mewnol Hijinx, a ffurfiwyd yn 2015.

Mwy o Wybodaeth.

Dyddiad ac amser: Dydd Gwener 3 Gorffennaf, 6pm
Lleoliad: Theatr Seligman, Chapter

Hygyrchedd: Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Claire Anderson

Rhybudd cynnwys: Mae’r perfformiad hwn yn cynnwys cyfeiriadau at wahaniaethu, bwlio, sarhau ar-lein a chasineb geiriol

Tocynnau: Talu-beth-allwch-chi, £6 – £12

Crabulous!.

Byddwn hefyd yn perfformio ein sioe theatr stryd newydd sbon Crabulous! o flaen Chapter am 5.15pm ar yr un diwrnod (dydd Gwener 3 Gorffennaf).

Meddwl eich bod yn gwybod am grancod? Meddyliwch eto. Mae’r anwyliaid llachar yma wedi codi o wely’r môr i strytio, disgleirio a gwasanaethu. Croeso i CRABULOUS!, sioe Grancaidd newydd Hijinx. Disgwyliwch weld gwisgoedd rhyfeddol, cystadleuaeth ffyrnig, a dathliad llawn llawenydd o fod dros ben llestri heb fod â chywilydd o hynny.

Bydd perfformiad Crabulous! AM DDIM.