Pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu dyfodol sy’n greadigol, cynhwysol a llawn o gyfleoedd i bawb.
Boed yn fusnes, ysgol, grŵp cymunedol neu glwb chwaraeon, mae sawl ffordd i gymryd rhan.
Mae manteision dod i bartneriaeth â Hijinx yn cynnwys:
- Cyfleoedd noddi wedi eu teilwrio – Sicrhewch bod eich brand yn cael ei gysylltu ag achos sydd wirioneddol o bwys, gan gefnogi celfyddydau a pherfformiadau cynhwysol
- Enynnwch frwdfrydedd eich tîm – Rhowch hwb i ysbryd a llunio gweithle mwy cynhwysol trwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi i staff gyda Hijinx
- Mwy o welededd – Dangoswch eich ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol trwy berfformiadau, sylw yn y cyfryngau a digwyddiadau amlwg
- Cael effaith gwirioneddol – Gwybod bod eich cefnogaeth yn newid bywydau, yn rhoi cyfleoedd trawsnewidiol i actorion ag anabledd dysgu a/neu awtistig
Lawrlwythwch ein Pecyn Cefnogaeth Gorfforaethol isod.
Am gael sgwrs? Anfonwch e-bost at fundraising@hijinx.org.uk – byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.