Profiad Bron ar y prosiect Eye See AI

"Rwy’n teimlo ’mod i wedi dysgu cymaint eisoes o’r prosiect hwn yn unig."

Mae’n ail ddiwrnod fy swydd newydd ac rydw i ar alwad Zoom gyda grŵp o bobl greadigol o Hanoi, yn trafod prosiect Realiti Estynedig wedi’i seilio ar ap a fydd yn caniatáu i bobl weld perfformiadau yma ac yno, wedi’u sbarduno gan dirnodau penodol yn y ddwy ddinas (Caerdydd a Hanoi). A minnau’n addasu i weithio ar-lein ac iaith wahanol, rwy’n gwrando wrth i un person ddweud rhywbeth, sy’n cael ei gyfieithu, ac yna ymateb, y mae angen ei gyfieithu hefyd. Mae’n amlwg bod pawb ar yr alwad yn gyfarwydd â’r llif, hyd yn oed os yw’n ymddangos braidd yn anhrefnus i newydd-ddyfodiad fel fi. Rwy’n credu erbyn hyn bod y teimlad hwnnw’n un nodweddiadol o Hijinx.

Fy enw i yw Bron, ac fe ymunais â Hijinx fel Cynhyrchydd Cynorthwyol ym mis Tachwedd. Ers hynny, rydw i wedi cerdded sawl llwybr o amgylch Caerdydd yn profi’r ap a gweld y cydweithrediad rhyngwladol hwn yn datblygu. Pan ddechreues i’r swydd hon yng nghanol COVID-19, fyddwn i ddim wedi disgwyl bod yn gweithio ar brosiect rhyngwladol – roedd y cyfyngiadau amrywiol yn golygu bod hynny’n ymddangos yn annhebygol – ond mae’n amlwg bod y cwmnïau y tu ôl i’r cydweithrediad hwn yn frwd ynglŷn â rhoi bywyd i’r perfformiadau hyn, COVID neu beidio. Felly, fe ddechreuodd y prosiect digidol hwn wedi’i seilio ar ap ffurfio. Er hynny, yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, rhaid i mi gyfaddef nad oedd yr ap yn adlewyrchu’r holl waith yma.

Ond, fel bob amser, roedd ffordd o ddatrys hyn. Rhwng y ddau dîm, fe dynnon ni gannoedd o luniau o bob un o’r safleoedd perfformio, o bob ongl a oedd yn ddefnyddiol. Yna, cafodd hyn i gyd ei fwydo i mewn i’r ap, ac fe gawson ni fersiwn newydd i’w phrofi. Yn y cyfamser, rydyn ni wedi cael cyfarfodydd i drafod lansio’r ap, y sgyrsiau rydyn ni eisiau iddyn nhw ddigwydd a phwy fydd yno…efallai nad yw’r ap wedi’i orffen eto, ond rydyn ni’n benderfynol o gyflawni’r prosiect.

Mae’r agwedd benderfynol honno wedi dwyn ffrwyth. Y tro cyntaf i mi ddal fy ffôn i fyny yn safle 1 a gweld perfformwyr yn ymddangos, roedd yn teimlo fel buddugoliaeth fach. Ac fe allwn i weld sut byddai hyn yn gweithio i gynulleidfaoedd wrth symud o un tirnod i’r llall a phrofi’r cydweithrediad yng Nghaerdydd a Hanoi.

Rwy’n teimlo ’mod i wedi dysgu cymaint eisoes o’r prosiect hwn yn unig. Pethau fel beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o dîm Hijinx, sut rydyn ni’n creu cysylltiadau a chyfeillgarwch yn yr adegau anoddaf hyd yn oed, a sut i wneud i brosiect weithio hyd yn oed pan allai deimlo fel bod llawer yn eich erbyn. Rwy’n methu aros i’r ap gael ei orffen fel y gallwn ni rannu’r profiad gwych hwn gyda phawb yng Nghaerdydd a Hanoi!

Bron Davies, Cynhyrchydd Cynorthwyol