Meta vs Life

Archebwch Eich Tocynnau

Archebwch Eich Tocynnau Isod.

Archebwch eich tocynnau Meta vs Life isod. Rhestrir y perfformiadau yn ôl dyddiad ac amser a gallwch ddewis naill ai yn y cnawd neu ar-lein.

Os ydych yn prynu tocyn ‘Cyfaill’ (fel eich bod chi neu ffrind yn gallu profi’r perfformiad yn y cnawd tra bydd y llall ar-lein) cliciwch ar y perfformiad yn y cnawd yr hoffech fynd iddo a bydd y dewis i ychwanegu ‘Cyfaill’ ar gyfer y digwyddiad ar-lein yn ymddangos. Gallwch hefyd archebu tocyn ‘Grŵp’ (6 o bobl yn y cnawd a 6 o bobl ar-lein ar yr un pryd). Bydd hyn yn ymddangos fel dewis y gallwch chi glicio arno. Os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn, bydd y perfformiad yma ar gyfer eich grŵp chi yn unig – ni fydd unrhyw gynulleidfa arall yn bresennol yn y cnawd nac ar-lein. Nid yw’r opsiynau tocyn Cyfaill a thocyn Grŵp ar gael ar gyfer y perfformiadau talu-beth-gallwch.

Mae 6 lle yn y cnawd a 6 lle ar-lein ar gyfer pob perfformiad. Mae 3 perfformiad y dydd.

Cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr y Sherman ar 029 2064 6900 neu e-bostiwch box.office@shermantheatre.co.uk os ydych yn cael unrhyw drafferth yn archebu tocyn ar gyfer Meta vs Life.

Mae Telerau ac Amodau a Chwestiynau Cyffredin i’w gweld isod hefyd.

👾 Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld naill ai yn y cnawd neu ar-lein! 👾