Gŵyl Undod 2022

Ymunwch â ni draw ar Hijinx Mobile i wylio perfformiadau o Ŵyl Undod eleni, yn ogystal â chynnwys o’r ŵyl! 

Edrych yn ôl...

Gŵyl Undod 2022.

Gŵyl Undod 2022 oedd ein Gŵyl Undod fwyaf hyd yn hyn, o ran y rhaglen a chyrraedd daearyddol yr ŵyl. Parhaodd am 2 wythnos, gan fynd o Gaerdydd i Fangor ac yna Llanelli. Roedd yr ŵyl eleni hefyd yn cynnwys perfformiadau ar ein llwyfan ar-lein, Hijinx Mobile, a luniwyd mewn partneriaeth ag Escena Mobile a’r Cyngor Prydeinig. 

Comedi.

Dechreuodd yr ŵyl gyda noson gomedi yn Porter’s yng Nghaerdydd ar 16 Mehefin oedd yn cynnwys amrywiaeth o gomedïwyr rhyngwladol oedd yn perfformio yn fyw a thrwy Zoom. Roedd yr artistiaid yn cynnwys Chiron Barron (Canada), Julaina Heng (Malaysia), Dan Mitchell (Cymru), Sha Rita (UDA) a’n Richard Newnham ni (Cymru). 

Gŵyl Ffilmiau.

Yna cynhaliwyd ein Gŵyl Ffilmiau gyntaf erioed yn Chapter rhwng 20 a 21 Mehefin, oedd yn dangos 40+ o ffilmiau, yn arddangos cyfran o’r gwaith ffilm diweddar gorau o Gymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt. Roedd y rhaglen yn gymysgedd o ffilmiau hir, byr, dangosiadau cyntaf, trafodaethau panel a digwyddiadau eraill. 

Digwyddiadau Theatr Stryd am Ddim ac â Thocynnau.

Rhwng 22 a 26 Mehefin roedd dewis gwych o ddigwyddiadau â thocynnau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â theatr stryd am ddim tu allan i’r Ganolfan ac ar yr Ais. 

Bangor.

Ar ôl Caerdydd, aeth fersiwn lai o’r ŵyl i Pontio ym Mangor, gan gynnwys detholiad o ffilmiau ar gyfer yr ŵyl ffilm, yn ogystal â llawer o theatr stryd am ddim, gan gynnwys perfformiadau gan The Astronauts a Grumpy Unicorns, Academi’r Gogledd a Theatr Pobl Ifanc y Gogledd, a’r grŵp dawns Sbaenaidd En Vano Danza Mobile.

Llanelli.

Daeth Gŵyl Undod 2022 i ben yn Llanelli gyda Gŵyl Undod fach arall yn digwydd o 1 – 2 Gorffennaf yn Ffwrnes, yn cynnwys perfformiadau gan Academïau’r Canolbarth a’r Gorllewin.   

Rydym am ddiolch yn fawr iawn i Arts & Business Cymru, Brecon Carreg, Bad Wolf, BFI, Canolfan Mileniwm Cymru, Castell Howell, Chapter, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru, Ffilm Cymru Wales, Ffwrnes, Ffwrnes Café, Hwb Ffilm Cymru, Gig Buddies Cymru, The Hayes, JR Coach Hire, Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Mencap Cymru, Morrisons Foundation, Neuadd Dewi Sant, Pontio Bangor, Porter’s Caerdydd, tîm arlwyo ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, Sefydliad Esmée Fairbairn, Sefydliad Rayne a Severn Screen am ein cefnogi i alluogi i Å´yl Undod 2022 ddigwydd.Â