Doctor Dolittle's Wild Adventure

Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r sioe! Sgroliwch i lawr i adael sylw i ni neu tagiwch ni ar gyfryngau cymdeithasol @HijinxTheatre

Y 12 Diwrnod PAWB hwn gobeithiwn godi £1,200 a byddem yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth!

Anfonwch neges testun PAWB gyda swm eich rhodd (e.e. i roi £3 anfonwch PAWB3) at 70490 i roi’r swm hwnnw. Bydd negeseuon testun yn costio swm y rhodd ac un neges safonol ar y rhwydwaith. 

Diolch! 🦜🐿

Nodyn gan yr awdur, Hefin Robinson.

Eleni rydym yn rhyddhau ein hochr wyllt.

Gan chwilio am ysbrydoliaeth ym meddyg eiconig Hugh Lofting, yn ogystal â rhai anifeiliaid cyfeillgar cyfarwydd, rwyf wedi anelu i greu sioe sy’n cyfleu harddwch a rhyfeddod natur ochr yn ochr â hwyl a chynhesrwydd Odyssey.

Fel arfer roedd y broses ysgrifennu’n hawdd oherwydd y cyfoeth o syniadau a gyflwynwyd gan y grŵp yn ein sesiynau nos Lun. O bâr o wenyn mêl hipïaidd i’r wiwer a chneuen fawr, nid oedd pen draw ar y creadigrwydd a’r dychymyg a welwyd. Rwyf wedi profi caredigrwydd gwirioneddol a theimlad o berthyn. Ac rwyf wedi chwerthin. O, chwerthin cymaint! Nid oes dim yn rhoi mwy o lawenydd na’r amser a dreulir gyda’r grŵp gwych yma o bobl.

Yn ddiweddar fe welais ddyfyniad gan David Attenborough sy’n disgrifio byd natur felpwysig, gwerthfawr, hardd, llawn rhyfeddod, rhyfeddol a phleser.”

Rwy’n meddwl y gellid dweud yr un peth am Odyssey. 

Nodyn gan Gyfarwyddwr a Phennaeth Cyfranogiad Hijinx, Jon Dafydd-Kidd.

Am antur wyllt yr ydym wedi bod arni!

Wrth i ni fynd yn ôl i Ganolfan y Mileniwm Cymru ychydig wythnosau’n ôl am ymarferion dwys, fe wnaethom sylweddoli, i rai o’r cast, mae wedi bod yn 3 blynedd ers iddyn nhw berfformio ar lwyfan Stiwdio Weston ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r byd wedi profi colled, trawma a helyntion sylweddol. Mae hawliau dynol yn dal i gael eu herio a’r ddaear yn cael ei rheibio ar gyfer masnacheiddiwch.

Felly, pan ddaeth yn bryd i weithio ar sioe Odyssey 2022, roeddem yn gwybod ein bod angen dipyn o hwyl. Roedd arnom angen chwerthin, gwiriondeb, llawenydd a theimlo cysylltiad. A dyna beth ydych chi’n ei gael. Gwiriondeb llwyr! Rydym wrth ein bodd ac rydym wedi teimlo effaith  chwerthin gyda’n gilydd eto. Ac rydym yn gobeithio, pan fyddwch yn gadael, y byddwch yn teimlo mor hapus ag yr oeddem ni’n creu.  23 mlynedd yn ôl, heuwyd hedyn Odyssey, a heddiw mae’r gwreiddiau’n rhedeg yn ddwfn, air canghennau’n eang a phell, gan ein cysylltu ni i gyd mewn lle diogel a hudol.

O, ac un peth arall… Nutty, Nutty, Nutty, Nutty, Nutty, Nutty, Nutty Jake! 

Cast.

Sami Dunn

Honey Bee-SL

Hefin Robinson

David Attenborough

Rebecca King

Doctor Jane Dolittle

Blue Balmforth

Polynesia

Nia Morgan

Gelert

Lewis Tagg

Timmy Stubbins

Matthew Cook

Stanley Stubbins

Serena Lewis

Ysgrifennydd

Telemachus

Protestwyr

Zach Ashley

Mick

Gary Cook

Keith

Sian Fouladi

Ronnie

Freddie Holcombe

Danny Bont

Nicole Bird

Ladybird

Gareth Clark

Bolt

Danny Mannings

Araf

Tommy Rhys Powell

Stephen

Finlay Garrett

Phil

Serena Lewis

Kirstie

Denise Gallop

Zip

Geraint Stewart-Davies

Zap

Jennifer Lucey

Boing

Sara Pickard

Belinda

Stuart Campbell

Barry

Telemachus

Pryfetach

Andrew Tadd

Nelly

Matthew Mullins

Wally

Kirsty Rosser

Eglentine

Jordan Quaite

Incy Wincy

Amalia Banteli

Pegasus

Simon Richards

Nutty Jake

Tommy Rhys Powell

Pushmi-

Jennifer Lucey

-Pullyu

Telemachus

Adar Trofannol

Tîm Creadigol a Chynhyrchu.

Jon Dafydd-Kidd

Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd

Hefin Robinson

Ysgrifennwyd gan

Serena Lewis

Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Kitty Callister

Dylunydd

Tom Elstob

Cyfarwyddwr Cerdd

Tom Ayres

Rheolwr Cynhyrchu

Tim Griffith

Cynorthwyydd Cynhyrchu

Beau Broome

Cynorthwyydd Cynhyrchu

Emily Poole

Cyfarwyddwr Telemachus 

Finlay Garrett

Hwylusydd Cynorthwyol

Olive Arlauskaitė

Hwylusydd Cynorthwyol

Richard Newnham

Hwylusydd Cynorthwyol

Zach Ashley

Hwylusydd Cynorthwyol

Bron Davies

Cynhyrchydd Cynorthwyol

Caitlin Rickard

Marchnata

Sami Dunn

Cyfieithydd BSL

Alistair Sill

Disgrifiad Sain

Owen Pugh

Disgrifiad Sain

Kelly Bannister

Cynorthwyydd Dylunio

Luned Gwawr Evans

Cynorthwyydd Dylunio

Emily Poole, Cyfarwyddwr Telemachus  a Cydlynydd Hwb y De.

Mae Telemachus yn gyffrous iawn o fod yn ôl ar y llwyfan gydag Odyssey eleni ar gyfer Doctor Dolittle’s Wild Adventure! Rydym wedi bod yn gweithio ar greu ein sioe ragarweiniol, i brotestio yn erbyn y Stanley Stubbins drwg sy’n cynllunio i adeiladu gwesty yng nghanol y fforest. Ymunwch â ni yn ein caneuon; a ydych yn un sy’n caru natur sydd eisiau achub cartrefi’r anifeiliaid, neu fedrwch chi ddim dweud na wrth goctel Piña Colada? Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig Prifysgol De Cymru i ddylunio pypedau pryfed ac adar rhyfeddol, y mae’r myfyrwyr wedi rhoi bywyd iddynt – cadwch lygad amdanynt yn y sioe. Diolch Brifysgol De Cymru! Yn ddiweddar rwyf wedi dod yn Gyfarwyddwr Telemachus ac mae wedi bod yn fraint gweithio gyda chriw mor rhyfeddol o bobl ifanc, sydd mor angerddol am yr hyn y maent yn ei wneud. Mae ymuno â Thîm Telem wedi bod yn bleser llwyr; mae wedi bod yn freuddwyd cael dod i’w hadnabod. Rydym ni gyd wedi cael cymaint o hwyl yn gweithio tuag at y cynhyrchiad yma, gobeithio y byddwch yn mwynhau’r sioe!

 

Telemachus.

Amy Johnston

Callum Murray

Dino Goodwin

Hannah Morley

Joseph Howells

Josh Walker

Logan Harry Young

Megan Stone

Olive Arlauskaitė

Rain Preece

Richard Newnham

Sara Arafa

Steven Redmore

Zach Ashley

CYDWEITHIO USW.

Unwaith eto, rydym yn falch iawn o gael cydweithio â myfyrwyr blwyddyn un Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig o Brifysgol De Cymru. Maen nhw’n archwilio hwyluso a chreu’r celfyddydau ochr yn ochr â chyfranogwyr PAWB, gan gynnwys creu ein pryfetach iasol ac adar trofannol.

 

 

12 Diwrnod o PAWB.

Mae ein hymgyrch godi arian a’n dathliad o bopeth am Pawb yn ôl eto eleni. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am lwyth o gynnwys cyffrous o’n grwpiau PAWB yn y cyfnod cyn y Nadolig. Rydym yn gobeithio taro ein targed o £1,200 ar gyfer yr ymgyrch godi arian!  Eleni, rydym yn gobeithio codi £1,200  – ac mae arnom angen eich help.  Mae PAWB yn cynnig cyfleoedd creadigol i unrhyw un sydd am berfformio, beth bynnag yw ei brofiad neu allu. Bob wythnos byddwn yn rhedeg 5 grŵp: Odyssey, Telemachus, Theatr Pobl Ifanc y Gogledd, Sylfeini Drama 1 a 2, a Vaguely Artistic, ein band mewnol. Mae’r grwpiau hyn yn rhoi llawer o lawenydd a chefnogaeth i’w cyfranogwyr, ac yn ffynnu diolch i grantiau a rhoddion gan ein cefnogwyr hael.

Anfonwch neges testun PAWB gyda swm eich rhodd (e.e. i roi £3 anfonwch PAWB3) at 70490 i roi’r swm hwnnw. Bydd negeseuon testun yn costio swm y rhodd ac un neges safonol ar y rhwydwaith.

 

Vaguely Artistic.

Bydd ein band ni yn rhyddhau eu LP yn fuan! Mae’r grŵp wedi bod yn gweithio ar y casgliad hwn o ganeuon newydd dros yr haf a’r hydref ac ni allant aros i’w rannu gyda’r byd. Cadwch lygad ar wefan Hijinx a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer lansiad yr LP, sy’n cynnwys cân Nadolig newydd sbon! Bydd y band hefyd yn lansio eu LP newydd gyda gig. Dydd Llun 19 Rhagfyr yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru. Dilynwch y ddolen i archebu tocyn ‘talu yn ôl eich teimlad’!

 

CARDIAU NADOLIG.

Unwaith eto, rydym yn falch iawn o gael cydweithio â myfyrwyr blwyddyn un Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig, Prifysgol De Cymru. Maen nhw’n archwilio hwyluso a chreu celfyddydau ochr yn ochr â chyfranogwyr PAWB, gan gynnwys creu ein pryfetach iasol ac adar trofannol.

 

Diolch i...

Gareth a’r Eglwys Norwyaidd. Ceri Legg a Beacon Printers. Holl deuluoedd a ffrindiau aelodau Odyssey. I Eugene, Emma, Peter, Gemma a’r tîm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am eu hegni a’u cefnogaeth. I Andrew a’r tîm yn Bar One, am y lle a’u cefnogaeth. (Mae Bar One yn gwerthu Pina Coladas, os bydd gennych awydd un ar eich ffordd allan. Peidiwch â phoeni, fyddwn ni ddim yn meddwl eich bod ar ochr Stanley Stubbins!). I fyfyrwyr blwyddyn gyntaf y cwrs Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig o Brifysgol De Cymru, Becky Davies a Laura Welsman – diolch am fywiogi ein sesiynau, a bod yn barod i fod ychydig yn wirion! I’n holl wirfoddolwyr, sydd mor hael gyda’u hamser a’u hegni – diolch.

I Ddylunwyr Hijinx ac Recreate Cardiff past – o’ch achos chi rydym wedi gallu sicrhau bod o leiaf 80 + % o bopeth yr ydych yn ei weld yn y sioe wedi cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu wedi cael diben newydd. I Theatr na nÓg am roi benthyg y deunydd ar gyfer cefn y set i ni yn hael. Ac yn olaf diolch anferth i chi i gyd sydd wedi dod yma i gefnogi. Fyddem ni ddim yma heboch chi.

O, a diolch i bawb a roddodd botel laeth wag!

 

 

Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol gan...