Cefnogwyr Cychwynwyr

Rydym ni mor falch eich bod chi’n cymryd y camau cyntaf tuag at Gynhwysiant Anableddau Dysgu yn eich sefydliad! Gyda’n pecyn Cefnogwyr Cychwynwyr, cewch flas ar ein hyfforddiant, gan eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich arferion gweithio.

Mae ein hyfforddiant undydd yn rhoi’r adnoddau i chi ystyried Cynhwysiant Anableddau Dysgu yn eich sefydliad. Gyda thrafodaeth grŵp a sgwrs uniongyrchol gyda’n hactorion sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, byddwch yn gwella’ch sgiliau cyfathrebu er mwyn gweld y buddion ym mhob agwedd ar eich perthnasoedd gwaith.

Cynlluniwyd y pecyn hwn gyda thîm bach mewn golwg, gydag uchafswm o 15 o bobl yn cymryd rhan. Efallai eich bod chi’n sefydliad newydd neu ond yn dechrau cael effaith yn y sector sgrin, ac rydych am ddangos i sefydliadau eraill bod Cynhwysiant Anableddau Dysgu o bwys i chi. O ran pecynnau sy’n addas i sefydliadau mwy o faint a newid hirdymor, trowch at ein haenau Cynghreiriaid Brwd a Chrewyr Newydd Ymroddedig.

Gyda’n pecyn Cefnogwyr Cychwynwyr, cewch:

  • Hyfforddiant chwarae rôl i’ch tîm, gan weithio’n uniongyrchol gydag actorion Hijinx
  • Cyngor ar gynhwysiant pobl anabl ac arferion gorau
  • Cyflwyniad i’r ffordd y gallwch gefnogi cynhwysiant anableddau dysgu
  • …. a mwy!

Ai dyma’r pecyn i chi? Cysylltwch heddiw! .

    O ran pecynnau sy’n addas i sefydliadau mwy o faint a newid hirdymor, trowch at ein haenau Cynghreiriaid Brwd a Chrewyr Newydd Ymroddedig.