Y mis Rhagfyr hwn rydym yn gofyn i chi gefnogi PAWB i godi £1,200 i’n galluogi i barhau i ddarparu cyfleoedd sy’n newid bywydau i oedolion ag anabledd dysgu a phobl ifanc ar draws Cymru.
Byddwch yn un sy’n creu newid y Nadolig hwn.
Mae 1.5 miliwn o bobl ag anabledd dysgu yn y Deyrnas Unedig (54,000 yng Nghymru) ac eto,
mae 9 o bob 10 ohonynt wedi dioddef troseddau casineb a/neu aflonyddu
ac
mae 41% wedi cyfaddef eu bod yn teimlo’n unig, heb fod ag unrhyw un i siarad.
Er mwyn rhoi i PAWB:
Text PAWB followed by your donation amount (e.g. to donate £3 text PAWB3) to 70490 to give that amount. Texts will cost the donation amount plus one standard network rate message. Cliciwch yma i roi cyfraniad unwaith yn unig neu i gyfrannu’n gyson ar-lein.
Bydd yr arian a godir trwy’r apêl 12 Diwrnod PAWB yn cefnogi PAWB yn uniongyrchol i barhau i gynnig cyfleoedd creadigol i alluogi pobl ag anableddau dysgu i deimlo’n hyderus, wedi eu grymuso ac yn llai unig.
Gwyliwch y fideo i glywed am y gwahaniaeth y mae PAWB yn ei wneud i fywydau ei aelodau.
Edrychwch ar y grwpiau y bydd eich rhodd yn eu cefnogi.
Diolch o galon i’n holl gyfranwyr.
Mae eich ymrwymiad i’n gwaith yn golygu cymaint i ni.
Trwy roi’r hyn allwch chi, rydych yn ein helpu i barhau i newid bywydau pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr.