Vaguely Deviant: Sioe Haf

ARCHEBU EICH TOCYNNAU

Vaguely Deviant: Sioe Haf.

Mae’r cwmni drag anableddau dysgu House of Deviant a’r band cynhwysol Vaguely Artistic yn uno unwaith eto i gyflwyno Vaguely Deviant: Sioe Haf – noson unigryw o gerddoriaeth a drag.

Gallwch chi ddisgwyl canu gwreiddiol a chofiadwy gan Vaguely Artistic, wedi’i gymysgu ag anhrefn a sgwrsio gan Freninesau House of Deviant.

Vaguely Artistic: 
Band ffync, blues, soul, pop, roc a phync mewnol Hijinx yw Vaguely Artistic. Gan ysgrifennu eu traciau gwreiddiol eu hunain a’u rhannu yn uchel ac yn falch, maen nhw’n chwarae popeth o The Beatles i Iggy Pop a Reef. Maen nhw wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, sydd ar gael ar Bandcamp a phob gwasanaeth ffrydio mawr. Dydych chi erioed wedi clywed dim byd tebyg!

House of Deviant:
House of Deviant yw’r unig gwmni drag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae eu poblogrwydd wedi tyfu ers i’r prosiect ddechrau yn 2020 ac maen nhw’n brosiect a gyd-gynhyrchir yn Ne Cymru sy’n defnyddio perfformiadau drag fel ffordd o archwilio hunan-barch, hyder ac annibyniaeth i oedolion ag anableddau dysgu. Maen nhw’n ffyrnig, yn anhygoel ac yn wahanol i unrhyw beth rydych chi wedi’i weld o’r blaen!

Mwy o Wybodaeth.

Ble? Cabaret, Canolfan Mileniwm Cymru

Pryd? 8 Gorffennaf 2023

Drysau: 8pm, 8.30pm sioe yn dechrau

Tocynnau: £15/£12