‘The Audition’ – ffilm ddogfen fer.
Hyd: 28 munud
Cyfarwyddwyd gan:Â Dylan Wyn Richards
Cynhyrchwyd gan: Daniel McGowan a Clare Williams
Camera: Huw Walters
Gwnaed â chefnogaeth gan: Sefydliad Morrisons a Ffilm CymruÂ
Yng ngwanwyn 2019, aeth tri deg o actorion niwrowahanol am glyweliad ar gyfer rolau mewn ffilm ddogfen arloesol. Yn ystod y clyweliadau a’r cyfweliadau, trafododd y perfformwyr rhyfeddol hyn eu profiadau unigryw a’u golwg ar y byd.Â
Y canlyniad yw ffilm ddogfen ddatguddiol ac arbennig sy’n cyfuno actio grymus â chipolwg yr un mor drawiadol ar wleidyddiaeth, breuddwydion, trawma, teulu, cyfeillgarwch a bywyd fel rhywun sydd â meddwl gwahanol a rhyfeddol.Â