Jacqui – Cyllid.
Fy enw i yw Jacqui. Fe ymunais i â Hijinx yn ôl yn 2012 ar gontract cyfnod penodol am flwyddyn, ac rydw i dal yma! Rydw i wedi gweld y sefydliad yn tyfu o 4 aelod o staff yn unig i gael hybiau ledled Cymru a datblygu i fod y cwmni gwirioneddol ryngwladol yr ydym ni heddiw – ac mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan o’r daith honno. Rwy’n dweud fel jôc ’mod i wedi rhoi cynnig ar fwy neu lai pob math o waith yn y swyddfa ar hyd y ffordd, cyn penderfynu ar fy rôl gyllid bresennol. Ond dyna natur gweithio i Hijinx. Mae pob dydd yn wahanol ac mae’r tîm yn rhyfeddol o ystwyth ac amldalentog.
Jon – Pennaeth PAWB.
Shwmâi! Jon ydw i, Pennaeth PAWB (Cyfranogiad). Dyma fy 7fed flwyddyn o weithio i Hijinx, yr ydw i’n ei wneud yn rhan-amser ochr yn ochr â gwaith arall ar fy liwt fy hun. A minnau wedi ymuno fel Cydlynydd Allgymorth, rydw i wedi gallu ffurfio ein hadran gyfranogiad i’r hyn rydw i’n dwlu dod i weithio iddo heddiw. Rydw i’n dod i weithio fel rhan o dîm gwych, ac ochr yn ochr â pherfformwyr arbennig sy’n addysgu mwy i mi nag y gallwn i obeithio ei gynnig iddyn nhw.