Meet Fred

Glan yr Afon, Casnewydd 15/10/21 19:30

TOCYNNAU YMA

Mae’r Pyped Rheglyd Sy’n Ymladd yn Erbyn Rhagfarn yn dod i Gasnewydd! 

Bydd y Sioe theatr Hijinx arobryn, Meet Fred, yn mynd i Theatr Glan yr Afon a Chanolfan y Celfyddydau ar 15 Hydref, cyn mynd ar daith o amgylch Ffrainc o fis Hydref i fis Ebrill. 

Meet Fred, y pyped bunraku brethyn dwy droedfedd o daldra sy’n ymladd rhagfarn bob dydd. Mae am fod yn ddyn arferol, yn rhan o’r byd go iawn, cael swydd a chwrdd â merch, ond pan fydd yn cael ei bygwth â cholli ei PLA (Lwfans Byw i Bypedau), mae bywyd Fred yn dechrau troelli allan o’i reolaeth.

Mae’r sioe yn archwiliad gwreiddiol o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn wahanol.  Gyda hiwmor ffraeth a thywyll, mae Hijinx yn archwilio themâu annibyniaeth, grymuso, gofal ac anghyfiawnder cymdeithasol, ac yn amlygu’r sefyllfaoedd hurt y mae rhai o’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn dod ar eu traws pan fydd eu cefnogaeth yn cael ei chymryd oddi wrthynt.  Mae’n ffrwydro’r myth ‘rydym i gyd yn hyn gyda’n gilydd’.

Cynyrchir Meet Fred gan Hijinx ar y cyd â Blind Summit. Cafodd y cynhyrchiad ei gynnal gydag adolygiadau gwych yn dilyncyfres a werthodd i gyd yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2016, a arweiniodd at ymddangosiadau rhyngwladol gan gynnwys yng Ngŵyl Theatr Puppet y Byd yn Charleville-Mézières, Ffrainc. Mae wedi parhau i deithio ac nawr, yn ei bumed flwyddyn, mae Meet Fred wedi’i berfformio dros 230 o weithiau, a welwyd gan dros 23,000 o bobl ac wedi ymweld â 19 o wledydd gan gynnwys UDA, Tsieina a De Korea yn ogystal ag ar draws Ewrop.

Meddai Ellis Wrightbrook, Uwch Gynhyrchydd Hijinx:  “Ar ôl 235 o berfformiadau, mae Meet Fred wedi’i lunio gan yr artistiaid hynod dalentog sydd wedi bod yn rhan o’r ensemble dros y blynyddoedd.  Mae pob actor neu bypedwr newydd yn dod â phersbectif ac egni newydd i’r perfformiad, a gyda’r cymal nesaf hwn o deithiau sy’n cynnwys ein newid cast mwyaf hyd yma – mae’n teimlo fel ein bod yn perfformio am y tro cyntaf eto!”  

Hijinx yw un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw Ewrop, sy’n ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb drwy wneud celf ragorol gydag actorion anabl a/neu awtistig ar y llwyfan, ar y sgrin, ar y stryd, yn y gweithle, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i Gymru ac i’r byd.

Dyma gyfle prin i ddal y cynhyrchiad yn y DU, cyn iddo gychwyn ar daith epig 5 mis yn Ffrainc! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dal Meet Fred tra gallwch chi! 

14+. Yn cynnwys iaith gref a noethni phyped.