Eleanor Morgan.

Fe fydd llawer ohonoch wedi clywed ond bu farw ein Hactor rhyfeddol ac annwyl iawn o Academi’r Gorllewin, Eleanor Morgan, yn dawel yn ei chartref yn gynnar fis diwethaf.

Nid oes tebyg i Ellie, talent ryfeddol a pherson anhygoel. Roedd hi’n llawn o egni cadarnhaol, â chwerthiniad heintus a gwên oedd yn goleuo pob ystafell yr oedd hi ynddi a diwrnod pawb.

Mae gennyf atgofion melys am deithiau i Aberystwyth dros y blynyddoedd; ond roedd bod yn ddigon ffodus i weithio’n ddwys gyda’r grŵp ar eu cyfraniad tuag at ein cynhyrchiad o Mission Control yn 2019 yn uchafbwynt gwirioneddol i mi. Rwy’n cofio mor glir cerdded i’r stiwdio bob bore Llun a chael fy nghyfarch gan y wên fwyaf heintus a llygaid disglair, oedd yn llawn o hwyl a drygioni.

Anghofiai fyth haelioni, creadigrwydd a brwdfrydedd Ellie yn y sesiynau hynny ac yn ystod y perfformiadau yng Nghaerdydd. Rhoddwyd geiriau ‘Plant Chant’, y gwnaeth hi eu dweud mor wych a chreu symudiadau hyfryd iddyn nhw, i mi wedi eu hysgrifennu’n hardd ar botyn blodau gan y Santa Cudd y flwyddyn honno ac maent yn eistedd mewn lle canolog ar y silff yn fy nghegin. Rwy’n edrych arnyn nhw yn aml wrth gerdded i’r ystafell a gwenu wrth gofio.

Rwyf i, a phawb ohonom yn Hijinx, mor ofnadwy o lwcus o fod wedi cael y cyfle i adnabod Eleanor, i dreulio amser gyda hi a rhannu profiadau gyda hi. Nid wyf yn teimlo fy mod yn gallu dod o hyd i’r geiriau i ddechrau cyfleu yn union faint o golled fydd ar ei hôl ac rwy’n gwybod bod rhai yng nghymuned Hijinx allai wneud hynny’n llawer gwell na mi. Felly, o feddwl hynny, hoffwn rannu geiriau a ysgrifennwyd gan grŵp Academi’r Canolbarth fel teyrnged i Ellie, sydd, rwy’n meddwl, yn cyfleu hanfod Ellie yn wych. Cyfrannodd pawb yn y grŵp at y geiriau ac maent wedi cael eu hysgrifennu ar alaw ‘Celestial’ gan Ed Sheeran (un o hoff gantorion Ellie). Dilynir hyn gan ychydig o ddyfyniadau gan rai o’n tiwtoriaid yn Academi’r Canolbarth oedd yn adnabod Ellie orau.

Diolch i ti am fod yn rhan anhygoel, hanfodol ac annwyl o’n cymuned Hijinx Ellie, byddwn yn gweld dy golli gymaint.

Amy Griggs, Cyfarwyddwr yr Academïau

 

 

Celest-Ellie

From Christmas sharing to mission control

Your dodgy dentist beat them all

Your sense of mischief made us grin

A lager shandy your favourite drink

 

You make us feel like our troubles are a million miles away

When she walks in the room

She’s the life & soul of the party

 

Celest-Ellie

Celest-Ellie

 

Zip zap boing was your favourite game

Grandma’s footsteps caused you such pain

A sore loser you tried not to be 

But you smashed it in stop freeze

 

You make us feel so special sitting on our park bench

She makes us feel like our only friend

You no-one could replace

 

Celest-Ellie

Celest-Ellie

 

And at lunch coffee & cake

A missing chocolate bar made her heart ache

She cared so much for her fellow man

And Ed Sheeran she was his greatest fan!

 

You make us feel so special

As hot as a sunny day

You make us feel such fun

With every game that we play

 

Celest-Ellie

Celest-Ellie

 

🎶 🎵

.

‘‘I will always remember her smiling face on a Monday morning. Always up for a new challenge, Ellie had a wicked sense of humour…I will miss belly laughing during her performances – she was such a pleasure to know.’’Donna Males

‘‘I feel so lucky to have known and worked with Ellie. A shining star, a great actor and an excellent Mid Academy student, she was always keen to learn, always concerned for others’ welfare, and always full of fun, energy and ideas. Her last role with us was as a Dodgy Dentist in a street theatre production, Ellie played it with a perfect mix of threat, fun and determination… I really shouldn’t have worried about her finding volunteer patients from the audience, her charisma was such that, despite their ‘fears’ (of wholly inappropriate street dental work!) there were lots of takers – who wouldn’t want to join her on stage?

Ellie, we miss you. Thanks for the life, the laughter and the saying YES! to challenges.’’Cath Rigler

‘‘Fiercely passionate, determined, inspiring, hilarious and huge hearted. I miss her deeply and Hijinx will not be the same without her energy, her smile, or her wonderful laugh.’’ – Bethan Dear