Recriwtio Cadeirydd (gwirfoddol)

Dyddiad cau: 10/3/24

Recriwtio Cadeirydd.

Ynglŷn â Bod yn Ymddiriedolwr

Rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd i Hijinx sydd yn gwirioneddol adlewyrchu ein gwerthoedd a chenhadaeth creiddiol.

Mae ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Hijinx yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu at gymuned gelfyddydol ddeinamig a chynhwysol. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n barod i gynnig safbwyntiau a dealltwriaeth newydd, wedi eu tynnu o brofiadau bywyd a phroffesiynol.

Ar gyfer swydd y Cadeirydd, tra ein bod yn meddwl ei bod yn debygol y bydd gennych brofiad o fod yn Ymddiriedolwr, rydym hefyd yn awyddus i glywed gan y rhai sydd yn teimlo y gallent gymryd y swydd a chyfrannu’n gadarnhaol at ein strategaeth a llwyddiant tymor hir y sefydliad.

Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd wedi cael eu tangynrychioli yn y gorffennol yn Hijinx ac yn y diwydiant celfyddydol oherwydd rhwystrau yn gysylltiedig ag ethnigrwydd, dosbarth, anabledd, rhyw, daearyddiaeth, rhywedd, oedran a chrefydd. Mae gennym ddiddordeb yn benodol mewn unigolion sy’n dwyn setiau penodol o sgiliau sy’n cyd-fynd â’n hanghenion.

Cofiwch sylwi mai gwirfoddol yw swyddi Ymddiriedolwyr ac felly yn ddi-dâl, ond gall treuliau rhesymol gael eu talu.

Swydd Wag

Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.


Amrywiaeth a Chynhwysiant

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, os oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill, neu os hoffech gael y wybodaeth am y rôl mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar sarah.horner@hijinx.org.uk

Y Broses Recriwtio

Os ydych yn credu eich bod yn addas i’r rôl ac yr hoffech wneud cais, anfonwch y canlynol atom:

  • CV cyfredol sy’n sôn am eich profiad gwaith hyd yma – gwnewch yn siŵr eich bod yn amlygu profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
  • Llythyr eglurhaol – nad yw’n hwy na dwy ochr – sy’n dweud wrthym pam yr ydych yn ymgeisydd delfrydol a sut byddwch yn mynd ati i gyflawni cyfrifoldebau’r rôl. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
  • Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi’i llenwi – y dylid ei llenwi ar-lein yma – cadarnhewch yn eich llythyr eglurhaol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.

Dylid anfon ceisiadau at sarah.horner@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau.

Bydd ceisiadau yn cau am 10/3/24.

Ymrwymiad.

Tymor: I gychwyn gwasanaethu am dymor o flwyddyn, gyda’r ail-benodi yn digwydd yn flynyddol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Cyfarfod: Cymryd rhan mewn pedwar Cyfarfod Bwrdd 2 awr y flwyddyn a diwrnod cynllunio blynyddol.

  • Cymryd rhan mewn pedwar o Gyfarfodydd Bwrdd dwy awr y flwyddyn, gan gydweithio gyda’r Prif Weithredwr i osod agendâu.
  • Mynd i unrhyw gyfarfodydd pwyllgor angenrheidiol, diwrnod cynllunio blynyddol, a hyfforddiant sy’n ofynnol i’r Bwrdd.
  • Yn draddodiadol mae’r Cadeirydd yn aelod o Bwyllgorau Cyllid a Phobl y bwrdd, sy’n cyfarfod yn chwarterol.
  • Gall y Cadeirydd hefyd ymuno â phwyllgor arall (Codi Arian, Artistig, Cydraddoldeb Strategol), yn nodweddiadol yn cynnwys pedwar cyfarfod y flwyddyn.

Digwyddiadau: Mynd i ddigwyddiadau, gan gynnwys dangosiadau cyntaf a pherfformiadau eraill, i ymgysylltu’n llawn â gweithgareddau Theatr Hijinx.

Ymrwymiad: Ar gyfartaledd, disgwylir i ymrwymiad y Cadeirydd fod tua un diwrnod y mis.

Dyddiad cau: 10/3/24

Ein Heffaith.