Odyssey yw grŵp cymunedol oedolion Hijinx.
Eleni, rydym yn dathlu 25 mlynedd o greu theatr gymunedol ddifyr i deuluoedd.
Bob gaeaf mae ein haelodau’n perfformio yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru. Mae ein dramâu yn cael eu hysgrifennu ar gyfer y cast, sy’n gweithio gyda thîm cynhyrchu proffesiynol sy’n gweithio dros ein haelodau.
Eleni bydd ein cast hefyd yn dyfeisio a pherfformio darn o theatr awyr agored ar gyfer Gŵyl Undod Hijinx.
Mae ein haelodau:
- Yn 25 oed a hŷn
- Yn anabl a heb fod yn anabl
- Wrth eu bodd yn perfformio
- Yn ffynnu mewn cymuned brysur, hwyliog
A ydych yn mwynhau perfformio? A ydych yn chwilio am gyfle newydd cyffrous eleni?
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am 3 aelod niwronodweddiadol i ymuno â’r cast.
Mae’n bwysig gwybod...
Amseroedd.
Amseroedd ymarfer: Nosweithiau Llun 7 – 9pm (yn ystod y tymor) a rhai penwythnosau (yn nes at berfformiadau).
Lleoliad.
Lleoliadau ymarfer: Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd.
Profiad.
Mae’r aelodau yn gymysgedd o rai â phrofiad proffesiynol a heb fod yn broffesiynol o berfformio.
Cost.
Mae ffi dymhorol o £40 (yn daladwy 3 gwaith y flwyddyn). Bydd hyn yn codi i £45 y tymor ym mis Ebrill 2024.
Mae ein haelodau wedi llunio amgylchedd diogel, cefnogol. Maent yn ystyried eu hunain yn deulu ac maent yn eiddgar i groesawu egni newydd i’r grŵp.
Y broses o ymuno.
Cais (gweler y manylion isod) – rydym yn gofyn am geisiadau fel ein bod yn gallu dod o hyd i bobl sy’n ymroddedig ac a fydd yn addas i Odyssey.
Yna byddwn yn gwahodd unigolion i ymuno â ni am sesiwn flasu.
Byddwn ni yn gofyn sut y gwnaethoch chi weld y profiad ac os hoffech chi ddal i barhau.
Bydd y grŵp yn trafod pwy y maen nhw’n ei deimlo sydd yn gweddu orau i’r gymuned.
Byddwn yn cysylltu â phawb gyda’r canlyniad, a fydd yn gynnig i ymuno neu beidio.
Dylid anfon negeseuon e-bost at jon.dafydd-kidd@hijinx.org.uk. Y dyddiad cau i ymgeisio yw dydd Llun 1af Ebrill.
Gall ceisiadau fod:
- Naill ai yn ysgrifenedig (dim mwy na 1 dudalen A4 neu gyfatebol)
- Neu fideo (dim mwy na 2 funud o hyd)
Dylai ceisiadau gynnwys.
Pwy ydych chi (enw, rhagenwau, unrhyw wybodaeth mynediad y mae’n ddefnyddiol i ni ei wybod i’ch cefnogi mewn sesiwn).
Unrhyw brofiad sydd gennych o berfformio (ni fydd hyn yn effeithio ar eich cyfle; mae’n ein helpu i ddod i’ch adnabod).
Pam bod gennych ddiddordeb mewn ymuno ag Odyssey (gall hyn gynnwys profiad o weithio mewn amgylcheddau cynhwysol, unrhyw ddysgu yr ydych yn gobeithio ei wneud, neu rywbeth hollol wahanol).
Unrhyw wybodaeth ychwanegol y byddech yn hoffi i ni wybod amdani.
Gwybodaeth Ychwanegol.
Dim ond un o’n prosiectau cymunedol ar draws Cymru yw Odyssey. Dyma’r rhaglen a arweiniodd y ffordd ac mae’n chwaer hŷn i’n dwy theatr i bobl ifanc, ein band a mwy.
Gyda’i gilydd, rydym yn galw ein prosiectau cymunedol yn “PAWB” oherwydd eu bod i bawb.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Jon (Pennaeth PAWB) trwy anfon e-bost at: jon.dafydd-kidd@hijinx.org.uk.