Mae HUMBUG! yn ddilyniant hwyliog a myfyriol i chwedl glasurol Charles Dickens, A Christmas Carol.
HUMBUG!.
Mae’n fis Tachwedd yn y ffatri humbug, ac mae gweithwyr Cwmni Danteithion Scrooge & Cratchit yn gweithio’n galed yn y rhuthr olaf at y Nadolig. Fodd bynnag, mae pennaeth a pherchennog y ffatri, Tim Cratchit, wedi troi’n llym ac yn gwirioni â gwaith, ar ôl anghofio’r gwersi a roddwyd iddo gan ei hen ffrind a’i fentor, Ebenezer Scrooge.
Un noson, mae amrywiaeth liwgar o ysbrydion yn ymweld â Tim ar genhadaeth i newid ei bersbectif. A fydd taith drwy’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn llwyddo i ddod â llawenydd yn ôl i fywyd Tim?
Wedi’i berfformio gan gast cymysg o actorion anabl a rhai nad ydynt yn anabl, mae HUMBUG! yn ddilyniant hwyliog a myfyriol i chwedl glasurol Charles Dickens, A Christmas Carol.
Location: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Amser dechrau:
- Iau 23 Tachwedd 2023, 7pm
- Gwener 24 Tachwedd 2023, 7pm
- Sadwrn 25 Tachwedd 2023, 3pm & 7pm
Hyd y perfformiad:Â 1 awr
Canllaw oed:Â 5+
Hygyrchedd:
Bydd gan bob perfformiad Ddisgrifiad Sain gan Alistair Sill.
Bydd teithiau cyffwrdd ar gael ar gais wrth archebu. Cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk
Bydd BSL integredig gan Sami Dunn ym mhob perfformiad.