Am y sioe.
Mor brydferth a lloergan, mae gan uncyrn lle arbennig yn ein dychymyg torfol. Ac mae’n troi allan ei bod nhw yn bodoli! Ond, mae gyda nhw asgwrn i’w grafu. “’Dy ni’n uncyrn, jyst gad ’e fod. ’Dy ni’n gwybod de da chi moyn: i roi maldod i ni a thynnu lluniau a defnyddio’n hud ni. Ond, ’dy ni ’di cael digon! Jyst gad i ni fod.” Mae Grumpy Unicorns yn jyst hynna, yr hud o ddarganfod bod uncyrn yn bodoli (!), a'r ganlyniad o dynoliaethyn methu i’w cymryd nhw o ddifrif. Dyma un cwmni crwydrol sy’n llewyrchu ac yn BWDLYD fel na welsoch erioed o’r blaen.
Gwybodaeth am y Rhaglen.
Argymhellir ar gyfer rhai 9-99 oed. Hyd yn 25 munud. Yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau a digwyddiadau awyr agored. Gall gael ei berfformio ddwywaith y dydd. Ar gael i deithio’n fyd-eang.
Cliciwch yma am ffioedd a gwybodaeth bellachCast a Chriw (ar daith).
Mae’r perfformiad theatr stryd cynhwysol hwn yn cynnwys 4 o berfformwyr Grumpy Unicorns, 2 ohonynt ag anabledd dysgu a/neu Awtistiaeth. Mae 1 technegydd ac 1 galluogydd creadigol hefyd yn cefnogi’r perfformiad ar daith (Cyfanswm o 6 ar daith).
Gofynion Technegol.
Mae ar y ‘Grumpy Unicorns’ angen lle sydd o leiaf 8m o led a 6m o ddyfnder i berfformio. O ddewis i’w berfformio ar lefel y stryd/ddaear, yn hytrach nag ar lwyfan wedi ei chodi. Perfformiad statig yw hwn, gyda rhyngweithio a chyfraniad gan y gynulleidfa, a gall gynnwys ‘cerdded o gwmpas’ os gofynnir. Mae angen PA, ond gall fod yn rhywbeth symudol yn hytrach na system lawn.
Cliciwch yma am unrhyw ymholiadau technegol pellachSylwadau’r gynulleidfa.
SO MUCH FUN! I never get involved with audience participation, but how could I resist a dance with those Grumpy Unicorns?!
@ Chapter, 2021
Great to have live stuff happening again, and something as joyful as fluffy human hybrid unicorns! You could tell both spectators and performers had a great time.
@ Chapter, 2021
Hijinx have provided a completely new perspective on unicorns and it's one that is full creativity, humour and fun. Enjoyment is guaranteed!
@ Chapter, 2021
Cast a Gweithwyr Creadigol.
Ellen Groves
Perfformiwr, Dyfeisydd, Cyd-gyfarwyddwr a Ffynhonnell y Cysyniad
Fiona Wilson
Perfformiwr a Dyfeisydd
George Fuller Orange
Perfformiwr a Dyfeisydd
Jonathan Pugh
Perfformiwr a Dyfeisydd
Ben Pettitt-Wade
Cyd-gyfarwyddwyr
Jacqui Onions
Choreograffydd
Susie Glatt
Dylunydd a Gwneuthurwr Gwisgoedd
Tom Ayres
Rheolwr Cynhyrchiad
Ellis Wrightbrook
Cynhyrchydd
Bron Davies
Cynhyrchydd
Holly Stoppit
Hwylusydd Clownio (Ymchwil a Datblygu)