Buddion

gweithio gyda Hijinx

Buddion gweithio gyda Hijinx.

Rydyn ni eisiau i Hijinx fod yn lle gwych i weithio, felly rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o fuddion i aelodau staff, a bob amser yn chwilio am fwy o ffyrdd i gefnogi ein tîm!

Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP)

Mae gan holl aelodau staff Hijinx fynediad at ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP) a ddarperir  gan Health Assured. Mae’n cynnwys llinell gymorth 24 awr i’ch cynorthwyo trwy unrhyw faterion neu broblemau mewn bywyd. Gwasanaeth cyfrinachol i weithwyr yw EAP a ddyluniwyd i’ch helpu i ddelio â phroblemau personol a phroffesiynol a allai fod yn effeithio ar eich bywyd gartref neu’ch bywyd gwaith, eich iechyd a’ch lles cyffredinol.

Pensiwn

Rydyn ni’n defnyddio Nest fel ein cynllun pensiwn gweithle. Os ydych yn gymwys, byddwn yn eich cofrestru neu fe allwch optio i mewn i’r cynllun i ddechrau rhoi arian o’r neilltu ar gyfer eich dyfodol.

25 diwrnod o wyliau

Mae staff yn cael 25 diwrnod o wyliau yn ogystal â gwyliau banc statudol, pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser.

Gweithio hyblyg

Mae gan holl weithwyr Hijinx yr hawl i ofyn am gael gweithio’n hyblyg. Rydyn ni wedi’n trefnu mewn ffordd sy’n galluogi’r tîm i weithio o leoliadau gwahanol..

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Beicio i’r Gwaith, felly gall staff arbed arian ar gludiant dyddiol a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd!

Hyfforddiant

Rydyn ni’n datblygu ac annog ein gweithwyr i dyfu yn eu rolau a bod y gorau y gallant fod. Rydyn ni’n darparu amrywiaeth o hyfforddiant i staff i gefnogi datblygiad cyffredinol a datblygiad sy’n benodol i’r rôl, fel y bo’r angen.