Actorion Hijinx yn cael rhannau theatr cyffrous wrth i fwy o gwmnïau geisio rhoi rhannau yn gynhwysol

Yn ddiweddar mae’r actorion Hijinx Faye Wiggan a William Young wedi cael rhannau cyffrous ar lwyfan gyda’r Theatre Royal Stratford East a’r Birmingham Rep, wrth i fwy o theatrau geisio rhoi rhannau yn ddilys a chynhwysol.

Ers 2017, Hijinx Actors sydd wedi bod yn adain gastio i Hijinx, un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaengar Ewrop.

Rhoddwyd rhan Debbie i Faye Wiggan yn VILLAGE IDIOT, ochr yn ochr â Mark Benton (Early Doors, Waterloo Road) ac Eileen Nicholas (Trainspotting). Cynhyrchiad newydd sbon yw VILLAGE IDIOT a gyflwynir gan Theatre Royal Stratford East, Nottingham Playhouse a Ramps on the Moon.

Ar ôl cael y rhan a dechrau’r ymarferion yn Llundain, mynegodd Faye ei chyffro wrth iddi ddweud ei bod yn teimlo mewn “sioc”.

“Allai ddim credu fy mod wedi mynd bob cam i ddinas...does gen i ddim geiriau. Dwi ddim yn teimlo fy mod am roi'r gorau iddi, achos drychwch ble’r ydw i!”

Dywedodd y cyfarwyddwr Nadia Fall, 

“Nid oeddwn erioed wedi darllen dim byd yn union fel Village Idiot: mae’n fentrus, fe wnaeth i mi chwerthin yn uchel a rhoi ffenestr i mi ar fywyd gwledig nad ydym ni o drefi a dinasoedd yn gallu ei weld. A’r hyn sy’n arbennig o gyffrous i mi yw mai dyma’r sioe Ramps gyntaf sydd yn ddrama newydd, wedi ei hysgrifennu gan ddramodydd niwrowahanol.”

Bydd VILLAGE IDIOT yn rhedeg 11 – 25 Mawrth yn y Nottingham Playhouse29 Mawrth – 1 Ebrill yn y New Wolsey, Ipswich ac 13 Ebrill – 6 Mai yn y Theatre Royal Stratford East.

Ochr yn ochr â Tom McCall (RSC/Old Vic Bryste) fel George, mae actor Hijinx William Young wedi cael rhan Lennie yn Of Mice and Men yn y Birmingham Rep, rhan y mae’n ei ail-greu ar ôl actio Lennie yn 2017 gydag August 012. Dywedodd William:

“Rwyf wrth fy modd o gael chwarae Lennie eto. Mae’n fy atgoffa o’r BFG gan Roald Dahl. Rwy’n gwneud hyn i’r holl bobl eraill ag anableddau dysgu/anableddau sydd wrth eu bodd yn actio ond nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i gael unrhyw rannau proffesiynol eto.”

Dywedodd y Cyfarwyddwr Iqbal Khan,

“Rwyf wedi cyffroi cymaint o fod yn gweithio gyda chwmni gwych ac amrywiol ar y ddameg fythol hon gan Steinbeck. Rwy’n edrych ymlaen at greu cynhyrchiad hardd a hael, sy’n cynnwys pawb sy’n profi allgauedd mewn cyfnodau heriol.”

Cyflwynir Of Mice and Men gan y Rep, Leeds Playhouse a Fiery Angel, trwy drefniant gyda Josef Weinberger Ltd a bydd yn rhedeg o 18 Mawrth – 8 Ebrill yn y Rep.

Mae Hijinx wedi bod yn gweithio gydag actorion ag anableddau dysgu ers mwy nag 20 mlynedd, ac am y degawd diwethaf mae wedi cynhyrchu sioeau sydd wedi ennill gwobrau sy’n rhoi rhannau i actorion anabl a heb anabledd ochr yn ochr.

Mae’r llwyfan castio unigryw, Hijinx Actors, yn cynrychioli dros 60 o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd wedi eu hyfforddi’n broffesiynol o bob rhan o Gymru ac mae ganddynt y nod ehangach o gynyddu cynhwysiant wrth gastio yn y diwydiannau llwyfan a sgrin. Gyda’i gilydd mae actorion Hijinx wedi gweithio ar dros 35 o gyfleoedd ar lwyfan a sgrin y tu allan i Hijinx.

Meddai Olivia Harris, Pennaeth Datblygu Busnes: Castio yn Hijinx,

“Un o’n prif gymhellion dros sefydlu adain gastio Hijinx oedd hyrwyddo a chefnogi’r cyfoeth o dalent yr ydym yn ei weld bob dydd yn yr actorion yr ydym yn gweithio gyda nhw, felly rydym wrth ein boddau bod Wiliam a Faye wedi cael rhannau yn y cynyrchiadau theatr pwysig yma ar draws y Deyrnas Unedig.”

Dysgwch ragor am y llwyfan gastio Hijinx Actors: www.hijinxactors.co.uk.

Llun gan Kris Askey.