Rydym yn helpu busnesau i weithredu cyfathrebu mwy cynhwysol gyda chleientiaid a chwsmeriaid sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Gyda’n hactorion Hijinx proffesiynol yn ganolog i’r hyfforddiant, rydym yn darparu sesiynau difyr ac ymarferol sy’n gwneud cynhwysiant yn ffaith.
Ein Model Hyfforddi: NAID.
Yn ein holl ffurfiau o hyfforddiant rydym yn gwahodd cyfranogwyr i neidio i sefyllfaoedd mewn byd go iawn, dan arweiniad profiad bywyd ein hactorion, i archwilio, herio, a gwella cyfathrebu yn y gweithle mewn gofod diogel, rhyngweithiol.
N – Newid Cadarnhaol:
Mae’r sgiliau a ddysgir yn trosi yn uniongyrchol yn well cyfathrebu, gan gynyddu hyder a gyrru cynhwysiant gwirioneddol yn y gweithle.
A – Arweiniad Actorion:
Mae ein hactorion Hijinx proffesiynol yn dod â sefyllfaoedd gwirioneddol yn fyw, gan greu cyfleoedd dysgu grymus a dilys.
I – Iaith Profiad:
Cynlluniwyd yr hyfforddiant ac fe’i cyflwynir ochr yn ochr â phobl â phrofiad bywyd o anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
D – Dysgu Ymgysylltiedig:
Mae dulliau rhyngweithiol yn cadw’r cyfranogwyr yn rhan o’r hyfforddiant, gan wneud y dysgu yn gofiadwy a pherthnasol.

E-ddysgu
Rydym yn datblygu hyfforddiant ar-lein i gefnogi eich taith hyfforddi am gyfathrebu cynhwysol. Rhannwch eich e-bost i fod y cyntaf i glywed pan fyddwn yn ei lansio! Cysylltwch â’n Cydlynydd Hyfforddiant, Zade, yn zade.campbell-davies@hijinx.org.uk
Anfonwch e-bost
Roeddem eisiau cael golwg ysgafn a hwyliog ar yr hyn a all fel arall fod yn bwnc sych, a darparodd Hijinx yr ateb delfrydol.
Cyfreithwyr Hugh James
Mae cwmnïau arloesol fel Hijinx yn chwarae rhan bwysig dros ben o ran newid canfyddiadau ynghylch anabledd
Mae cwmnïau arloesol fel Hijinx yn chwarae rhan bwysig dros ben o ran newid canfyddiadau ynghylch anabledd