Mae Housemates yn dychwelyd yn y Gwanwyn 2027

Yn dilyn canmoliaeth gan y beirniaid a’r torfeydd yn codi ar eu traed, mae cynhyrchiad Hijinx a Theatr Sherman o Housemates yn ôl ar y ffordd eto. 

Cyhoeddodd Hijinx, cwmni theatr cynhwysol Cymru a’r cynhyrchydd amlwg Theatr Sherman bod y cyd-gynhyrchiad llwyddiannus iawn a dderbyniodd gymaint o ganmoliaeth Housemates yn dychwelyd. Bydd y sioe â’i stori i godi calon, sy’n seiliedig ar stori wir, yn teithio i leoliadau yng Nghymru ac i leoliadau yn Lloegr am y tro cyntaf rhwng 16 Ebrill a 3 Gorffennaf 2027. Mae tocynnau ar werth yn awr mewn lleoliadau dethol, gyda rhagor o ddyddiadau yn mynd ar werth yn fuan. 

Wedi ei hysgrifennu gan Tim Green a’i chyd-gynhyrchu gan Ben Pettitt-Wade a Joe Murphy, mae Housemates yn stori go iawn am gyfeillgarwch, gwrthryfel ac arbrawf chwyldroadol a newidiodd y byd yn yr 1970au. Mae’r ddrama emosiynol hon sy’n symud yn gyflym yn llawn o glasuron y 70au sy’n cael eu perfformio gan fand byw mewn cynhyrchiad llawn o galon, hiwmor, emosiwn ac ysbryd roc a rôl.  

Yn ychwanegol at berfformiadau yng Nghymru yn Theatr Sherman, Caerdydd (16 – 24 Ebrill) a Ffwrnes, Llanelli (7 – 8 Mai), mae taith 2027 yn nodi perfformiadau cyntaf Housemates yn Lloegr, gan fynd â’r cynhyrchiad i chwech o ddinasoedd Lloegr. Bydd y sioe yn ymddangos yn y Salisbury Playhouse (13 – 15 Mai), Leeds Playhouse (20 – 22 Mai), Exeter Northcott (28 – 29 Mai), Derby Theatre (17 – 19 Mehefin) a Bristol Old Vic (30 Mehefin – 3 Gorffennaf). Cefnogir taith 2027 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council of England ac Ymddiriedolaeth Innovate. 

Dathliad o ddewrder, cymuned a’r bobl gyffredin wnaeth newid hanes...

Yn yr 1970au cyrhaeddodd Alan, dyn ifanc a aned gyda Syndrom Down, fywyd myfyriwr prifysgol, Jim. Roedd Alan wedi byw yn Ysbyty Trelái ers ei blentyndod. Y cyfan oedd Alan ei eisiau oedd byw mewn tŷ a bod mewn band. Roedd Jim am wneud gwahaniaeth yn y byd, ond nid oedd yn gwybod sut eto. Ynghyd â’u ffrindiau, fe wnaethant gychwyn ar arbrawf oedd yn herio’r system ac a wnaeth helpu i danio’r symudiad oddi wrth ofal sefydliadol tuag at Fyw â Chymorth. Daeth yr hyn gychwynnodd fel gweithred o gyfeillgarwch yn drobwynt byd-eang o ran hawliau’r anabl, gan drawsnewid bywydau a newid y ffordd yr oedd cymdeithas yn meddwl am annibyniaeth, dewis a pherthyn.  

Cast yn dychwelyd ar gyfer 2027 

Perfformiwyd Housemates yn wreiddiol yn 2023 ac oherwydd ei llwyddiant daeth yn ôl i’r llwyfan yn 2025. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys cast o actorion-gerddorion ag anabledd dysgu, niwroamrywiol a niwronodweddiadol. Mae taith 2027 yn cynnwys aelodau o gast 2025 gydag Emily Ivana Hawkins fel Sally, Gareth John fel Alan, Peter Mooney fel Jim, Matthew Mullins fel John, Richard Newnham fel Dr Cooper, Lindsay Spellman fel Heather ac Eveangeleis Tudball fel Julie. Mae James Ifan (Birch) a Caitlin Lavagna (Sian) yn cwblhau’r cast. 

Dywedodd Ben Pettitt Wade Cyd Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Artistig Hijinx,

“Rydym yn falch iawn o fod yn teithio gyda Housemates eto, gan ymweld â rhai lleoliadau a rhannau newydd o’r Deyrnas Unedig, ynghyd ag agor yn Theatr Sherman yng Nghaerdydd, lle cychwynnodd y cyfan. Mae stori anhygoel gan Housemates  i’w hadrodd ac mae’n gwneud hynny trwy chwerthin, dagrau a rhai eiliadau o orfoledd. Pan agorodd y sioe gyntaf a theithio Cymru cafodd ymateb anhygoel gan y gynulleidfa. Oherwydd y galw gan y gynulleidfa a’r effaith y mae’r sioe wedi ei gael yr ydym yn ei dwyn yn ôl. Allwn ni ddim aros i ddod â’r darn grymus hwn o theatr i gynulleidfa ehangach.”

Dywedodd Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr Sherman:

“Mae gan Housemates le arbennig iawn yn ein calonnau; enghraifft berffaith o’r ffordd y mae Theatr Sherman yn adrodd storïau o Gymru sy’n berthnasol yn fyd-eang. Cychwynnodd y stori dafliad carreg o’n drws ffrynt, ac mae wedi bod yn fraint ei meithrin o’n comisiwn gwreiddiol yn ystod ein cyfres Calon Caerdydd yn y cyfnod clo i fod yn sioe wnaeth blesio’r torfeydd a’r beirniaid a gafodd ei chreu dan ein to ni. Mae’n bleser mawr rhannu’r cyd-gynhyrchiad llawn llawenydd hwn gyda chynulleidfaoedd pellach, a gyda hi darn eithriadol o hanes Caerdydd.” 

Dywedodd actor Hijinx, Gareth John, sy’n chwarae rhan Alan,

“Allai ddim aros. Fy hoff gân yn y sioe yw ‘Cum on Feel the Noize’ oherwydd dwi’n cael chwarae’r drymiau iddi. Fe ddysgais sut i chwarae’r drymiau ar gyfer y rhan. Rwy’n edrych ymlaen am gael gweld Pete [Mooney], fy ffrind, a gweddill y cast hefyd – maen hwyl cael bod yn eu cwmni. Rwy’n ei fwynhau i gyd.”   

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.hijinx.org.uk/housemates ynghyd â dolenni i Swyddfeydd Tocynnau i archebu tocynnau. Gwyliwch fideo hysbysebu Housemates yma.