Hijinx yn Lansio Hyfforddiant Ar-lein Newydd

Tu Hwnt i Eiriau: y cwmni theatr Hijinx yn lansio cwrs hyfforddi ar-lein, cynhwysol newydd i’r sector digwyddiadau  

Mae’r cwmni theatr cynhwysol, Hijinx, yn falch iawn o gyhoeddi eu bod yn lansio rhaglen hyfforddi ryngweithiol ar-lein Tu Hwnt i Eiriau a ddyluniwyd i wella cyfathrebu a hygyrchedd mewn digwyddiadau a lleoliadau gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Datblygu'r Sector - Digwyddiadau Cymru.  

Fel adnodd ar-lein fforddiadwy, bydd sefydliadau ar draws y sector digwyddiadau yn gallu cael mynediad rhwydd at raglen Hijinx ble bynnag y maent. Am ychydig o gost, bydd yn gadael i nifer fwy o bobl gael y cyfle i ddysgu sut i wneud eu digwyddiadau a’u lleoliadau yn fwy cynhwysol a phleserus i ymwelwyr. 

Mae Hijinx wedi cydweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru, Gig Buddies Cymru a Creu Cymru i ddatblygu cwrs ar-lein newydd wedi ei ddylunio i helpu rheolwyr a thimau digwyddiadau i wneud cynhwysiant yn rhan o gynllunio digwyddiadau a’u darparu. Mae’r cwrs yn cynnig gwybodaeth werthfawr am ffyrdd i chwalu rhwystrau a brofir gan bobl ag anableddau dysgu, gyda dim ond 12% o oedolion anabl/ag anabledd dysgu yn mynd i ddigwyddiadau diwylliannol, mewn cymhariaeth â dros 70% o’r boblogaeth yn gyffredinol (Mencap, 2019) 

Mae’r cwrs hyfforddi ar-lein Tu Hwnt i Eiriau yn adeiladu ar lwyddiant sesiynau yn y cnawd yn y gorffennol, lle’r oedd y cyfranogwyr yn ymgysylltu’n uniongyrchol ag actorion Hijinx ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth trwy weithgareddau dysgu hwyliog a difyr ar sail drama.   Lluniwyd y cwrs ar-lein i ailadrodd y profiad yn y cnawd, trwy gyfres o sefyllfaoedd rhyngweithiol ar sail drama a berfformir gan yr actorion mewn ffilmiau byr ochr yn ochr â gweithgareddau rhyngweithiol a chwisiau. Mae adnoddau a chanllawiau y gellir eu lawrlwytho hefyd ar gael fel offer ymarferol i gefnogi’r dysgu. 

Mae’r hyfforddiant yn hawdd cael ato trwy wefan Hijinx, lle gall unigolion ddilyn y cwrs eu hunain neu gall sefydliadau gofrestru nifer o aelodau tîm digwyddiad ar gyfradd ostyngol. Gweler gwefan Hijinx am y prisiau presennol a’r dewisiadau o ran y cwrs. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol a Chyd Swyddog Gweithredol Hijinx, Eloise Tong,  

“Er ein bod yn aml yn adnabyddus am ein perfformiadau ac Academïau, enillodd Hijinx nifer o wobrau am ei hyfforddiant ac mae wedi helpu llawer o dimau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i wella eu hyder. Trwy ddilyn y cwrs hwn bydd y cyfranogwyr yn gallu ail-siapio’r ffordd y maent yn meddwl am y rhwystrau sy’n bodoli wrth drefnu digwyddiadau ac rydym yn gobeithio, o ganlyniad, y bydd yn eu hysgogi i ystyried eu harferion eu hunain a’u helpu i greu cynllun at y dyfodol. Byddem yn hoffi diolch i  Lywodraeth Cymru yn neilltuol am ein cefnogi a gwneud Tu Hwnt i Eiriau yn bosibl, ein cydweithwyr Anabledd Dysgu Cymru a Gig Buddies a wnaeth ein galluogi i wneud y cwrs mor llawn gwybodaeth ac ymarferol ag sy’n bosibl a Creu Cymru am eu cefnogaeth wrth ein helpu i gyflwyno’r hyfforddiant hwn ar draws y sector.” 

Mae rhagor o wybodaeth am hyfforddiant ar-lein Tu Hwnt i Eiriau Hijinx a manylion sut i ddod o hyd i’r cwrs ar gael yn: https://www.hijinx.org.uk/beyond-words/