Canslo Gŵyl Undodyn Llanelli

Oherwydd y gwres eithafol, ac yn unol â chanllawiau Iechyd y Cyhoedd a'r undeb, mae Hijinx a Theatrau Sir Gâr wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo rhaglen Gŵyl Undod yn Llanelli ddydd Iau (25 Mehefin), a hynny er mwyn diogelu'r perfformwyr, tîm yr ŵyl a'r cynulleidfaoedd.

Rydyn ni'n siomedig bod angen gwneud y penderfyniad hwn, ond diogelwch pawb sy'n cymryd rhan yw ein blaenoriaeth. Roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal am 7 awr rhwng 12.30pm a 7.30pm, sy'n cwmpasu oriau poethaf y dydd, ac felly gallai fod wedi rhoi’r perfformwyr a'r gynulleidfa mewn perygl.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich dealltwriaeth.

Gallwch dal weld Gŵyl Undod yn yr Wyddgrug ar 27 Mehefin ac yng Nghaerdydd rhwng 1 a 5 Gorffennaf. Gobeithio y byddwn ni'n eich gweld chi yno!