Gŵyl Undod 2026 – Llanelli

Ymunwch â ni yn Ffwrnes, Llanelli ar ddydd Iau 25 Mehefin

Theatr stryd a dawns yng nghanol Llanelli.

Ymunwch â ni yn Ffwrnes, Llanelli ar ddydd Iau 25 Mehefin ar gyfer rhaglen unigryw a llawn i’r ymylon o theatr stryd a dawns am ddim, yn cynnwys perfformiadau gan Hijinx, Humans Move, Kitsh & Sync, Stopgap Dance Company, Taking Flight, tanzbar_bremen a Theatr Iolo. 

Gallwch ddisgwyl gweld criw afreolus o gorachod hudolus yn Coblyn (Hijinx, Theatr Iolo, Kitsch & Sync), anhrefn gyda chadeiriau plygu yn The Audience (Academi Gogledd Hijinx), ochr yn ochr â’r RO-TES-រទ cyffrous gan y Stopgap Dance Company sy’n world-class” (The Guardian) ac wedi ennill llu o wobrau.   

Rydym yn edrych ymlaen at ddod â Gŵyl Undod i Ffwrnes eto eleni! 

Porwch trwy’r rhaglen lawn isod. Bydd yr amserlen lawn o ddigwyddiadau ynghyd ag amseroedd ar gael yma yn agosach at yr ŵyl. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn dilyn @hijinxtheatre ar y cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddi ddigwydd.

http://An%20old-style%20black%20and%20white%20silent%20film%20screen%20with%20the%20title%20The%20Audience%20in%20decorative%20text%20above%20a%20picture%20of%20a%20foldable%20chair.

The Audience.

Gan Hijinx. Maen nhw’n dod. Cadeiriau gyda nhw. Mae tyrfa’n ymgasglu. Maen nhw’n symud fel un, ac yna ddim o gwbl. Mae’r cadeiriau’n agor yn glep. Mae llwybrau’n croesi ei gilydd. Mae’r amhosibl yn dechrau dod i siâp. Mae’r hyn gychwynnodd fel rhywbeth cyfarwydd yn dod yn rhywbeth rhyfeddach, mwy chwareus, peryclach. Pwy maen nhw’n ei wylio? A phryd fydd cynulleidfa’n peidio gwylio a dechrau dod yn rhan o’r sioe? Gan Hijinx, mae The Audience yn archwiliad heriol, slapstic o agosatrwydd, amharu, a’r cydbwysedd bregus rhwng rheolaeth a chwalfa, gan adeiladu tuag at ddelwedd derfynol syfrdanol na ddylai allu sefyll…ond sy’n gallu rhywsut.

http://Performers%20dressed%20as%20colourful%20gnomes%20holding%20toy%20chicks%20close%20to%20their%20faces.

Coblyn.

Gan Hijinx, Theatr Iolo (Cymru) a Kitsch & Sync Collective (Cymru). Mae Coblyn yn sioe deuluol sy’n dathlu llên gwerin Cymru ac yn llawn dop â cherddoriaeth, caneuon a dawnsio gwerin.Yng ngwaelod yr ardd, rhwng y caws llyffant a’r pwll bach rhyfedd, mae’r Coblynnod yn byw – criw bach gwyllt o gorachod hudol!

http://A%20pageant%20sash%20on%20a%20sandy%20beach%20with%20the%20world%20'Crabulous!'%20written%20on%20it%20in%20blue%20sparkly%20writing.

Crabulous!.

Gan Hijinx. Meddwl eich bod yn gwybod am grancod? Meddyliwch eto. Mae’r anwyliaid llachar yma wedi codi o wely’r môr i strytio, disgleirio a gwasanaethu. Croeso i CRABULOUS!, sioe Grancaidd newydd Hijinx. Disgwyliwch weld gwisgoedd rhyfeddol, cystadleuaeth ffyrnig, a dathliad llawn llawenydd o fynd dros ben llestri heb fod â chywilydd o hynny.

http://Two%20dancers%20in%20different%20positions%20wearing%20casual%20clothing.

Imaginary Lines.

Gan Humans Move (Cymru). Beth os mai’r unig gyfyngiad arnoch yw eich dychymyg? Mae llinellau dychmygol yn ein cadw mewn blychau. Maen nhw’n ein categoreiddio, yn ein diffinio, ac yn dweud wrthym pwy ydyn ni ac i ble y gallwn ni fynd. Yn y perfformiad awyr agored trawiadol hwn, mae Adi a Justin yn ail-ddychmygu’r terfynau hynny, gan drawsnewid lle cyhoeddus yn lle llawn posibiliadau. Trwy symud a chysylltiad, maen nhw’n ein gwahodd i amau’r llinellau yr ydym yn eu dilyn ac i ddychmygu sut y gallwn ni symud ymlaen gyda’n gilydd, yn rhydd ac ar ein telerau ni.

http://Two%20performers%20dressed%20in%20suits%20holding%20up%20signs;%20one%20says%20'WORLD%20RECORD'%20and%20the%20other%20says%20'512.7%20mph!'

Kitty O'Neil.

Gan Taking Flight (Cymru). Pwy oedd Kitty O’Neill? Ar y daith ddoniol dros ben hon rydym yn darganfod mai hi oedd y fenyw stỳnt Fyddar gyntaf yn America! Menyw ddigyfaddawd a heriodd y byd oedd yn ceisio ei diffinio wnaeth dorri recordiau, oedd yn chwilio am gyffro a’r Fenyw Gyflymaf yn y Byd! Dysgwch am yr arwres Fyddar gyntaf oedd tu ôl i gampau mwyaf Wonder Woman. Yn arddull arferol Taking Flight mae’r ffug ddrama ddogfen hon gydag ychydig o ryngweithio â’r gynulleidfa ac yn cael ei dweud mewn BSL a Saesneg ac iaith ddieiriau slapstic.

http://Two%20dancers%20in%20brightly%20dressed%20clothing%20hold%20up%20pink%20suitcases%20to%20cover%20their%20faces.

R. Sieht Rot.

Gan tanzbar_bremen. Dau o bobl. Dau gês dillad. Dau fywyd. Yn cychwyn ar daith pan fyddant yn cyfarfod, mae’r ddau gymeriad yma yn dawnsio mewn corwynt o chwilfrydedd a llawenydd bywyd; maent yn herio rolau traddodiadol y rhywiau ac yn ailddarganfod eu perthynas â’i gilydd yn barhaus.

http://A%20wheelchair%20user%20looking%20up%20at%20a%20big%20blue%20bird%20puppet.

Twitch, Glitch and Flap.

Gan Taking Flight. Mae’n gwylwyr adar yn chwilio am y Magnificus Plumitete prin a llawn dirgelwch. Ond maen nhw’n hollol anobeithiol! Mae Twitch yn dilyn y rheolau, Glitch yn dilyn y dechnoleg – a Flap, yn llawn ffwdan heb syniad beth sy’n digwydd. Allwch chi eu helpu i ddod o hyd i’r aderyn y maen nhw’n chwilio amdano? Dewch i helpu’r gwylwyr adar wrth iddyn nhw chwilio am y Magnificus Plumitete. Gyda rhywfaint o ryngweithio â’r gynulleidfa a phypedwaith trawiadol.