Gwybodaeth Hygyrchedd

ar gyfer Gŵyl Undod 2026

Helo.

Croeso i dudalen hygyrchedd Gŵyl Undod 2026. Yma fe gewch chi wybodaeth ddefnyddiol am berfformiadau hygyrch, y lleoliadau a’r cymorth sydd ar gael.

Perfformiadau Hygyrch.

Cynulleidfaoedd Dall a Rhannol Ddall

Gwrandewch ar Daflen Sain Gŵyl Undod 2026 drwy glicio chwarae ar y recordiad isod. Mae yn Saesneg.

Bydd sain ddisgrifio ar gael ar gyfer rhai perfformiadau am ddim a rhai gyda thocynnau.

Bydd gan y digwyddiadau canlynol â thocynnau Ddisgrifiad Sain:

  • Bydd gan The Day the Man Stepped on the Moon (Dydd Gwener 3 Gorffennaf) Ddisgrifiad Sain gan Alastair Sill ynghyd â chyfieithiad sain gan Sami Dunn
  • Bydd gan Down (Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf) Ddisgrifiad Sain a chyfieithiad sain gan Alastair Sill

Mae’r perfformiadau theatr stryd, dawns a syrcas am ddim gyda disgrifiad sain i’w gweld yn y dogfennau isod:

Cliciwch yma am ddogfen Word testun plaen o’r holl berfformiadau â disgrifiad sain yng Ngŵyl Undod 2026

Cliciwch yma am PDF testun plaen o’r holl berfformiadau â disgrifiad sain yng Ngŵyl Undod 2026

Bydd y faner i ddynodi Sain Ddisgrifio ar gyfer y perfformiadau theatr stryd yn las gyda logo Gŵyl Undod ac eicon Sain Ddisgrifio arno. Bydd wedi ei osod ar becyn cefn y disgrifwr sain.

Tîm Disgrifiadau Sain.

Cynulleidfaoedd Byddar a Thrwm eu Clyw

Bydd cyfieithiad BSL a Capsiynau ar gael ar gyfer rhai perfformiadau am ddim a rhai gyda thocynnau.

Bydd gan y perfformiadau canlynol ddehongliad Iaith Arwyddion Prydain:

  • Gŵyl Undod: Off-Script (noson gomedi – dydd Mawrth 30 Mehefin) yn cael ei ddehongli mewn Iaith Arwyddion Prydain gan Stephen Brattan-Wilson
  • Agoriad Mawr Gŵyl Undod (noson cabaret – dydd Mercher 1 Gorffennaf) yn cael ei ddehongli mewn Iaith Arwyddion Prydain gan Stephen Brattan-Wilson
  • A Musical Sharing (Work in Progress) (dydd Gwener 3 Gorffennaf) yn cael ei gyfieithu gan Claire Anderson ar Iaith Arwyddion Prydain

Bydd gan y perfformiadau canlynol gapsiynau:

  • Baby Bumps (dydd Iau 2 Gorffennaf)
  • The Day the Man Stepped on the Moon (dydd Gwener 3 Gorffennaf)
  • Down (dydd Sadwrn 4 Gorffennaf)

Mae’r perfformiadau theatr stryd, dawns a syrcas am ddim gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain a Chapsiynau i’w gweld yn y dogfennau isod:

Cliciwch yma am ddogfen Word testun plaen o’r holl berfformiadau wedi’u Dehongli a’u Capsiynu yng Ngŵyl Undod 2026

Cliciwch yma am PDF testun plaen o’r holl berfformiadau wedi’u Dehongli a’u Capsiynu yng Ngŵyl Undod 2026

Bydd y faner i ddynodi BSL ar gyfer y perfformiadau theatr stryd yn felyn gyda logo Gŵyl Undod ac eicon BSL arno. Bydd y dehonglydd yn ei wisgo ar sach gefn.

Trelar BSL Llawn.

Llwyfannau yng Ngŵyl Undod yng Nghaerdydd.

Yng Nghaerdydd, bydd 4 llwyfan yn cynnal y rhaglen theatr stryd, dawns a syrcas am ddim. Dyma nhw:

  1. Llwyfan Porffor Stage
  2. Llwyfan Gwyrdd Stage
  3. Llwyfan Glas Stage
  4. Llwyfan Melyn Stage

Maent wedi’u henwi ar ôl lliwiau (yn y Gymraeg) ac mae gan bob un eicon cymeriad Gŵyl Undod unigryw ei hun. Gellir dod o hyd i fersiynau mwy o eiconau’r llwyfan isod.

Mae Llwyfan Porffor Stage o flaen Canolfan Mileniwm Cymru, o dan y canopi, ac mae ganddo leoliad what3words o ///librarian.bets.gravy

Mae Llwyfan Gwyrdd Stage y tu mewn i Ganolfan Mileniwm Cymru, yn y Glanfa, ac mae ganddo leoliad what3words o ///kicks.dragon.ocean

Mae Llwyfan Glas Stage o flaen y Senedd, ac mae ganddo leoliad what3words o ///eaten.rock.inspector

Mae Llwyfan Melyn Stage yw trelar Coblyn, a fydd o gwmpas cefn Canolfan Mileniwm Cymru, ac mae ganddo leoliad what3words o ///soft.scenes.movies

Llwyfannau Caerdydd.

Hygyrchedd Lleoliadau.

Cynhelir Gŵyl Undod yn y lleoliadau canlynol eleni: Canolfan Mileniwm Cymru a Chapter yng Nghaerdydd, Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug a Ffwrnes yn Llanelli. Dyma rai dolenni gwe defnyddiol i’r lleoliadau a gwybodaeth teithio.

Canolfan Mileniwm Cymru: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Canolfan Mileniwm Cymru.

Chapter: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Chapter.

Theatr Clwyd: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Theatr Clwyd.

Ffwrnes: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Ffwrnes.

 

Yn bwriadu ymuno â ni ym Mae Caerdydd?

Parcio Bae Caerdydd:

Red Dragon – dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am barcio: Gwybodaeth Parcio’r Red Dragon

Q-Park – dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am barcio: Gwybodaeth Parcio Q-Park

Os ydych yn cyrraedd ar y trên, dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am orsaf drenau Bae Caerdydd: Gwybodaeth am Orsaf Drenau Bae Caerdydd

Mae’r bws Baycar 6 yn gyflym ac yn uniongyrchol rhwng Canol Dinas Caerdydd a Bae Caerdydd, ac yn gadael bob hanner awr.