Gŵyl Undod 2026 Theatr Stryd

Perfformiadau Theatr Stryd, Dawns a Chrwydrol.

Edrychwch ar y perfformiadau theatr stryd a dawns am ddim yng Ngŵyl Undod eleni yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, 4 – 5 Gorffennaf. 

Bydd Gŵyl Fwyd a Diod Caerdydd hefyd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 4 – 5 Gorffennaf, felly ewch i lawr i’r Bae am berfformiadau hyfryd am ddim a bwyd lleol blasus – bwytwch wrth wylio! 

Bydd y rhaglen lawn, gan gynnwys yr amseroedd, a gwybodaeth am y gwahanol berfformwyr ac artistiaid ar gael yn nes at yr ŵyl. Gofalwch ein dilyn ar @hijinxtheatre ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf. 

http://Two%20circus%20performers%20hanging%20off%20a%20Chinese%20pole.

À Deux Mètres.

Gan ADM-VZW (Gwlad Belg). A ydych chi erioed wedi helpu cymaint ar rywun nes eich bod yn eich colli chi eich hun? Beth yw terfynau eich parodrwydd i helpu? Sut gall rhywun gadw ei hunan-barch, ei annibyniaeth a’i integriti? Mae tair elfen yn y perfformiad hwn. Dau acrobat ar bolyn Tsieineaidd a hwn – ocsigen – yr un anweledig sydd ym mhob man yn yr aer ond eto heb fod yng nghorff un acrobat. Bydd Jesse a Rocio yn agor ein llygaid i’r posibiliadau o’n cwmpas yn sensitif.

http://Performers%20dressed%20in%20full%20astronaut%20suits.

Astronauts Fusion.

Gan Hijinx (Cymru) a Satélite Teatro (Tenerife). Mae’r astronots yn ôl ac maen nhw wedi cynyddu! Bydd criw gofodwyr Hijinx yn dychwelyd i Ŵyl Undod, a’r tro hwn bydd SATÉLITE TEATRO o Tenerife yn ymuno â nhw i lunio gorymdaith seryddol yn llawn o chwerthin gofodaidd a rhythmau bygi’r lleuad. Aiff chwech o ofodwyr yn ddeuddeg wrth i’r teithwyr gofod chwilfrydig yma gysylltu am y tro cyntaf â bywyd mwyaf difyr y Ddaear… chi!

http://An%20old-style%20black%20and%20white%20silent%20film%20screen%20with%20the%20title%20The%20Audience%20in%20decorative%20text%20above%20a%20picture%20of%20a%20foldable%20chair.

The Audience.

Gan Hijinx. Maen nhw’n dod. Cadeiriau gyda nhw. Mae tyrfa’n ymgasglu. Maen nhw’n symud fel un, ac yna ddim o gwbl. Mae’r cadeiriau’n agor yn glep. Mae llwybrau’n croesi ei gilydd. Mae’r amhosibl yn dechrau dod i siâp. Mae’r hyn gychwynnodd fel rhywbeth cyfarwydd yn dod yn rhywbeth rhyfeddach, mwy chwareus, peryclach. Pwy maen nhw’n ei wylio? A phryd fydd cynulleidfa’n peidio gwylio a dechrau dod yn rhan o’r sioe? Gan Hijinx, mae The Audience yn archwiliad heriol, slapstic o agosatrwydd, amharu, a’r cydbwysedd bregus rhwng rheolaeth a chwalfa, gan adeiladu tuag at ddelwedd derfynol syfrdanol na ddylai allu sefyll…ond sy’n gallu rhywsut.

http://Five%20performers%20dressed%20in%20black%20chef%20clothing;%20one%20is%20cooking%20an%20omelette%20whilst%20the%20other%20four%20watch%20sat%20in%20a%20row.

Bon Appétit.

Gan Hijinx a Compagnie de l'Oiseau-Mouche (Ffrainc).Yn y sioe wych, wallgof, dairieithog hon, ceir anhrefn wrth goginio wrth i gogyddion o ddiwylliannau gwahanol frwydro i greu’r “omelette perffaith”. Disgwyliwch weld wyau’n hedfan, gwersi etiquette doniol ac ambell sypreis yn y gegin. O ddeall y system giwio i gracio wyau à la française, mae Bon Appétit ! yn archwiliad blasus o ddoniol o fwyd, faux pas, a’r grefft o gael pethau’n anghywir.

http://Two%20male%20presenting%20people%20posing%20wearing%20blue%20robes%20draped%20over%20themselves.

Carmen – Backstage .

Gan Danza Mobile (Sbaen). Pa mor aml ydym ni wedi delfrydu tirweddau pell? Pa mor aml ydym ni wedi gweld ymddygiad gan bobl yr ydym wedi meddwl ei fod ymhell iawn o’n un ni, gan gredu nad oes ganddyn nhw ddim i’w wneud â ni? Lluniwyd y darn hwn fel alegori o Carmen, lle mae’r wisg fflamenco yn peidio â bod yn addurn llên gwerin ac yn dod yn ddeunydd i’n delfrydau ni ein hunain. Trwy ryngweithio rhwng cyrff amrywiol a llais sy’n dweud y stori o safbwynt arallrwydd, rydym yn archwilio’r tensiwn rhwng y chwedl yr ydym yn ei choleddu a’r ystumiau dynol sy’n trigo dan y croen.

http://Against%20an%20orange-lit%20background,%20one%20performers%20jumps%20over%20another.

chAOs.

Gan tanzbar_bremen (Yr Almaen). Mae dau gydymaith yn llusgo eu hunain trwy dirwedd anodd yn y dyfodol nad yw mor bell â hynny. Mae’r ymdrech yn erbyn grymoedd natur y mae newid hinsawdd wedi eu creu yn golygu eu bod wedi ymlâdd. Mae’r ddeuawd yn rhoi ffurf i anobaith a gwrthsefyll; trwy ddawns ac acrobateg, mae’r ddau berfformiwr yn dangos beth sy’n digwydd pan fydd natur yn ymladd yn ôl yn ein herbyn. Ar y dechrau, roedden nhw eu hunain yn rhan o’r gymdeithas wnaeth greu’r sefyllfa hon. Ydyn nhw’n dal i fod? A oes gobaith?

http://Performers%20dressed%20as%20colourful%20gnomes%20holding%20toy%20chicks%20close%20to%20their%20faces.

Coblyn.

Gan Hijinx, Theatr Iolo (Cymru) a Kitsch & Sync Collective (Cymru). Mae Coblyn yn sioe deuluol sy’n dathlu llên gwerin Cymru ac yn llawn dop â cherddoriaeth, caneuon a dawnsio gwerin. Yng ngwaelod yr ardd, rhwng y caws llyffant a’r pwll bach rhyfedd, mae’r Coblynnod yn byw – criw bach gwyllt o gorachod hudol!

http://A%20pageant%20sash%20on%20a%20sandy%20beach%20with%20the%20world%20'Crabulous!'%20written%20on%20it%20in%20blue%20sparkly%20writing.

Crabulous!.

Gan Hijinx. Meddwl eich bod yn gwybod am grancod? Meddyliwch eto. Mae’r anwyliaid llachar yma wedi codi o wely’r môr i strytio, disgleirio a gwasanaethu. Croeso i CRABULOUS!, sioe Grancaidd newydd Hijinx. Disgwyliwch weld gwisgoedd rhyfeddol, cystadleuaeth ffyrnig, a dathliad llawn llawenydd o fynd dros ben llestri heb fod â chywilydd o hynny.

http://Two%20dancers%20in%20different%20positions%20wearing%20casual%20clothing.

Imaginary Lines.

Gan Humans Move (Cymru). Beth os mai’r unig gyfyngiad arnoch yw eich dychymyg? Mae llinellau dychmygol yn ein cadw mewn blychau. Maen nhw’n ein categoreiddio, yn ein diffinio, ac yn dweud wrthym pwy ydyn ni ac i ble y gallwn ni fynd. Yn y perfformiad awyr agored trawiadol hwn, mae Adi a Justin yn ail-ddychmygu’r terfynau hynny, gan drawsnewid lle cyhoeddus yn lle llawn posibiliadau. Trwy symud a chysylltiad, maen nhw’n ein gwahodd i amau’r llinellau yr ydym yn eu dilyn ac i ddychmygu sut y gallwn ni symud ymlaen gyda’n gilydd, yn rhydd ac ar ein telerau ni.

http://Two%20performers%20dressed%20in%20suits%20holding%20up%20signs;%20one%20says%20'WORLD%20RECORD'%20and%20the%20other%20says%20'512.7%20mph!'

Kitty O'Neil.

Gan Taking Flight (Cymru). Pwy oedd Kitty O’Neill? Ar y daith ddoniol dros ben hon rydym yn darganfod mai hi oedd y fenyw stỳnt Fyddar gyntaf yn America! Menyw ddigyfaddawd a heriodd y byd oedd yn ceisio ei diffinio wnaeth dorri recordiau, oedd yn chwilio am gyffro a’r Fenyw Gyflymaf yn y Byd! Dysgwch am yr arwres Fyddar gyntaf oedd tu ôl i gampau mwyaf Wonder Woman. Yn arddull arferol Taking Flight mae’r ffug ddrama ddogfen hon gydag ychydig o ryngweithio â’r gynulleidfa ac yn cael ei dweud mewn BSL a Saesneg ac iaith ddieiriau slapstic.

http://Two%20dancers%20in%20brightly%20dressed%20clothing%20hold%20up%20pink%20suitcases%20to%20cover%20their%20faces.

R. Sieht Rot.

Gan tanzbar_bremen. Dau o bobl. Dau gês dillad. Dau fywyd. Yn cychwyn ar daith pan fyddant yn cyfarfod, mae’r ddau gymeriad yma yn dawnsio mewn corwynt o chwilfrydedd a llawenydd bywyd; maent yn herio rolau traddodiadol y rhywiau ac yn ailddarganfod eu perthynas â’i gilydd yn barhaus.

http://A%20wheelchair%20user%20looking%20up%20at%20a%20big%20blue%20bird%20puppet.

Twitch, Glitch and Flap.

Gan Taking Flight. Mae’n gwylwyr adar yn chwilio am y Magnificus Plumitete prin a llawn dirgelwch. Ond maen nhw’n hollol anobeithiol! Mae Twitch yn dilyn y rheolau, Glitch yn dilyn y dechnoleg – a Flap, yn llawn ffwdan heb syniad beth sy’n digwydd. Allwch chi eu helpu i ddod o hyd i’r aderyn y maen nhw’n chwilio amdano? Dewch i helpu’r gwylwyr adar wrth iddyn nhw chwilio am y Magnificus Plumitete. Gyda rhywfaint o ryngweithio â’r gynulleidfa a phypedwaith trawiadol.

http://Two%20dancers%20wearing%20white%20trousers%20holding%20hands%20in%20different%20poses%20against%20a%20dark%20black%20background.

We Dance, We Connect.

Gan Anjali Dance Company (Lloegr) a com.dance e.V. (Yr Almaen). Yn 2024-25, daeth dawnswyr o’r Anjali Dance Company a com.dance e.V. at ei gilydd mewn sesiynau digidol ac yn y cnawd yn Freiburg a Chaerlŷr i archwilio sut y gall symud ddod yn iaith gyffredin tu hwnt i eiriau. Trwy waith ar y pryd, coreograffi ac archwiliad creadigol, mae’r darn yn archwilio grym cyfathrebu dieiriau, ymddiriedaeth ac iaith y corff.