Deng Mlynedd yn Nes Ymlaen

Myfyrdod ysgrifenedig gan ein Cynhyrchydd Gweithredol, Ellis.

Yn 2016 ymunais â Hijinx, am dymor penodol, i reoli prosiect Gŵyl Undod y flwyddyn honno. Fel mae’n digwydd y flwyddyn honno oedd blwyddyn Fred hefyd, sydd, fel mae’n digwydd, angen ei oruchwylio trwy’r amser...felly mae’r gweddill yn hanes. Ddeng mlynedd ymlaen, rhywsut neu’i gilydd rwyf yn Gynhyrchydd Gweithredol gyda Hijinx, yn edrych yn ôl ar ddegawd o gydweithio rhyngwladol, pum Gŵyl Undod tu ôl i ni a’r un fwyaf eto yn agosáu yn gyflym.

Daw Gŵyl Undod bob dwy flynedd ac mae’n gymaint o uchafbwynt yn fy nghalendr. Wrth i ni ruthro tuag at yr ŵyl eleni, rwyf wedi bod yn pori trwy luniau o ymarferion, hun-luniau o’r foyer, dathliadau hwyr y nos niwlog a lluniau cynyrchiadau, 10 mlynedd o atgofion lle mae rhai wynebau yn ymddangos dro ar ôl tro. Artistiaid a chwmnïau o bob rhan o Ewrop. Fersiynau iau o’n tîm ni ein hunain, llawer ohonyn nhw yn dal yn rhan o stori Hijinx heddiw. Ac ymhlith hyn i gyd, fersiwn ychydig ar goll ohonof i, ddeng mlynedd yn fwy newydd i’r swydd ac yn dal i geisio penderfynu sut y mae wythnos Gŵyl Undod yn teimlo a byddai, byddai’r cyfan yn gweithio yn y diwedd!

Mae’r casgliad hwn o luniau yn cofnodi rhywbeth pwysig am Undod. Nid yw erioed wedi bod am un eiliad mewn amser. Mae’n ymwneud â chymuned. Pobl yn dychwelyd. Cysylltiadau yn dyfnhau. Yr un artistiaid yn ail-ymddangos mewn sioeau newydd, cynlluniau ar y cyd newydd, a llwyfannau newydd ar eu taith.

Ddeng mlynedd yn ôl roedd y byd yn edrych yn wahanol mewn digonedd o ffyrdd. Yr amser hynny, dim ond dechrau symud i’r brif ffrwd yr oedd y sgyrsiau am gynrychiolaeth pobl anabl. Nid oedd castio dilys i’w weld ar y prif lwyfannau, ac roedd ymarfer cynhwysol yn llawer llai cyffredin mewn ystafelloedd ymarfer. Ers hynny rydym wedi gweld perfformwyr anabl yn ennill gwobrau pwysig, yn arwain dramâu teledu ac yn ail-ffurfio disgwyliadau o sut y dylai llwyfannau a sgriniau edrych.

Ond os ydych yn treulio amser mewn cylchoedd celfyddydau i’r anabl, byddwch yn gwybod rhywbeth arall hefyd. Mae llawer o’r gwaith sydd yn awr yn cael ei “ddarganfod” gan y diwydiant ehangach wedi bod yn digwydd ers degawdau yn barod. Mae cwmnïau o bob rhan o Ewrop a thu hwnt wedi bod yn adeiladu cyrff rhyfeddol o waith yn dawel bach, yn datblygu perfformwyr, yn teithio’n rhyngwladol a phrofi bob nos bod artistiaid anabl yn perthyn yng nghanol y dirwedd ddiwylliannol.

Undod sydd wedi bod yn gyfrwng i ni ddwyn yr artistiaid hynny at ei gilydd, gan brofi i ni’n hunain ac i’r cynulleidfaoedd beth sy’n bosibl, a’r hyn sy’n fy nharo i fwyaf yw faint o’r artistiaid a chwmnïau hynny sy’n dal yn rhan o’n stori ni.

Ddeng mlynedd yn ôl fe wnaethom groesawu Compañía Danza Mobile i Undod gyda’r El Espejo and Bailo... Luego Existo trawiadol. Eleni, maent yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda The Day the Man Stepped on the Moon, yn cynnwys degawd arall o storïau, teithio a chydweithio gyda nhw.

Ddegawd yn ôl, roedd Romeo & Juliet gan Taking Flight yn rhan o raglen Undod a fu’n help i siapio’r ŵyl yr ydym yn ei hadnabod heddiw. Yn 2026, rydym yn falch iawn o’u croesawu yn ôl gyda dau gynhyrchiad newydd: Kitty O’Neil a Twitch, Glitch & Flap.

Yn rhywle yn y casgliad o luniau gallwch weld Annabelle Mailliez o La Compagnie de l'Oiseau-Mouche, a ymunodd â ni ddeng mlynedd yn ôl fel rhan o gatrawd Crossing The Line (prosiect cywaith Ewropeaidd y mae Hijinx wedi bod yn rhan am gyfnod byr ohono mewn breuddwyd cyn Brexit). Yn 2026, bydd Annabelle yn dychwelyd gyda chydweithwyr i gefnogi ein cyd-gynhyrchiad Bon Appétit, yn dilyn preswylfeydd niferus yma yng Nghymru ac ar draws y Sianel yn Ffrainc.

Mae rhai cysylltiadau’n cychwyn gydag un perfformiad ac yn dawel yn dod yn rhan o ddeunydd yr ŵyl ei hun. Mae hynny’n bendant yn wir am y cysylltiad gyda Brian Rodriguez sydd, ar ffurf ClownBaret, ar y cyd gyda Sleepwalkers gyda Hijinx yn 2016. Hefyd ar ôl cydweithio ar Astronauts ar gyfer gŵyl 2019, mae’n dychwelyd i Undod eleni gyda’i ensemble newydd Satélite Teatro ar gyfer Astronaut Fusion: cywaith uchelgeisiol sy’n cyfleu’n berffaith y math o waddol y mae cydweithio fel hyn yn gallu ei greu a’i adael.

Dros yr un cyfnod o ddeg mlynedd, mae Hijinx ei hun wedi bod yn symud yn gyson hefyd. Tyfodd timau, newid eu siâp, symud ymlaen i anturiaethau newydd ac ymunwyd â hwy gan gydweithwyr newydd yn dwyn syniadau ac egni ffres. Mae graddfa’r hyn a wnawn ni yn awr wedi ymestyn i bob cyfeiriad: mwy o gynyrchiadau, mwy o bartneriaethau, mwy o waith rhyngwladol, mwy o gyfleoedd ar gyfer ein hactorion. Ond mae Undod yn parhau i fod yr un cyfnod ar y calendr pan fydd popeth arall yn stopio a’r sefydliad cyfan yn troi ei sylw at yr un peth. Am rai dyddiau dwys, llawn llawenydd mae pawb yn rhoi stop ar yr hyn y mae’n ei wneud ac yn torchi llewys, gyda swyddi o ddydd i ddydd yn sydyn yn troi yn rhywbeth sy’n llawer mwy o gywaith, o helynt ac o hwyl. Dyma pryd yr ydych yn cael eich atgoffa pa mor dalentog a hael yw’r tîm hwn mewn gwirionedd. Yn flynyddol rwy’n cael fy hun yn edrych o gwmpas prysurdeb yr ŵyl gan deimlo’n anhygoel o falch, ychydig yn syfrdan, ac yn wirioneddol ddiolchgar i’r bobl sy’n gwneud Hijinx yr hyn yw e.

Mae digonedd o wynebau cyfarwydd eraill yn dal yno: dwylo cadarn, cydweithwyr sy’n dychwelyd, artistiaid sydd wedi tyfu ochr yn ochr â ni a chynulleidfaoedd sydd wedi gwneud Undod yn rhan o’u calendr dro ar ôl tro. Yn yr un modd, mae rhai o’r artistiaid yr ydym wedi rhannu llwyfannau â nhw wedi ymddeol erbyn hyn. Mae rhai wedi dod yn gyfarwyddwyr, coreograffwyr neu arweinwyr ar eu cwmnïau eu hunain. Rydym hefyd yn cofio’r rhai sydd wedi gadael y bywyd hwn, gan rannu eu goleuni gyda’r artistiaid newydd sy’n parhau i deithio ymlaen. Byddai rhai o’r perfformwyr yr ydym yn eu croesawu i’r ŵyl eleni wedi bod yn yr ysgol ddeng mlynedd yn ôl, yn breuddwydio am y dyfodol sydd yma. A dyna hudoliaeth dawel gŵyl fel hyn.

Bob dwy flynedd rydym yn ymgynnull a dweud, mewn gwirionedd: edrychwch beth mae pawb wedi bod yn ei wneud. Edrychwch pa mor bell y mae pethau wedi mynd ers y tro diwethaf. Artistiaid yn cyfarfod am y tro cyntaf. Hen gydweithwyr yn taro ar ei gilydd mewn cynteddau theatr. Sioeau sy’n herio, plesio, procio ac yn aml yn eich gadael yn meddwl sut ar y ddaear wnaethon nhw lwyddo i wneud hynna.

Felly, gan ein bod o fewn cyrraedd i ŵyl 2026, mae’n teimlo’n addas edrych yn ôl ac edrych ymlaen:

  • Yn ôl at yr artistiaid wnaeth ein helpu i ffurfio Undod a’i droi'r hyn yw heddiw.
  • Ac ymlaen at yr artistiaid fydd yn diffinio sut y gall y deng mlynedd nesaf edrych.

Oherwydd, os yw’r deng mlynedd diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, hynny ydi mai’r rhan fwyaf cyffrous o Undod yw’r hyn sy’n digwydd nesaf. Y sioe nesaf. Y cywaith nesaf. Y sgwrs hwyr y nos nesaf yng nghyntedd theatr sy’n tanio syniad na wnaeth neb ei ragweld. Yr artist nesaf fydd yn cyrraedd Caerdydd am y tro cyntaf, heb ddeall eu bod ar fin dod yn rhan o’r teulu estynedig rhyfedd, gwych yma hefyd.

A rhywle ymhlith hyn i gyd, mae’n debyg y bydd casgliad arall o luniau yn aros i’n hatgoffa bod y deng mlynedd nesaf wedi dechrau yn barod.

Ellis Wrightbrook