Cyfarwyddwr Cysylltiol (Rhan Amser).
A ydych yn gyfarwyddwr ac ymarferwr creadigol profiadol sy’n credu yng ngrym y theatr i gysylltu pobl, herio safbwyntiau a chreu cyfleoedd? A ydych yn dod â dychymyg, gofal a chydweithio i’ch gwaith? A yw creu theatr uchelgeisiol, cynhwysol gydag artistiaid a chymunedau yn eich cyffroi?
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cysylltiol profiadol i ymuno â thîm Hijinx, gan ddatblygu a chyflawni prosiectau ar draws ein rhaglen Ymgysylltu Creadigol a’n gwaith artistig ehangach.
Mae hon yn swydd i rywun sydd wrth ei fodd yn dod a phobl at ei gilydd er mwyn gwneud i waith uchelgeisiol ddigwydd. Byddwch yn gweithio gydag artistiaid, cyfranogwyr, gweithwyr llawrydd a phartneriaid ar draws Cymru i greu theatr sy’n chwareus, uchelgeisiol a chynhwysol, gan gefnogi pobl i archwilio eu creadigrwydd a rhannu eu storïau.
Byddwch yn rhan o dîm creadigol cydweithredol, gan weithio’n glos gyda’r Cyfarwyddwr Artistig/Cyd-brif Swyddog Gweithredol, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd a’r Cyfarwyddwr Datblygu Artistiaid i siapio rhaglen artistig Hijinx a chreu’r amodau i waith gwych ddigwydd.
Yn y swydd hon byddwch yn:
– Cefnogi rhaglen Ymgysylltu Creadigol Hijinx, gan gyfarwyddo, cyd-greu a hwyluso prosiectau cyfranogol gyda chymunedau ar draws Cymru.- Goruchwylio a gweithredu fel Cyfarwyddwr Theatr Odyssey, cwmni cymunedol Hijinx, gan gefnogi datblygiad artistig y grŵp a chreu cynhyrchiad blynyddol gyda’r aelodau.
– Cyfarwyddo a datblygu gwaith newydd ar draws rhaglen Hijinx, gan gynnwys ymchwil a datblygu gydag Ensemble Hijinx a chreu gwaith theatr stryd newydd.
– Cefnogi a meithrin artistiaid llawrydd a thimau creadigol, gan lunio amgylcheddau cydweithredol lle gall pobl deimlo eu bod wedi eu croesawu, eu cefnogi ac yn gallu gwneud eu gwaith gorau.
– Gweithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Artistig a’r tîm creadigol ehangach i ddatblygu syniadau, partneriaethau a chyfleoedd newydd ar gyfer rhaglen artistig Hijinx.
– Cyfrannu at gyflawni Gŵyl Undod Hijinx, gan gefnogi rhannu gwaith creadigol gan artistiaid Hijinx, cyfranogwyr a chymunedau.
– Hyrwyddo ymarfer cynhwysol, hygyrchedd a diogelu ar draws pob maes o gyflawni creadigol.
Pecyn Swydd
Isod gallwch ddod o hyd i wybodaeth y gellir ei lawrlwytho mewn amrywiaeth o fformatau, sy’n rhoi manylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.
- Pecyn Swydd Llawn: Lawrlwythwch PDF
- Disgrifiad Swydd (Testun Plaen): Dogfen Word / PDF
- Manyleb y Person (Testun Plaen): Dogfen Word / PDF
Os hoffech gael y wybodaeth recriwtio mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni: jobs@hijinx.org.uk
Y Broses Ymgeisio
Os ydych chi’n credu eich bod yn addas ar gyfer y rôl ac yn dymuno gwneud cais, anfonwch y canlynol atom:
- CV cyfredol – yn amlygu unrhyw brofiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol.
- Llythyr eglurhaol heb fod yn hirach na dwy dudalen – yn nodi pam rydych chi’n ymddiddori yn y rôl a sut mae eich profiad yn cyd-fynd â manyleb y person.
- Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi’i chwblhau – cadarnhewch yn eich llythyr eglurhaol eich bod wedi cwblhau’r ffurflen hon: Hijinx: Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal Recriwtio 2026/27
Dylid anfon ceisiadau at jobs@hijinx.org.uk erbyn hanner nos ar 6 Medi 2026.
Hygyrchedd a Chynhwysiant
Mae Hijinx yn cydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau unigolion. Rydym wedi ymrwymo i les ein staff, i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal a Hyderus am Anabledd, a denu talent amrywiol o rannau o’r gymuned nad ydynt wedi eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector diwylliant.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu yn Hijinx, rydym yn darparu Cynllun Cyfweliad Gwarantedig i ymgeiswyr nad oes digon o gynrychiolaeth ohonynt ar ein tîm. Gallwch gael eich ystyried dan y Cynllun Cyfweliad Gwarantedig os ydych yn dioddef hiliaeth, yn Fyddar, anabl, yn berson ag anabledd dysgu, niwrowahanol, â chyflwr corfforol neu iechyd meddwl tymor hir, yn LHDTC+ neu yn uniaethu fel rhywun dosbarth gweithiol. Ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, sy’n cael eu nodi yn y fanyleb person, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad. Dim ond gyda thîm adnoddau dynol Hijinx a’r rheolwr sy’n recriwtio y bydd eich cais am gyfweliad gwarantedig yn cael ei rannu. Os hoffech chi gael eich ystyried dan y cynllun, dynodwch hyn yn glir yn eich cais.
Pwysig: dan rai amgylchiadau recriwtio fel amseroedd prysur, efallai y bydd raid i ni gyfyngu’r nifer o gyfweliadau a gynigir. Bydd hyn yn cynnwys y nifer o gyfweliadau a gynigir trwy’r Cynllun Cyfweliad Gwarantedig. Yn y sefyllfa hon, bydd Hijinx yn sicrhau bod nifer deg a chymesur o ymgeiswyr o gymunedau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol (sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd hon) yn cael cynnig cyfweliad.
Telerau.
Teitl swydd: Cyfarwyddwr Cysylltiol
Rheolwr Llinell: Cyfarwyddwr Artistig/Cyd-brif Swyddog Gweithredol
Yn gyfrifol am: Weithwyr llawrydd creadigol
Contract: 3 mis tymor penodol, gyda photensial i gael estyniad (6 mis o brawf)
Oriau: Cynigir y rôl hon ar sail oriau blynyddol, sy’n cyfateb i gyfanswm o 104 diwrnod gwaith y flwyddyn (cyfartaledd o 2 ddiwrnod yr wythnos).
Yn gweithio o: Caerdydd (gyda theithio lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl gofynion y swydd)
Cyflog/Buddion: Graddfa B, cyflog cychwynnol SCP10: £34,000 y flwyddyn (pro rata)
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc statudol (pro rata)
Dyddiad cau: 06 Medi 2026 (canol nos)
AMSERLEN RECRIWTIO
06 Medi: Ceisiadau yn cau am hanner nos
w/c 07 Medi: Ceisiadau yn cael eu sgrinio a’u gwneud yn ddienw
w/c 14 Medi: Llunio rhestr fer
22 Medi: Bydd pob ymgeisydd wedi cael penderfyniad
02 Hyd: Cyfweliadau
05 Hyd: Cyfweliadau’r Ail Rownd (os bydd angen)
07 Hyd: Penderfyniad a rhoi cynnig