12 Diwrnod o BAWB

Mae Hijinx yn dod â’r gymuned ynghyd i berfformio a chreu 12 Diwrnod o BAWB ar-lein.

Ym mis Rhagfyr, bydd Hijinx yn dod â chyfranogwyr ynghyd o PAWB, sef ei raglen gymunedol a hyfforddi ledled Cymru, i greu, perfformio ac ymgysylltu ar-lein yn 12 Diwrnod o BAWB, sef dathliad llawn hwyl o greadigrwydd, a fydd yn cynnwys rhyddhau sengl elusen.

Mae’r cwmni theatr o Gaerdydd, Hijinx, yn gwneud cynyrchiadau theatr rhagorol gydag actorion anabl a/neu awtistig.

Byddai eleni wedi bod yn 21ain pen-blwydd Odyssey Hijinx, wedi’i ddathlu mewn steil yn ei gynhyrchiad Nadolig blynyddol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru bob mis Rhagfyr. Odyssey yw theatr gymuned gynhwysol Hijinx, sy’n cynnwys cymysgedd o actorion ag anableddau dysgu, actorion niwrowahanol a niwronodweddiadol sy’n perfformio gyda’i gilydd fel partneriaid cyfartal.

Yn sgil canslo perfformiadau oherwydd Covid-19, mae Hijinx wedi ail-greu eu cynulliad tymhorol arferol o ddigwyddiad byw i fod yn ofod creadigol rhithwir i gyfranogwyr ddod at ei gilydd i greu ychydig o hudoliaeth Nadoligaidd i gynulleidfaoedd.

Bydd 12 Diwrnod o BAWB yn dangos ei grwpiau Sylfaen Drama, cwmni oedolion Odyssey, grwpiau Theatr Ieuenctid yng Nghaerdydd a Bangor, a’i fand Vaguely Artistic, gyda gwaith archif a gwaith newydd sbon.

Bydd Hijinx yn cydweithio â myfyrwyr darlunio o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a fydd yn arddangos eu gwaith ar-lein ac ym mhaneli ffenestri Crema, Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod mis Rhagfyr.

Bydd rhaglen 12 Diwrnod o BAWB yn cynnwys cipolwg ar sut beth yw Odyssey hyd at greadigaethau ar-lein newydd.

Ar 2 ac 16 Rhagfyr, bydd y cyrsiau Sylfaen Drama yn rhannu perfformiadau byr yn seiliedig ar ysbryd Nadolig y Gorffennol o ‘A Christmas Carol’ gan Charles Dickens, a phleser gweithwyr Post y Nadolig.

Ar 9 Rhagfyr, mae Theatr Ieuenctid Hijinx yng Ngogledd Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r cyfansoddwr, Daniel Soley, a Nofit State i greu Ffilmiau Byr Distaw unigol.

Mae’r prosiect ffilm ddistaw ddiweddaraf hon wedi bod yn ffantastig. Mae wedi f’ysbrydoli i a ’nghadw i’n teimlo’n gadarnhaol drwy’r cyfnod clo diweddaraf.

Daniel o Fangor

Bydd cyfranogwyr o Theatr Ieuenctid De Cymru Hijinx yn rhannu darnau wedi’u hysbrydoli gan eu hoff ganeuon a geiriau Nadolig ar 12 Rhagfyr.

Mae band Hijinx, Vaguely Artistic, wedi’i noddi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chelfyddydau a Busnes Cymru i greu sengl a fideo Nadolig i’w rhyddhau ar 19 Rhagfyr, gan ddangos llu o wynebau cyfarwydd.

Mae Hijinx wedi comisiynu Hefin Robinson i greu gwledd ar-lein i deuluoedd, sef rhag-fersiwn wedi’i hail-greu o Pinocchio ar 21 Rhagfyr, gan roi blas i gynulleidfaoedd o’r cynhyrchiad llawn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru yn 2021. Bydd y perfformiad ar-lein yn dod ag actorion Hijinx a chynulleidfaoedd at ei gilydd ar gyfer perfformiad rhithwir.

Ar 24 Rhagfyr, bydd gwledd yn disgwyl cynulleidfaoedd gyda darlleniad ar-lein o The Night Before Christmas a fydd yn cael ei ddarlledu trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Hijinx o 7pm.

Yn ogystal â pherfformiadau ac ymgysylltiad rhyngweithiol ar gyfer cynulleidfaoedd, yn ystod 12 Diwrnod o BAWB, bydd gweithdai a hyfforddiant ar-lein ar gael hefyd, gan gynnwys blas ar Lwybrau [Pathways] a Theatr Ieuenctid gan Blant Mewn Angen, Caerdydd a’r Fro a Chyngor y Trydydd Sector a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

Wrth i ni ddod at derfyn blwyddyn sydd wedi bod yn un eithriadol o heriol, roeddem eisiau rhannu rhywfaint o lawenydd yr ŵyl a dathlu creadigrwydd eithriadol ein cyfranogwyr PAWB, yn lle ein sioeau Nadolig arferol.

Trwy gydol mis Rhagfyr, bydd cynulleidfaoedd yn gallu gweld gwaith creadigol o bob cwr o Gymru, sy’n dyst go iawn i’r gwaith caled sydd wedi bod yn mynd rhagddo ar-lein yn ystod y pandemig. Mae eleni wedi dangos gwydnwch ein teulu Hijinx ledled Cymru, ac rydym mor falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni.

Er ein bod yn drist na allwn fod gyda’n gilydd i gyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer ein cynhyrchiad Nadoligaidd arferol gan Odyssey, mae gallu ymuno ar-lein, a chael cipolwg bach o’r hyn sydd i ddod y flwyddyn nesaf, yn gysur mawr! Hefyd, bydd cracer Nadolig newydd wych ar ffurf sengl elusen gan ein band ni’n hunain Vaguely Artistic - gallwn warantu y bydd hi’n glasur!

Sarah Horner, Prif Weithredwr, Hijinx

Cefnogir Hijinx yn hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Esmée Fairbairn, Ymddiriedolaeth Julia a Hans Rausing, Sefydliad Banc Lloyds, Sefydliad Morrisons, Sefydliad Rayne a Phlant Mewn Angen y BBC.

Rhoi rhodd i 12 Diwrnod o BAWB.

Nawr yn fwy nag erioed, rydym yn dibynnu ar eich haelioni i’n galluogi i barhau i gynhyrchu prosiectau cyffrous. Y Nadolig hwn, gobeithiwn y byddwch yn ystyried cefnogi Hijinx trwy gyfrannu at ein hymgyrch 12 Diwrnod o BAWB. Mae pob rhodd yn cefnogi gwaith PAWB i greu cyfleoedd i unrhyw un sydd eisiau perfformio, waeth beth yw eu gallu neu eu profiad.

I rhoi £10, tecstiwch PAWB 10 i 70450 – mae hyn yn costio £10 ynghyd â neges ar eich cyfradd safonol.

Neu ymwelwch â’n tudalen rhoi rhodd yma