Hijinx yn cyhoeddi Gŵyl Undod eleni, yn dathlu Celfyddydau Cynhwysol ac Artistiaid ag Anabledd o bob rhan o Gymru ac Ewrop
Cyhoeddodd Hijinx fanylion Gŵyl Undod 2026, sydd yn mynd i ddigwydd rhwng 30 Mehefin a 5 Gorffennaf eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Gelfyddydau Chapter a The Glee Club yng Nghaerdydd gyda pherfformiadau lloeren yn Llanelli, 25 Mehefin a’r Wyddgrug, 27 Mehefin. Gŵyl Undod yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop a’r unig un o’i math yng Nghymru.
Gall comedi, cerddoriaeth, drag, syrcas, theatr a dawns oll gael eu mwynhau gan gynulleidfaoedd trwy gydol y dathliadau mewn perfformiadau difyr, sy’n procio’r meddwl ac yn rhoi adloniant.
Mae’r rhaglen yn cynnwys sioeau a digwyddiadau ar lwyfannau ochr yn ochr â rhaglen o adloniant stryd am ddim wedi ei gynllunio i danio dychymyg cynulleidfaoedd yn Llanelli, yr Wyddgrug a Bae Caerdydd. Bydd digwyddiadau â thocynnau'r ŵyl yn mynd ar werth o ddydd Gwener 17 Ebrill.
Yn ogystal â pherfformiadau gan artistiaid Hijinx, bydd yr ŵyl hefyd yn croesawu cwmnïau eraill o’r Deyrnas Unedig ochr yn ochr â pherfformwyr rhyngwladol o bob rhan o Ewrop gan gynnwys: Theater Thikwa, Blaumeier-Atelier, Danza Mobile, Vero Cendoya, Collettivo Clochart ac ADM-VZW i enwi rhai ohonynt.
Cefndir Hijinx a Gŵyl Undod
Hijinx yw un o brif gwmnïau theatr cynhwysol Ewrop, yn hyrwyddo artistiaid ag anabledd dysgu a/neu awtistig trwy gynyrchiadau rhagweithiol, llawn effaith a hynod o adloniadol. Mae Gŵyl Undod sydd, erbyn hyn, yn cael ei chynnal am y 12fed tro yn cynnig golwg ffres i gynulleidfaoedd ar theatr a pherfformio, gan gysylltu artistiaid o bob rhan o Gymru gyda pherfformwyr rhyngwladol a chynnig rhaglen eithriadol o adloniant stryd, foyer a stiwdio. Yn ychwanegol mae’r ŵyl yn cynnig llwyfan i artistiaid a phobl greadigol yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i arddangos eu talent i bobl Cymru.
Partneriaeth Gogledd Cymru
Bydd Gŵyl Undod eleni yn agor yn swyddogol gydag adloniant stryd yn Llanelli (25 Mehefin) a’r Wyddgrug (27 Mehefin) gyda pherfformiadau gan Kitsh & Sync, Stopgap Dance Company, tanzbar_bremen a Humans Move. Mae’r bartneriaeth gyda Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug yn newydd i’r ŵyl eleni ac mae’n sefydlu Gogledd Cymru ymhellach fel canolfan bwysig i’r cwmni gydag Academi Hijinx eisoes yno.
Prif Raglen yr Ŵyl
Bydd y brif raglen o ddigwyddiadau Gŵyl Undod yn cychwyn yng Nghaerdydd ar 30 Mehefin ac yn parhau yn y ddinas hyd benllanw’r ŵyl ar 5 Gorffennaf. Bydd perfformiadau’n goleuo’r foyer yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Stiwdio Weston yno a thu allan o flaen yr adeilad ym Mae Caerdydd. Yn ychwanegol, bydd rhaglen o berfformiadau sgrats yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter gan roi cyfle i’r cwmnïau lleol Same Hat Theatre a House of Deviant rannu gwaith sy’n cael ei ddatblygu, gyda noson gomedi wedi ei chynhyrchu gan Artist Cysylltiol Hijinx (a’r comedïwr stand-up), Richard Newnham, fydd yn digwydd yn y Glee Club, Caerdydd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig a Chyd Swyddog Gweithredol Hijinx, Ben Pettit Wade:
“Perfformiadau sy’n newid y ffordd yr ydym yn amgyffred y byd yw’r perfformiadau sy’n aros gyda ni am byth. Bydd ymwelwyr â rhaglen eleni yn gweld popeth o’r dyn cyntaf ar y lleuad i berfformiad o Carmen fydd ychydig yn wahanol!”
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gweithredol a Chyd Swyddog Gweithredol, Eloise Tong
“Trwy ddwyn artistiaid at ei gilydd, yn niwroamrywiol a niwronodweddiadol, mae Hijinx yn cyflwyno byd sy’n hyrwyddo cynhwysiant ac yn herio canfyddiadau. Mae gennym ddilyniant teyrngar o bobl sydd wedi gweld ein cynyrchiadau ac wrth eu bodd gyda’r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae gŵyl yn cynnig cyfle i ragor o bobl nad ydynt wedi darganfod Hijinx neu Ŵyl Undod eto i fwynhau profiadau newydd a gwirioni ar berfformiadau a theatr cynhwysol.”
Blas ar Adloniant a Chynnyrch Cymru yng Ngŵyl Fwyd a Diod Caerdydd
Mae Gŵyl Undod wedi llunio partneriaeth gyda Gŵyl Fwyd a Diod Caerdydd eleni sy’n cael ei chynnal o’r 3 i’r 5 o Orffennaf gan gyflwyno perfformiadau awyr agored a phrofiadau o gwmpas Roald Dahl Plass tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru. Bydd Gŵyl Undod yn cynnig adloniant i ymwelwyr â’r digwyddiad ym Mae Caerdydd sy’n dathlu a chynnig blas ar Gymru.
Digwyddiad i’r Diwydiant i Ddatblygu Celfyddydau at y Dyfodol
Yn ystod cyfnod Gŵyl Undod, bydd Hijinx yn cynnal Cynhadledd Cyfnewid Artistiaid yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mewn partneriaeth â'r rhwydwaith ariannu, Pont Ddiwylliannol, sy'n cefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled y DU a'r Almaen i ddatblygu partneriaethau sy'n archwilio ymarfer celfyddydau cymdeithasol. Bydd y digwyddiad yn gweld pobl greadigol a phenderfynwyr o'r diwydiant yn myfyrio ar ac yn rhannu dulliau o ymarfer celfyddydau cymdeithasol cynhwysol a chydweithio rhyngwladol i lunio ffyrdd o weithio yn y dyfodol.
Cefnogir Gŵyl Undod gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru trwy Digwyddiadau Cymru, Ymddiriedolaeth Leche, Cultural Bridge, Taith, Cymdeithas Dai First Choice, Sefydliad Jenour a Grant Stephens Family Law.
Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Undod 2026 ewch i www.hijinx.org.uk