Ydych chi’n weithiwr proffesiynol theatr, celfyddydau perfformio, neu weithiwr creadigol yn gweithio yng Ngogledd Cymru?.
Mae Hijinx wedi dod o hyd i gartref newydd i’n gweithgaredd yng Ngogledd Cymru! Rydym bellach wedi’n lleoli yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug.
Rydym yn chwilio am Hwyluswyr (Tiwtoriaid) a Hwyluswyr Cynorthwyol i helpu i gyflwyno ein rhaglenni Academi a Sylfaen Drama yn Theatr Clwyd ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu a/neu awtistig.
Academi yw ein hyfforddiant perfformiad proffesiynol.
Mae ein rhaglen Sylfaen Drama yn defnyddio drama, cerddoriaeth a pherfformio i ddatblygu hyder a sgiliau bywyd.
Mae’r ddau gwrs ar gyfer oedolion 18+.
Tiwtoriaid.
- Yn artistiaid perfformio sefydledig sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y diwydiant, a chyda phrofiad o rannu eu crefft
- Yn gyfrifol am gynnwys y sesiwn
- Yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno taith waith pwrpasol, wedi’i llunio’n dda o fewn fframwaith dysgu ehangach
- Yn gallu bod â phrofiad o arfer ac addysgu cynhwysol
Manteision dod yn Diwtor:
- Rydych yn cael gweithio gyda’n criw anhygoel o actorion ag anabledd dysgu a/neu niwroamrywiol
- Rydych yn cael cyfle i ehangu/archwilio eich arfer eich hun a dysgu rhagor am weithio mewn amgylchedd cynhwysol
- Gall ein Tiwtoriaid ddod yn rhan o brosiectau eraill Hijinx, boed yn rhan o’n timau dyfeisio, neu i arwain ar eu prosiectau eu hunain gyda ni
- Hyblygrwydd – Rydym yn creu rota ar sail tymor gan ddibynnu pryd mae’n Tiwtoriaid ar gael, gan roi digon o amser i chi gynllunio eich ymrwymiadau eraill o gwmpas y tiwtora
Cyfradd tâl gyfredol:
I diwtoriaid, mae hyn yn £170 am ddiwrnod llawn, £85 am hanner.
Hwyluswyr Cynorthwyol.
- Gweithio mewn diwydiant creadigol a/neu fod â phrofiad o gefnogi unigolion ag anghenion dysgu
- Cydweithio â’r tiwtor, gan sicrhau bod pob cyfranogwr yn dilyn y sesiwn ac yn gallu ymgysylltu’n llawn; yn aml maent yn ymuno â’r ymarferion ac yn arwain trwy esiampl
- Bod yn pwynt cyswllt cyntaf i ddelio ag unrhyw broblemau neu ddigwyddiadau ymddygiad neu lesiant a all godi yn y sesiwn
- Yn gyfrifol am gofrestrau a logiau dyddiol sy’n cael eu cofnodi’n electronig
Mae manteision bod yn Hwylusydd Cynorthwyol Hijinx yn cynnwys:Â
- Rydych yn cael gweithio gyda’n criw anhygoel o unigolion ag anabledd dysgu a/neu niwroamrywiol
- Rydych yn cael cyfle i ehangu/archwilio eich arfer eich hun a dysgu rhagor am weithio mewn amgylchedd cynhwysol
- Mae gennych y cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau Hijinx eraill fel rhan o’r tîm dyfeisio a chefnogi
- Hyblygrwydd – Rydym yn creu rota ar sail tymor gan ddibynnu pryd mae’n Hwyluswyr Cynorthwyol ar gael, gan roi digon o amser i chi gynllunio eich ymrwymiadau eraill o gwmpas eich gwaith gyda Hijinx
Cyfradd gyflog gyfredol:
I Hwyluswyr Cynorthwyol mae hyn yn £100 am ddiwrnod llawn, £50 am hanner (er nad yw mor gyffredin i Hwyluswyr Cynorthwyol wneud hanner diwrnodau i sicrhau ei fod yn werth chweil i’r Hwylusydd Cynorthwyol gydag ystyriaethau teithio ac ati).
Beth nesaf?.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â’n cronfa o Diwtoriaid a Hwyluswyr Cynorthwyol yn Hijinx, un o grewyr theatr a darparwyr hyfforddiant perfformio cynhwysol amlycaf y Deyrnas Unedig i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.