Gwybodaeth Hygyrchedd

ar gyfer Gŵyl Undod 2026

Helo.

Croeso i dudalen hygyrchedd Gŵyl Undod 2026. Yma fe gewch chi wybodaeth ddefnyddiol am berfformiadau hygyrch, y lleoliadau a’r cymorth sydd ar gael.

Perfformiadau Hygyrch.

Rhaglen yr wyl yn dod yn fuan.

 

Cynulleidfaoedd Dall a Rhannol Ddall

Bydd sain ddisgrifio ar gael ar gyfer rhai perfformiadau am ddim a rhai gyda thocynnau.

Bydd gan y digwyddiadau canlynol â thocynnau Ddisgrifiad Sain:

  • Bydd gan The Day the Man Stepped on the Moon (Dydd Gwener 3 Gorffennaf) Ddisgrifiad Sain gan Alastair Sill ynghyd â chyfieithiad sain gan Sami Dunn
  • Bydd gan Down (Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf) Ddisgrifiad Sain a chyfieithiad sain gan Alastair Sill

Bydd y faner i ddynodi Sain Ddisgrifio ar gyfer y perfformiadau theatr stryd yn las gyda logo Gŵyl Undod ac eicon Sain Ddisgrifio arno. Bydd wedi ei osod ar becyn cefn y disgrifwr sain.

Cynulleidfaoedd Byddar a Thrwm eu Clyw

Bydd cyfieithiad BSL a Capsiynau ar gael ar gyfer rhai perfformiadau am ddim a rhai gyda thocynnau.

Bydd gan y perfformiadau canlynol ddehongliad Iaith Arwyddion Prydain:

  • Gŵyl Undod: Off-Script (noson gomedi – dydd Mawrth 30 Mehefin) yn cael ei ddehongli mewn Iaith Arwyddion Prydain gan Stephen Brattan-Wilson
  • Agoriad Mawr Gŵyl Undod (noson cabaret – dydd Mercher 1 Gorffennaf) yn cael ei ddehongli mewn Iaith Arwyddion Prydain gan Stephen Brattan-Wilson

Bydd gan y perfformiadau canlynol gapsiynau:

  • Baby Bumps (dydd Iau 2 Gorffennaf)
  • The Day the Man Stepped on the Moon (dydd Gwener 3 Gorffennaf)
  • Down (dydd Sadwrn 4 Gorffennaf)

Bydd y faner i ddynodi BSL ar gyfer y perfformiadau theatr stryd yn felyn gyda logo Gŵyl Undod ac eicon BSL arno. Bydd y dehonglydd yn ei wisgo ar sach gefn.

Hygyrchedd Lleoliadau.

Cynhelir Gŵyl Undod yn y lleoliadau canlynol eleni: Canolfan Mileniwm Cymru a Chapter yng Nghaerdydd, Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug a Ffwrnes yn Llanelli. Dyma rai dolenni gwe defnyddiol i’r lleoliadau a gwybodaeth teithio.

Canolfan Mileniwm Cymru: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Canolfan Mileniwm Cymru.

Chapter: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Chapter.

Theatr Clwyd: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Theatr Clwyd.

Ffwrnes: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Ffwrnes.

 

Yn bwriadu ymuno â ni ym Mae Caerdydd?

Parcio Bae Caerdydd:

Red Dragon – dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am barcio: Gwybodaeth Parcio’r Red Dragon

Q-Park – dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am barcio: Gwybodaeth Parcio Q-Park

Os ydych yn cyrraedd ar y trên, dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am orsaf drenau Bae Caerdydd: Gwybodaeth am Orsaf Drenau Bae Caerdydd

Mae’r bws Baycar 6 yn gyflym ac yn uniongyrchol rhwng Canol Dinas Caerdydd a Bae Caerdydd, ac yn gadael bob hanner awr.