Trosglwyddo’r Arweinyddiaeth Hijinx

Yn dilyn ymadawiad y cyn Brif Weithredwraig Sarah Horner yn gynnar yn 2024, ac ymgynghoriad cynhwysfawr trwy’r cwmni gan People Make It Work, mae Hijinx yn falch iawn o gyhoeddi bod Ben Pettitt-Wade (Cyfarwyddwr Artistig) ac Eloise Tong (Prif Weithredwr Dros Dro) wedi cael eu penodi yn Gyfarwyddwr Artistig a Chyfarwyddwr Gweithredol yn eu tro, a byddant yn arwain Hijinx gyda’i gilydd fel cyd Brif Weithredwyr.

Tyfodd y cwmni yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae Hijinx yn teimlo y bydd model arweinyddiaeth ar y cyd yn cryfhau’r cwmni at y dyfodol ac yn sicrhau bod yr artistiaid a’r gwaith creadigol yn ganolog.

Ymunodd Ben â Hijinx yn 2007 a bu’n gyfrifol am sefydlu’r Academi (rhaglen hyfforddi actorion broffesiynol Hijinx ar gyfer artistiaid ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth) a sefydlu Gŵyl Undod (gŵyl gelfyddyd gynhwysol ac anabledd ryngwladol Hijinx) cyn dod yn Gyfarwyddwr Artistig yn 2015. Mae gan Ben brofiad sylweddol yn y sector ac mae wedi sefydlu Hijinx yn gadarn fel arweinydd cenedlaethol a rhyngwladol o ran perfformio cynhwysol o safon uchel. Mae Hijinx yn falch o’i gefnogi yn ei swyddogaeth newydd fel Cyd Brif Weithredwr.

Rwyf wedi cyffroi am gymryd y cam nesaf yn yr hyn sydd wedi bod yn daith o bedair blynedd ar bymtheg gyda Hijinx. Mae wedi bod yn daith sy’n llawn o adegau llawen gyda’n hartistiaid anhygoel, gweithwyr llawrydd gwych, tîm staff ymroddedig, ymddiriedolwyr a chynulleidfaoedd teyrngar, sydd wedi mynd â ni i lawer o fannau anhygoel, yn gorfforol a throsiadol. Rwy’n falch o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni gyda’n gilydd ac yn edrych ymlaen at y bennod nesaf, gan weithio gyda’r casgliad rhyfeddol hwn o bobl sy’n rhan o Hijinx. - Ben Pettitt-Wade

Penodwyd Eloise yn Brif Weithredwr Dros Dro yng Ngorffennaf 2024 i gefnogi’r cwmni trwy’r cyfnod trosiannol hwn. Mae Hijinx yn hynod falch y bydd yn parhau ar sail barhaol fel Cyfarwyddwr Gweithredol a Chyd Swyddog Gweithredol.

Ymunais â Hijinx yn ystod cyfnod o newid i’r cwmni. Rydym wedi cyflawni cymaint yn y flwyddyn ddiwethaf ac rydym mewn lle mwy sefydlog erbyn hyn. Rwyf wedi cyffroi o feddwl y byddaf yn gweithio ochr yn ochr â Ben ac adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi ei gychwyn. Mae Hijinx yn gallu newid bywydau ac yn gwneud hynny a’m swyddogaeth i yw creu’r amodau lle gall ein tîm staff, gweithwyr llawrydd, actorion a chyfranogwyr ffynnu. – Eloise Tong

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Hijinx, Andrew Healy:

Gyda’r penodiadau hyn, mae Hijinx yn ffodus iawn o fod â dau o bobl mor wybodus a phrofiadol i arwain ei waith fel un o gwmnïau theatr gynhwysol mwyaf cyffrous y byd. Mae’n amlwg bod Ben ac Eloise yn rhannu ein gweledigaeth am fyd lle mae pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistig yn cael eu grymuso, eu gwerthfawrogi ac yn cael mynediad teg at gyfleoedd ym mhob agwedd ar fywyd, ac rydym yn edrych ymlaen at yr hyn fydd y dyfodol yn ei ddwyn.

Mae Ben ac Eloise eisoes wedi dechrau adolygu strwythur Hijinx a’r model gweithredu, a bydd rhai newidiadau’n cael eu cyflwyno i gynyddu effeithlonrwydd a diogelu Hijinx yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r cwmni’n edrych ymlaen at flwyddyn brysur arall yn 2026 gyda thaith genedlaethol o Meet Fred i ddathlu 10 mlwyddiant y cynhyrchiad, a dychweliad Gŵyl Undod.