Gŵyl Undod: Off-Script

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i ganslo.

Ymunwch â ni ar gyfer noson gomedi Gŵyl Undod ar 30 Mehefin.

Byddwch yn barod am noson o gomedi sy’n gwrthod chwarae’n saff.

Wedi ei baratoi a’i arwain gan Artist Cysylltiol Hijinx, Richard Newnham, mae’r artistiaid yma yn dwyn at ei gilydd don newydd ddewr o gomedïwyr Awtistig o Gymru sy’n ailddiffinio beth all stand-yp fod. Dim hidlo, dim ystrydebau, dim ond comedi finiog, ryfeddol a gwych o wahanol.

Yn cynnwys Anthony Bozzola, Chrissy Derbyshire, Dave Munro, a Kate Llewellyn, bydd pob act yn dod â’i llais, arddull a safbwynt ei hun i’r llwyfan. Y canlyniad? Noson sy’n gwyro’r disgwyliedig ac yn glanio yn rhywle llawer mwy diddorol.

Nid yw hyn yn fater o ffitio i mewn. Mae’n fater o sefyll allan.

Mwy o wybodaeth.

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i ganslo.