Rydyn ni'n recwritio!

Dyddiad cau: hanner nos 9 Tachwedd 2026

Cyfarwyddwr Datblygu Artistiaid (Cyfnod Mamolaeth).

Mae Hijinx yn recriwtio Cyfarwyddwr Datblygu Artistiaid ar sail rhan-amser a dros dro i ymdrin â chyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Mae’r Cyfarwyddwr Datblygu Artistiaid yn arwain ar ddatblygu a chyflawni rhaglen ddatblygu artistiaid y cwmni, mewn partneriaeth agos gyda’r Cyfarwyddwr Artistig, gan sicrhau eu bod yn darparu profiadau hyfforddi o safon uchel i artistiaid Hijinx wrth baratoi at ddatblygu prosiectau Hijinx a chyflogaeth o fewn Hijinx a’r diwydiannau creadigol ehangach. 

Y Cyfarwyddwr Datblygu Artistiaid yw’r arweinydd strategol a gweithredol i’n holl hyfforddiant i artistiaid ag anabledd dysgu a/neu awtistig, ac mae’n gyfrifol am ddatblygiad a gwelliant parhaus y cynnig hwnnw.

Mae’r swydd yn gofyn am gydweithio agos ar draws y sefydliad i ddynodi cyfleoedd i’n hartistiaid wrth hyfforddi, a helpu i sicrhau trosglwyddiad llyfn i gyfleoedd proffesiynol yn fewnol ac allanol. 

Fel aelod o’r uwch dîm arwain, mae gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb ar y cyd am strategaeth, gwytnwch ariannol, llywodraethiant, diwylliant a dulliau gweithio y sefydliad. 

Contract dros dro yw hwn dros gyfnod mamolaeth deiliad parhaol y swydd. Am gyfnod y cyfnod mamolaeth hwn, bydd y swydd yn cael ei gweithredu ar sail 3 diwrnod yr wythnos. Bydd deiliad y swydd yn rhoi parhad a goruchwyliaeth weithredol effeithiol dros y rhaglen Ddatblygu Artistiaid, gan gynnal darpariaeth o safon uchel a chefnogi artistiaid, cyfranogwyr, staff a chysylltiadau allweddol. Bydd y pwyslais yn ystod y cyfnod hwn ar ddarparu a rheoli effeithiol ar raglenni a blaenoriaethau sy’n bodoli, yn hytrach na datblygu strategol sylweddol neu newid.

Bydd gennych brofiad mewn rôl debyg yn cefnogi datblygiad proffesiynol, a dylech fod yn fedrus wrth reoli pobl.


Pecyn Swydd.

Isod gallwch ddod o hyd i wybodaeth y gellir ei lawrlwytho mewn amrywiaeth o fformatau, sy’n rhoi manylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.

Os hoffech gael y wybodaeth recriwtio mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni: jobs@hijinx.org.uk


Y Broses Ymgeisio.

Os credwch eich bod chi yn addas ar gyfer y swydd ac y byddech yn hoffi ymgeisio, anfonwch y canlynol atom: 

  • CV cyfredol – yn amlygu unrhyw brofiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. 
  • Llythyr esboniadol dim mwy na 4 tudalen – yn dweud wrthym ni pam bod gennych ddiddordeb yn y swydd a sut y mae eich profiad yn cyd-fynd â’r fanyleb person. 

Rydym yn gwybod y gall ymgeisio am swyddi fod yn brofiad anodd weithiau – yn arbennig os nad yw prosesau arferol yn gweithio i chi bob tro. Os nad ysgrifennu yw eich dewis o ran cyfathrebu, gallwch anfon fideo neu ffeil sain atom (hyd at 5 munud) yn hytrach na llythyr esboniadol ysgrifenedig. 

Dylid anfon ceisiadau at jobs@hijinx.org.uk erbyn canol nos, 09 Tachwedd 2026.


Hygyrchedd a Chynhwysiant.

Mae Hijinx yn cydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau unigolion. Rydym wedi ymrwymo i les ein staff, i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal a Hyderus am Anabledd, a denu talent amrywiol o rannau o’r gymuned nad ydynt wedi eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector diwylliant.  

Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu yn Hijinx, rydym yn darparu Cynllun Cyfweliad Gwarantedig i ymgeiswyr nad oes digon o gynrychiolaeth ohonynt ar ein tîm. Gallwch gael eich ystyried dan y Cynllun Cyfweliad Gwarantedig os ydych yn dioddef hiliaeth, yn Fyddar, anabl, yn berson ag anabledd dysgu, niwrowahanol, â chyflwr corfforol neu iechyd meddwl tymor hir, yn LHDTC+ neu yn uniaethu fel rhywun dosbarth gweithiol. Ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, sy’n cael eu nodi yn y fanyleb person, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad. Dim ond gyda thîm adnoddau dynol Hijinx a’r rheolwr sy’n recriwtio y bydd eich cais am gyfweliad gwarantedig yn cael ei rannu.  

Os hoffech chi gael eich ystyried dan y cynllun, dynodwch hyn yn glir yn eich cais.  

Pwysig: dan rai amgylchiadau recriwtio fel amseroedd prysur, efallai y bydd raid i ni gyfyngu’r nifer o gyfweliadau a gynigir. Bydd hyn yn cynnwys y nifer o gyfweliadau a gynigir trwy’r Cynllun Cyfweliad Gwarantedig. Yn y sefyllfa hon, bydd Hijinx yn sicrhau bod nifer deg a chymesur o ymgeiswyr o gymunedau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol (sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd hon) yn cael cynnig cyfweliad. 

Telerau.

Teitl swydd: Cyfarwyddwr Datblygu Artistiaid 

Rheolwr Llinell: Cyfarwyddwr Artistig a’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol 

Yn gyfrifol am: Y Swyddog Datblygu Artistiaid – De; Cydlynydd Datblygu Artistiaid – Gogledd; Cydlynydd Datblygu Artistiaid – Gorllewin; Rheolwr Asiantaeth 

Contract: 9 mis am gyfnod mamolaeth  

Oriau: Rhan-amser, 22.5 awr i’w cyflawni’n hyblyg yn ôl y gofyn i gyflawni gofynion y swydd. Rhoddir amser o’r gwaith in lieu. 

Yn gweithio o: Swyddfa Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd – gweithio hybrid ar gael 

Cyflog/Buddion: £37,000 y flwyddyn pro-rata (Cyflog gwirioneddol am gontract 9 mis £16,650) 

Mae Hijinx yn cynnig cynllun pensiwn gweithle trwy Nest, cynllun Beicio i’r Gwaith a Rhaglen Cynorthwyo Gweithwyr. 

Yn ychwanegol, rydym yn cynnig cefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg. Mae Hijinx wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus a bydd yn gweithio’n glos gyda deiliad y swydd i sicrhau bod ei anghenion hyfforddiant yn cael eu bodloni.  

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn pro rata


AMSERLEN RECRIWTIO 

  • 09 Tach: Ceisiadau yn cau am hanner nos
  • w/c 09 Tach: Ceisiadau yn cael eu sgrinio a’u gwneud yn ddienw, a’r rhestr fer yn cael ei llunio
  • 13 Tach: Bydd pob ymgeisydd wedi cael penderfyniad
  • 20 Tach: Cyfweliadau
  • 23 Tach: Penderfyniad a rhoi cynnig