Cydlynydd Datblygu Artistiaid – De.
Ar hyn o bryd mae Hijinx yn recriwtio Cydlynydd Datblygu Artistiaid i ymuno â’n canolfan yn ne Cymru mewn swydd barhaol. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â’r cwmni theatr prysur a chyffrous hwn a chael effaith gadarnhaol.
Gan weithio’n glos gyda’r Swyddog Datblygu Artistiaid a’r Cyfarwyddwr Datblygu Artistiaid, bydd y Cydlynydd yn rhoi cefnogaeth drefniadol ac ymarferol i weithgareddau Academïau Hijinx a’r Sylfeini Drama yn ne Cymru.
Mae’r swydd yn cynnwys llunio perthynas gadarnhaol gyda’r artistiaid, cyfranogwyr, eu teuluoedd a’u rhwydweithiau cefnogi, gweithwyr llawrydd, gwirfoddolwyr, lleoliadau a rhanddeiliaid eraill. Trwy’r cysylltiadau hyn bydd y Cydlynydd yn helpu i greu profiadau o safon uchel, cynhwysol lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt, eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu ffynnu.
Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm trefnus, llawn cymhelliant gyda sgiliau cyfathrebu da, blaengaredd ac angerdd gwirioneddol am y theatr, y celfyddydau ac ymarfer cynhwysol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn gydweithredol gyda’i gydweithwyr, yn cyfrannu at ddatblygu cyfleoedd creadigol i artistiaid a chyfranogwyr Hijinx, ac yn cefnogi darparu’r rhaglenni Academi a Sylfeini Drama yn effeithiol.
Pobl sy’n dod gyntaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfranogi’n weithredol yn ein sesiynau, yn ogystal â chefnogi recriwtio ar gyfer ein gweithgareddau a gweithredu fel man cyswllt croesawus o ran ymholiadau, gan helpu i sicrhau bod ein hartistiaid, cyfranogwyr a’r gymuned ehangach yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.
Fel un o gynrychiolwyr allweddol Hijinx yn ne Cymru bydd y Cydlynydd yn llunio cysylltiadau rhagorol gyda phartneriaid yn y gymuned ac yn rhanbarthol, gan ein helpu i gynnal ein safonau uchel o ran darpariaeth.
Mae’r swydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad trwy weithio ochr yn ochr â’n tiwtoriaid llawrydd talentog, artistiaid sy’n ymweld a chydweithwyr o Hijinx, gyda mynediad at hyfforddiant perthnasol a datblygiad proffesiynol.
Pecyn Swydd.
Isod gallwch ddod o hyd i wybodaeth y gellir ei lawrlwytho mewn amrywiaeth o fformatau, sy’n rhoi manylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.
- Pecyn Swydd Llawn: Lawrlwythwch PDF
- Disgrifiad Swydd (Testun Plaen): Dogfen Word / PDF
- Manyleb y Person (Testun Plaen): Dogfen Word / PDF
Os hoffech gael y wybodaeth recriwtio mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni: jobs@hijinx.org.uk
Y Broses Ymgeisio.
Os credwch eich bod chi yn addas ar gyfer y swydd ac y byddech yn hoffi ymgeisio, anfonwch y canlynol atom:
- CV cyfredol – yn amlygu unrhyw brofiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol.
- Llythyr esboniadol dim mwy na 4 tudalen – yn dweud wrthym ni pam bod gennych ddiddordeb yn y swydd a sut y mae eich profiad yn cyd-fynd â’r fanyleb person.
- Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi ei llenwi – i’w llenwi ar-lein. Cadarnhewch yn y llythyr esboniadol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon: Hijinx: Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal Recriwtio 2026/27
Rydym yn gwybod y gall ymgeisio am swyddi fod yn brofiad anodd weithiau – yn arbennig os nad yw prosesau arferol yn gweithio i chi bob tro. Os nad ysgrifennu yw eich dewis o ran cyfathrebu, gallwch anfon fideo neu ffeil sain atom (hyd at 5 munud) yn hytrach na llythyr esboniadol ysgrifenedig.
Dylid anfon ceisiadau at jobs@hijinx.org.uk erbyn canol nos, 23 Tachwedd 2026.
Hygyrchedd a Chynhwysiant.
Mae Hijinx yn cydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau unigolion. Rydym wedi ymrwymo i les ein staff, i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal a Hyderus am Anabledd, a denu talent amrywiol o rannau o’r gymuned nad ydynt wedi eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector diwylliant.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu yn Hijinx, rydym yn darparu Cynllun Cyfweliad Gwarantedig i ymgeiswyr nad oes digon o gynrychiolaeth ohonynt ar ein tîm. Gallwch gael eich ystyried dan y Cynllun Cyfweliad Gwarantedig os ydych yn dioddef hiliaeth, yn Fyddar, anabl, yn berson ag anabledd dysgu, niwrowahanol, â chyflwr corfforol neu iechyd meddwl tymor hir, yn LHDTC+ neu yn uniaethu fel rhywun dosbarth gweithiol. Ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, sy’n cael eu nodi yn y fanyleb person, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad. Dim ond gyda thîm adnoddau dynol Hijinx a’r rheolwr sy’n recriwtio y bydd eich cais am gyfweliad gwarantedig yn cael ei rannu.
Os hoffech chi gael eich ystyried dan y cynllun, dynodwch hyn yn glir yn eich cais.
Pwysig: dan rai amgylchiadau recriwtio fel amseroedd prysur, efallai y bydd raid i ni gyfyngu’r nifer o gyfweliadau a gynigir. Bydd hyn yn cynnwys y nifer o gyfweliadau a gynigir trwy’r Cynllun Cyfweliad Gwarantedig. Yn y sefyllfa hon, bydd Hijinx yn sicrhau bod nifer deg a chymesur o ymgeiswyr o gymunedau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol (sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd hon) yn cael cynnig cyfweliad.
Telerau.
Teitl swydd: Cydlynydd Datblygu Artistiaid – De
Rheolwr Llinell: Swyddog Datblygu Artistiaid
Contract: Parhaol
Yn gweithio o: Bydd y swydd hon yn bennaf ar leoliad gyda gweithgareddau Hijinx yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd – bydd y rhan fwyaf o’r amser gweinyddol hefyd yn cael ei dreulio o’n swyddfa newydd yn Chapter gyda’r posibilrwydd o weithio o gartref neu Swyddfa Hijinx ym Mae Caerdydd
Cyflog: Graddfa D, cyflog cychwynnol £28,000 y flwyddyn (pro-rata) (£22,400 gwirioneddol)
Oriau: Pedwar diwrnod yr wythnos (Dydd Llun – Dydd Iau, 3 diwrnod o waith ymarferol ac ar sail gweithgareddau, 1 diwrnod ar gyfer gweinyddu) gyda pheth gwaith ar fin nos a phenwythnosau y bydd amser o’r gwaith in lieu yn cael ei roi ar ei gyfer.
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer contractau rhan-amser a thymor penodol) a gwyliau banc statudol
AMSERLEN RECRIWTIO
23 Tach: Ceisiadau yn cau am hanner nos
w/c 23 Tach: Ceisiadau yn cael eu sgrinio a’u
gwneud yn ddienw
w/c 30 Tach: Llunio rhestr fer
4 Rhag: Bydd pob ymgeisydd wedi cael penderfyniad
a’r gwahoddiadau i gyfweliad wedi eu hanfon
11 Rhag: Cyfweliadau
15 Rhag: Penderfyniad a rhoi cynnig