Edrych yn ôl ar Ŵyl Undod 2024

Gŵyl Undod 2024.

Roedd Gŵyl Undod 2024 yn ŵyl i’w chofio. Diolch i bawb a ddaeth i wylio perfformiad, i’r holl berfformwyr a chriwiau gwych, i’n cyllidwyr, ein cyflenwyr, ein lleoliadau a’n gwirfoddolwyr. Daeth artistiaid ar ymweliad o Sbaen, yr Eidal, Brazil, Seland Newydd a mwy. Cynhaliwyd yr ŵyl yng Nghaerdydd rhwng 3 a 7 Gorffennaf, gyda rhaglenni cysylltiedig ym Mangor (27 Mehefin) a Llanelli (29 Mehefin) hefyd.

Diolch i...

Diolch i Gyngor y Celfyddydau, Arts & Business Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Canolfan Mileniwm Cymru, Chapter, Pontio, Ffwrnes a Grant Stephens Family Law, noddwr Caerdydd.

Perfformiadau am ddim.

Roedd ein gŵyl yng Nghaerdydd yn cynnwys rhaglen anhygoel o berfformiadau am ddim gan Chloe Loftus, Shedan Theater, Danza Mobile, Dança sem Fronteiras, Cía. Vero Cendoya, Ramshacklicious, EGO Arts, Organik Dantza, Blaumeier-Atelier, tanzbar_bremen a’n grwpiau theatr cymunedol Odyssey a Telemachus.

Perfformiadau â Thocynnau.

Cawsom hefyd raglen wych o ddigwyddiadau min nos â thocynnau. Skin, Muscle and Bone gan Chris Tally-Evans a Dança sêm Fronteiras, UNDRESSED gan tanzbar_bremen, CHOO CHOO! gan StammerMouth, C’est BEAU! gan Compagnie DK-BEL, Noson Gomedi Gŵyl Undod, House of Deviant: Untied a Pharti Gŵyl Undod gyda Vaguely Artistic. Cymysgedd o ddawns, theatr, comedi, drag a cherddoriaeth, roedd rhywbeth i bawb.

Ehangu Undod.

Roeddem hefyd wedi cynnwys Ehangu Undod, arddangosfa am ddim o dri gwaith gan artistiaid a chrewyr anabl yn gweithio mewn technoleg ymdrochol, y gallai cynulleidfaoedd eu profi yn y Bocs yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Roedd hon yn ffurf gelfyddydol newydd i Ŵyl Undod.

Rhaglenni Lloeren.

Aethom â fersiynau llai o Ŵyl Undod i Pontio ym Mangor a Ffwrnes yn Llanelli eto, gan drefnu rhestr wych o berfformiadau am ddim i’r cyhoedd ac i ysgolion.

Gŵyl Ffilm Undod.

Eleni cynhaliwyd Gŵyl Ffilmiau Undod ym mis Tachwedd. Darllenwch ragor am Ŵyl Ffilmiau Undod yma.

Gŵyl Ffilm Undod

Quote symbol

“Hwyl ond hefyd yn llawn ystyr. Gallu symud a mynegi eich hun yn y ffordd yna – mae’n rhyfeddol.”

Aelod o’r gynulleidfa

Quote symbol

“Yr ŵyl orau a mwyaf hygyrch yr ydym wedi ei mynychu ers blynyddoedd!”

Artist

Quote symbol

“Hollol WYCH!”

Aelod o’r gynulleidfa

Gweler y Rhaglen Lawn Isod.