Ddegawd yn ôl, heriodd pyped dwy droedfedd y byd – ac mae’n dal i ymladd.
Ar ôl teithio i 20+ o wledydd a phlesio miloedd o gynulleidfaoedd, mae Meet Fred yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig am daith y dengmlwyddiant. Mae’r cynhyrchiad tywyll o ddoniol hwn, a dderbyniodd ganmoliaeth y beirniad, yn dilyn Fred, pyped o ddefnydd sy’n ceisio byw bywyd cyffredin–cael gwaith, cariad, bod yn rhan o gymdeithas. Ond gan fod ei Lwfans Byw Pypedau dan fygythiad, mae byd Fred yn troelli allan o reolaeth. Sut allwch chi gadw eich annibyniaeth pan fydd y system yn rheoli’r cortyn?
Gyda ffraethineb crafog, dychan gwleidyddol miniog, ac eiliadau o dynerwch annisgwyl, mae Meet Fred yn gomedi na ddylech ei cholli sydd wedi canu cloch gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd. Wedi ei chreu gan y cwmni theatr cynhwysol Hijinx, mae’r sioe yn cynnwys cast disglair o berfformwyr gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a heb anableddau, y mae eu profiad bywyd yn rhoi dyfnder a dilysrwydd i ymdrech Fred.
Yn dathlu 10 mlynedd o wneud i gynulleidfaoedd chwerthin, rhyfeddu ac ailfeddwl am y byd o’u cwmpas, mae Meet Fred yr un mor bwysig a pherthnasol heddiw ag erioed.
Yn cynnwys iaith gref, themâu i oedolion a phypedau noeth.
Gwybodaeth Hygyrchedd Taith Dathliad Dengmlwyddiant:
- Bydd capsiynau yn Gymraeg a Saesneg ym mhob perfformiad yng Nghymru.
- Bydd capsiynau yn Saesneg ym mhob perfformiad yn Lloegr.
- Bydd gwybodaeth am berfformiadau gyda Dehongli BSL a Disgrifiad Sain ar gael yn fuan.
Archebu Tocynnau:
Llwyddiant byd-eang!.
Mae Meet Fred wedi cael ei pherfformio dros 250 o weithiau, wedi cael ei gweld gan dros 25,000 o bobl, wrth ymweld â 145 o ddinasoedd mewn 20 o wledydd ar draws 3 chyfandir.
⭐⭐⭐⭐⭐ Edinburgh Guide
⭐⭐⭐⭐⭐ The Herald
⭐⭐⭐⭐⭐ Broadway Baby
⭐⭐⭐⭐⭐ To Do List
⭐⭐⭐⭐⭐ The Upcoming
⭐⭐⭐⭐ The List
⭐⭐⭐⭐ The Stage
Taith Dathliad Dengmlwyddiant Meet Fred
Trelar.
Adolygiadau.
Main, doniol a difyr tu hwnt.
Lyn Gardner, The Guardian
wedi lunio'n ddyfeisgar, yn ddoniol tu hwnt, darn o theatr rydych wir ddim eisiau ei golli.
Broadway Baby
Packed full of first-rate theatrical invention, irreverent revelling, and with an urgent human story at its heart, Meet Fred is a real marvel. Essential viewing for humans and puppets everywhere.
Total Theatre
Tîm Creadigol.
Ben Pettitt-Wade
Cyfarwyddwr
Ceri James
Dylunydd goleuo
Tom Ayres
Rheolwr Cynhyrchu
Ellis Wrightbrook
Cynhyrchydd
Jonathan Dunn
Cerddoriaeth Gwreiddiol
Tom Espiner a Giulia Innocenti
Dramayddion Pypedwaith (o Blind Summit)
Lindsay Foster, Dan McGowan, Richard Newnham, Craig Quat, Morgan Thomas a Martin Vick
Cast Dyfeisio gwreiddiol
Jon Dafydd-Kidd, Denni Dennis, Ellen Gorves ac Academi 1 (De)
Dyfeiswyr Cyfnod Ymchwil a Dtablygu