Ymgynghoriaeth

Rydym yn darparu gwasanaethau ymgynghori wedi eu teilwrio i anghenion eich sefydliad.

Mae ein sesiynau ymgynghori wedi eu dylunio i ymdrin â heriau penodol yn eich gweithle a chreu newid ymarferol a chynaliadwy.

Rydym yn gweithio gyda chi i ddynodi rhwystrau sy’n atal ymarfer cynhwysol a meysydd lle gellid gwella. Dan arweiniad ein hactorion gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, rydym yn rhannu dealltwriaeth ar sail profiadau bywyd ochr yn ochr ag arbenigedd proffesiynol. Gyda’n gilydd rydym yn archwilio heriau o’r byd go iawn ac yn datblygu strategaethau sy’n grymuso eich sefydliad i greu ymarfer mwy cynhwysol, hygyrch ac effeithiol.

Beth yw’r manteision?
  • Canolbwyntio ar yr heriau penodol y mae eich busnes yn eu hwynebu o ran cyfathrebu effeithiol ac ymarfer cynhwysol
  • Lle diogel i ofyn cwestiynau dan arweiniad ein hactorion gyda phrofiad bywyd

Cysylltwch i gael gwybod sut y gallech chi neu eich sefydliad gael budd.