Swydd Wag: Ymddiriedolwyr

dyddiad cau 31 Ionawr 2025

Swyddi Gwag: Ymddiriedolwyr (Gwirfoddol).

Ynglŷn â Bod yn Ymddiriedolwr

Mae ymuno â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn Theatr Hijinx yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu at gymuned gelfyddydol ddeinamig a chynhwysol. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n barod i gynnig safbwyntiau a dealltwriaeth newydd, wedi eu meithrin trwy brofiadau bywyd a phroffesiynol.

Boed yn brofiadol mewn swyddi ar fyrddau neu yn ystyried bod yn ymddiriedolwr am y tro cyntaf, bydd eich cyfraniad yn hanfodol wrth ein helpu i fynd trwy a chyfoethogi tirwedd theatr gynhwysol, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd heb gael eu cynrychioli’n ddigonol yn Hijinx ac yn y diwydiant celfyddydol oherwydd rhwystrau yn gysylltiedig ag ethnigrwydd, dosbarth, anabledd, rhyw, daearyddiaeth, rhywioldeb, oedran a chrefydd. Mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn unigolion sy’n dwyn setiau penodol o sgiliau sy’n gyson â’n hanghenion:

  • Cynllunio Strategol
  • Anabledd, Hygyrchedd a Chynhwysiant
  • Y Gymraeg
  • Prosiectau Cyfalaf
  • Codi Arian a Rhoi Gan Unigolion
  • Adnoddau Dynol
  • Ymgysylltiad Cymunedol
  • Marchnata a Chyfathrebu
  • Cynaliadwyedd, Argyfwng Hinsawdd a/neu Gyfiawnder Hinsawdd
  • Artist/Gweithiwr Creadigol Gweithredol
  • Cyllid

Sylwer os gwelwch yn dda mai gwirfoddol yw swyddi Ymddiriedolwyr ac felly yn ddi-dâl, ond gellir talu treuliau rhesymol.


Swydd Wag

Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.

Hijinx Trustee Recruitment Pack – Cymraeg – 2024 (Plain Text Word)

Hijinx Trustee Recruitment Pack – Cymraeg – 2024 (PDF)

Os oes angen y wybodaeth am y swydd ar fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar eloise.tong@hijinx.org.uk


Sut i Ymgeisio

Os credwch eich bod chi yn addas ar gyfer y swydd ac y byddech yn hoffi ymgeisio, anfonwch y canlynol atom:

  • CV cyfredol yn dweud wrthym amdanoch chi – a pham eich bod yn teimlo mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd, gan sicrhau eich bod yn amlygu eich profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word, os gwelwch yn dda.
  • Llythyr esboniadol o ddim mwy na dwy ochr – yn dweud wrthym pam mai chi yw’r ymgeisydd iawn a sut y byddech yn mynd ati i ymdrin â chyfrifoldebau’r swydd neu fideo o ddim mwy na 5 munud.
  • Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi ei llenwi – i’w llenwi ar-lein yma cadarnhewch yn y llythyr esboniadol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.

Dylid anfon ceisiadau at eloise.tong@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau.

Bydd y ceisiadau’n cau am hanner nos ar 31 Ionawr 2025. 


Amrywiaeth a Chynhwysiant

Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd, angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill, neu angen y wybodaeth am y swydd ar fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar eloise.tong@hijinx.org.uk

Ein Heffaith.