Christmas No.1

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r sioe! Gadewch eich sylwadau ar y wal bosteri tu allan i Stiwdio Weston, neu tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @HijinxTheatre #ChristmasNo1 #HOdyssey

Lawrlwythwch y sengl elusen.

Bydd yr holl elw o'r sengl Nadolig elusennol 'The Spirit of Christmas' yn mynd tuag at PAWB Hijinx, ein gwaith cymunedol a chyfranogiad!

Lawrlwythwch o Bandcamp

Rydych Wedi Bod yn Gwylio…

Staff Stiwdio Recordio ‘The Warehouse’.

Hefin Robinson

Chuck Wolf

Matthew Mullins

Gof Bedlob

Gary Cook

John 'turn up the volume' Jones

Tommy Powell

Luis Dooley

Becky King

Ruby

Mary Johnson, Tom Elstob

Cerddorion Sesiwn

Jordan Quaite

Shane

Lewis Tagg

Smidge

Blue Balmforth

Smithy

Megan Thomas Stone

Tea Girl

Bandiau ‘Spirit of Christmas’.

Holly Fry, Matthew Cook, Sian Fouladi, Stuart Campbell

The Jam Breakers

Amalia Banteli

Dolly Cash

Geraint Stewart-Davies

Yr Athro

Andrew Tadd, Daniel Mannings, Kirsty Rosser

Murder of Crows

Josh Walker

Peter Piper

Freddie Holcombe

Teresa (Peter's Momager)

Gareth Tidball & Simon Richards

Vaguely Electrical

Y Dynion Arian.

Sara Pickard

Mr Black

Perla M Ponce Núñez

Mr Blue

Bradleigh Way

Mr Brown

A secret identity!

Mad Maestro

Gareth Clark

Gordon Oliver

Gordon Oliver's Sous Chefs (Hijinx Telemachus).

Amy Johnston

Callum Murray

Chris Dymott

Danny Thomas

Imogen Warner

Ivar Harris

Jacey Corbett

Joel Minihane

Dino Goodwin

Leo Baker

Maddie Lee

Morgana Luke

Olivia Thomas

Thomas Ellis

Leah Newman

Mae sioe aeaf Odyssey bob amser yn uchafbwynt ein blwyddyn.

Dathliad o’r hyder, creadigrwydd a chymuned y maent wedi eu llunio trwy fod yn rhan o Pawb, ein rhaglen gymunedol gynhwysol trwy Gymru.

Bydd perfformiad eleni yn lansio ein hymgyrch godi arian Nadolig, gan godi arian i gefnogi ein grwpiau cymunedol cynhwysol ar draws Cymru. Mae pob cyfraniad yn ein helpu i gadw ein drysau ar agor – a sicrhau bod gan ein haelodau le i greu, perfformio a pherthyn.

Cyfrannwch nawr ac fe wnawn ni anfon copi digidol am ddim o sengl newydd sbon Odyssey ar gyfer y Nadolig, The Spirit of Christmas

Tîm Creadigol.

Jon Dafydd-Kidd

Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd

Story

gan GaggleBabble, wedi'i ddyfeisio gyda Hijinx Odyssey

Hannah McPake

Sgript

Lucy Rivers

Cerddoriaeth a Geiriau

Kitty Callister

Dylunio

Tom Ayres

Rheolwr Cynhyrchu

Ellis Wrightbrook

Cynhyrchydd

Hefin Robinson

Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Gareth Tidball

Cyfarwyddwr Telemachus

Mary Johnson

Cerddor a Chyfarwyddwr Cerdd

Tom Elstob

Cerddor

Tim Griffiths

Cynorthwy-ydd Cynhyrchu

Eugene Capper

Peiriannydd Sain

Gareth Tidball

Hwylusydd Cynorthwyol Odyssey

Leah Newman

Hwylusydd Cynorthwyol Telemachus

Caitlin Rickard

Marchnata a Dylunio Argraffu

Sami Dunn

Dehongliad BSL

Alastair Sill

Disgrifiad Sain

Ozzy Corbett

Gwaith Celf

Nodyn gan y Cyfarwyddwr, Jon Dafydd-Kidd...

Ar ôl 10 mlynedd o ail-greu storïau a storïau tylwyth teg, roeddem am herio ein hunain i greu rhywbeth hollol newydd – ac roeddem yn credu mai Gagglebabble oedd y tîm creadigol i’n helpu ni. Felly, ar ôl ein cynhyrchiad 25 mlwyddiant, Pirates of the Odyssey Inn, fis Rhagfyr diwethaf, ymunodd Hannah a Lucy gydag Odyssey am sesiwn i archwilio beth allai’r cynhyrchiad am 2025 fod. Yno, y noson honno, fe darwyd y nodyn, ac fe aned Christmas No.1. Efallai y byddwch yn tybio, ar ôl deng mlynedd o gydweithio gyda’r cast hwn o bobl greadigol y bydd y broses hon yn un hawdd ei rhagweld, ond fe fyddech yn anghywir! Mae pob blwyddyn yn antur o greu. Antur sy’n llawn o’u dychymyg diddiwedd, heriau, ymddiriedaeth, ymroddiad, hiwmor a pharodrwydd i archwilio. Ond yn bennaf oll, rwyf yn fwyaf diolchgar am eu cyfeillgarwch. Wrth eu hochrau rwy’n gweld sut i fod yn rhywun creadigol llai swil, ac yn berson mwy cariadus. Nhw yw gwir Ysbryd y Nadolig.

Nodyn gan Lucy Rivers a Hannah McPake, sef Gagglebabble….

Roeddem wrth ein boddau o gael gweithio gydag Odyssey Hijinx i greu sioe Nadolig eleni. Rydym wedi cael amser gwych yn gweithio gyda’r cwmni yn archwilio steiliau gwallt yr 80au, ymddygiad roc a rôl a beth sy’n gwneud cân yn Rhif 1 Nadolig. Arweiniodd hyn at stori ysbryd a Nadolig unigryw, wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, sy’n dathlu gwir ysbryd y Nadolig. Pan wnaethon ni feddwl am y syniad o seilio’r sioe ar recordio cân elusen Nadolig gyntaf (wedi ein hysbrydoli gan Band Aid sydd yn 40 oed erbyn hyn) nid oeddem yn sylweddoli i ba raddau y byddai realiti yn dynwared celfyddyd pan gawsom ni recordio ein cân wreiddiol ‘Spirit of Christmas’ gyda Chanolfan Mileniwm Cymru; gyda meicroffonau, clustffonau, peiriannydd, criw ffilmio a phawb yn canu eu gorau fel sêr pop, roedd yn brofiad gwirioneddol lawen a chofiadwy.

Nodyn gan Gareth Tidball, Cyfarwyddwr Telemachus...

Boed yn greu gwaith gwreiddiol, perfformio golygfeydd wedi eu sgriptio, neu wneud gwaith byrfyfyr ar y pryd, mae aelodau grŵp Telemachus eleni yn dewis LLAWENYDD dros bopeth arall.

Ers ymuno ym mis Ionawr fel Cyfarwyddwr Telemachus, rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan y grŵp hwn o bobl ifanc, sy’n lledaenu egni positif heintus pryd bynnag y byddant yn gweithio a chwarae gyda’i gilydd.

Mae eu cyfraniad doniol iawn at sioe eleni yn enghraifft wych o dalent, haelioni a chreadigrwydd y grŵp. Byddwch yn barod i brofi athrylith wyllt y Sous Chefs…a *Bon Appetit!*

Gyda diolch i...

V Johns, Brad a thîm Canolfan Mileniwm Cymru am eu cefnogaeth, Theatr na nÓg, Yr Eglwys Norwyaidd, Y Tabernacl, Daniel Lawrence, Jake Bufton, Bar One, Jen Lucey, Alex Davies a’r tîm o Wirfoddolwyr Blaen Tŷ.

Prifysgol De Cymru.

Eleni, dynodwyd dau bartner o’r cast i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig o Brifysgol De Cymru. Wrth archwilio hwyluso cynhwysol, maent wedi bod yn dod i adnabod eu partneriaid i fod yn sail i greu celfyddyd gyda’r thema ‘Disgiau Aur’. Edrychwch ar yr holl waith celf wrth ddod i mewn i Stiwdio Weston a mynd allan ohoni!

Myfyrwyr:
Blake Price
Elena Berkutckaia
Elinor Murphy
Emily Stadon
Frankie Rosato
Lottie Hurley-Prentice
Rae Kingsley
Rosie Ellix
Ruby Morgan
Siobhan Danks
Sivianthini Sarvananthan
Tyr Leach-Martin

Arweinydd Modiwl Profiad ar Leoliad:
Emily Bull

Arweinydd Modiwl Celf:
Becky Davies

Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau’r sioe! Fyddech chi’n hoffi bod yn rhan o wneud i hyn ddigwydd y flwyddyn nesaf?.

Felly pam na wnewch chi gael eich busnes i noddi cynhyrchiad Odyssey y flwyddyn nesaf! Mae gennym lu o gyfleoedd noddi cyffrous i fusnesau – boed hynny’n gefnogi perfformiad fel yr un yr ydych newydd ei fwynhau, neu efallai un o’n teithiau theatr sydd wedi ennill gwobrau, neu hyd yn oed Å´yl Undod – un o’r unig wyliau theatr rhyngwladol i bobl anabl yng Nghymru.

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant sgiliau cyfathrebu deinamig a diddorol i fusnesau a gweithleoedd ar draws Cymru, pob sesiwn wedi ei seilio ar brofiad personol actorion Hijinx.