Gŵyl Undod 2026.
Gŵyl Undod 2026 oedd y 12fed o’r gyfres. Fe wnaethom gyflwyno rhestr fywiog o theatr, dawns, comedi, syrcas, drag a cherddoriaeth o safon uchel o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop, gyda digwyddiadau yn yr Wyddgrug (27 Mehefin) a Chaerdydd (1 – 5 Gorffennaf). Yn anffodus, bu’n rhaid canslo’r digwyddiad yn Llanelli yn 2026 oherwydd y gwres eithafol.
Gyda diolch i...
Canolfan Mileniwm Cymru, Chapter, Ffwrnes, Theatr Clwyd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Digwyddiadau Cymru, Sefydliad Jenour, Ymddiriedolaeth Leche, Grant Stephens Family Law, Cymdeithas Dai First Choice, Taith, Arts & Business Cymru.
Perfformiadau am Ddim.
Yn yr ŵyl yn 2026 yng Nghaerdydd roedd gennym raglen ffantastig o berfformiadau am ddim gan ADM-VZW, tanzbar_bremen, Blaumeier-Atelier, Stopgap, Humans Move, Taking Flight, Cwmni Dawns Monmouthshire Connected, Satélite Teatro, Cwmni Dawns Anjali a com.dance, Compagnie de l'Oiseau-Mouche, Danza Mobile, Theatr Iolo a Kitsch & Sync Collective.
Perfformiadau â Thocynnau.
Cawsom hefyd raglen wych o ddigwyddiadau min nos â thocynnau: Agoriad Mawr Gŵyl Undod, noson o gabaret yn cael ei harwain gan Midgitte Bardot gyda pherfformiadau gan Danza Mobile, Hijinx a House of Deviant, Baby Bumps gan Theatr Thikwa a hannsjana, Gwaith ar y gweill gan House of Deviant a Vaguely Artistic, The Day the Man Stepped on the Moon gan Danza Mobile, Down gan Collettivo Clochart a pharti Gŵyl Undod yn cynnwys cerddoriaeth gan yr House of Deviant a Fransen.
Rhaglenni Lloeren.
Eleni, bu’n rhaid gohirio ein diwrnod o berfformiadau yn Ffwrnes, Llanelli, yn anffodus, oherwydd y gwres eithafol ac amodau na ellid gweithio ynddynt. Llwyddwyd i gynnal y rhaglen lloeren yn yr Wyddgrug yn Theatr Clwyd, lleoliad newydd i’r ŵyl, a chyflwynwyd rhaglen o theatr stryd am ddim.
“Fe wnes i fwynhau popeth amdano”
Sylw’r gynulleidfa
“Mor emosiynol!”
Sylw’r gynulleidfa
“Mae wedi chwalu fy mhen”
Sylw’r gynulleidfa