Gweithdai Cyfathrebu

Rydym yn darparu gweithdai rhyngweithiol, dan arweiniad actorion sydd wedi eu teilwra i fodloni nodau dysgu eich tîm.

Mae ein gweithdai’n cael eu llunio o gwmpas heriau penodol yn y gweithle. Trwy chwarae rhan trochol, adrodd hanes profiad personol, a thrafodaeth agored, mae ein hactorion yn creu lle diogel lle gall eich tîm archwilio datrysiadau, cynyddu hyder a datblygu sgiliau ymarferol.

Cynlluniwyd pob sesiwn i fod yn berthnasol iawn i’ch sefydliad, gan sicrhau bod staff yn gadael yn teimlo eu bod wedi eu paratoi, eu grymuso ac yn barod i weithredu.

Beth yw’r manteision?
  • Gweithio gydag oedolion ag anabledd dysgu a/neu awtistig mewn amgylchedd diogel, anfeirniadol
  • Mwy o ymwybyddiaeth o gwsmeriaid a/neu staff bregus
  • Ennill hyder i gyfathrebu gyda chwsmeriaid a/neu staff bregus
  • Sesiynau grŵp bach sydd wedi eu teilwrio ar eich cyfer chi a’ch busnes
Ar gyfer pwy mae hyn?

Mae ein gweithdai yn ddelfrydol ar gyfer timau sy’n wynebu cwsmeriaid (rheolwyr a gweithwyr) sy’n ymdrin â’r cyhoedd yn gyson, ar draws diwydiannau. Rydym yn teilwrio’r gweithdy i sefyllfaoedd y byddwch yn eu hwynebu o ddydd i ddydd yn y gwaith.

Quote symbol

Mae’r sesiynau chwarae rolau hyn wedi galluogi pobl i arbrofi a dysgu mewn amgylchedd diogel iawn. O ganlyniad, maen nhw’n fwy parod i ymdrin yn naturiol ag unrhyw un sydd angen cymorth arbennig.

Deb Bowen Rees, Prif Weithredwr, Maes Awyr Caerdydd

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut all eich cwmni manteisio.